Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru
,
-
,
Ar lein / Ystafell Arloesi, Iechyd a Gofal Digidol Cymru, Tŷ Glan-yr-Afon, 21 Heol Ddwyreiniol y Bont-faen, Caerdydd, CF11 9AD
Ymunwch â ni ar gyfer y digwyddiad Data Mawr nesaf ar 16 Mehefin.

Ymunwch â Chydweithredfa Modelu Cymru, Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru a thîm yr Adnodd Data Cenedlaethol i drafod cyfeiriad data yn y dyfodol, cyfleoedd i gydweithio, a ffyrdd ymarferol o ddefnyddio data mawr yn y sectorau iechyd a gofal.
Mae gennych chi’r opsiwn o fynychu’n bersonol neu ar-lein. Os gallwch chi fynychu’n bersonol, bydd trafodaeth ford gron i archwilio ymhellach y materion a’r cyfleoedd a godwyd yn ystod y digwyddiad. Cynhelir y digwyddiad gan Gydweithredfa Modelu Cymru yn swyddfa Iechyd a Gofal Digidol Cymru, Tŷ Glan-yr-Afon, 21 Heol Ddwyreiniol y Bont-faen, Caerdydd, CF11 9AD.
Rydyn ni’n edrych ymlaen at eich gweld chi yno!
Diddordeb mewn mynychu?