Mae Mike yn arwain y tîm Cyflawni Rhaglenni yn Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, tîm sy’n canolbwyntio ar gyflymu’r broses o fabwysiadu atebion arloesol er mwyn gwella iechyd a llesiant yng Nghymru.
Ym 1997, enillodd Mike PhD mewn Cemeg Organig cyn gweithio am dros 25 mlynedd yn y Diwydiant Gwyddorau Bywyd. Mae wedi ymgymryd â swyddi allweddol ym maes Gweithrediadau ac Arweinyddiaeth Ymchwil a Datblygu. Yn fwyaf diweddar, roedd yn Rheolwr-gyfarwyddwr yn Cytiva (y DU) ac yn Arweinydd Safle yn Cytiva (Caerdydd).
Mae’n aelod da o dîm, yn arweinydd ac mae canolbwyntio ar bobl yn bwysig iddo. Mae ei gryfderau’n cynnwys datblygu a rhoi cynlluniau tactegol ar waith sydd wedi’u cynllunio i gyflawni blaenoriaethau strategol sefydliad.
Mae Mike yn swyddog cymorth cyntaf Iechyd Meddwl hyfforddedig ac yn eiriolwr dros amrywiaeth.