Rheolwr Cyllid
Mae Louise yn Gyfrifydd Siartredig sydd wedi gweithio mewn nifer o ddiwydiannau ar draws y sector preifat a chyhoeddus, gan arbenigo mewn cyfrifeg rheoli a chyllidebu.
Gan ddechrau ar ei gyrfa ym maes archwilio, bu Louise yn hyfforddi yn PKF yn Llundain cyn cymhwyso yno fel Archwilydd a Chyfrifydd Siartredig. Yno, bu’n gyfrifol am adolygu cyfriflenni ariannol i sicrhau cywirdeb a chydymffurfiaeth â rheoliadau a safonau cyfrifyddu. Mae hi’n aelod o Sefydliad y Cyfrifwyr Siartredig yn yr Alban.
Yn ddiweddarach, ymunodd Louise â’r diwydiant lle bu’n rheoli cyllid ac yn paratoi adroddiadau ariannol yn y sectorau recriwtio a manwerthu, cyn cymryd seibiant gyrfa i fagu ei theulu ifanc.
Mae gan Louise BSc mewn Cemeg o Brifysgol Warwick, lle bu’n astudio am dair blynedd.
Mae Louise yn gyfrifol am adroddiadau ariannol a rheolaeth ariannol yn Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, gan ganolbwyntio ar bartneriaethau busnes a symleiddio prosesau ar draws y sefydliad.