Mae ABHI, UKQuantum a Swyddfa Gwantwm yr Adran Gwyddoniaeth, Arloesedd a Thechnoleg yn eich gwahodd i weminar i ddysgu mwy am botensial synwyryddion cwantwm i drawsnewid y maes synhwyro a diagnosteg meddygol.
Mae ABHI, UKQuantum a Swyddfa Gwantwm yr Adran Gwyddoniaeth, Arloesedd a Thechnoleg yn eich gwahodd i weminar i ddysgu mwy am botensial synwyryddion cwantwm i drawsnewid y maes synhwyro a diagnosteg meddygol
Mae synwyryddion cwantwm yn cynnig newid sylweddol mewn galluoedd ar draws amrywiaeth o gymwysiadau diagnostig gan gynnwys profion in vitro, in vivo, delweddu a phrofion sy’n cynnwys ymyrraeth.
Nod y weminar:
- Codi ymwybyddiaeth o alluoedd technegol synwyryddion cwantwm ar gyfer cymwysiadau gofal iechyd.
- Esbonio sut y gallwch chi gydweithio ag ymchwilwyr ac arloeswyr ym maes synhwyro cwantwm.
- Tynnu sylw at gymorth strategol ac economaidd y Llywodraeth i fabwysiadu synwyryddion cwantwm ym maes iechyd.
Anelwyd y sesiwn at arloeswyr, ymchwilwyr, buddsoddwyr, llunwyr polisïau iechyd ac arweinwyr meddyliau ym maes Technoleg Iechyd.