Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru

Rydym ni’n edrych ymlaen at gymryd rhan yn ConfedExpo y GIG 2025 ar gyfer y brif gynhadledd iechyd a gofal a gynhelir gan Gonffederasiwn y GIG mewn partneriaeth â GIG Lloegr. 

The NHS ConfedExpo stage from 2024

Mae ConfedExpo y GIG yn ddigwyddiad blynyddol blaenllaw ar gyfer sector gofal iechyd y DU, ac mae’n denu dros 5,000 o arweinwyr, gweithwyr proffesiynol a phartneriaid o bob rhan o'r sector iechyd a gofal.

Eleni, rydym ni’n gweithio mewn partneriaeth â’r Rhwydweithiau Clinigol Cenedlaethol i gyflymu prosesau mabwysiadau arloesedd, gan ddefnyddio gwybodaeth glinigol a’r galw systemig i flaenoriaethu datrysiadau effeithiol a fydd yn gwella canlyniadau iechyd a gofal yng Nghymru.

Mae’r Rhwydweithiau Clinigol Cenedlaethol yn cael eu harwain gan arbenigwyr a grwpiau amlbroffesiwn o fewn Gweithrediaeth y GIG yng Nghymru. Mae’r rhwydweithiau hyn yn dod â chlinigwyr, rheolwyr a defnyddwyr gwasanaethau at ei gilydd i wella gofal ym mhob rhan o’r wlad. 

Dewch i’n gweld ni ar stondin G80 a bydd cyfle i chi: 

  • Sgwrsio a thîm Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru ac arweinwyr clinigol o bob rhan o Gymru
  • Edrych yn fanylach ar ein gwaith arloesi a mabwysiadu arloesedd ym maes gofal iechyd
  • Dysgu am y cydweithio sy’n digwydd rhyngom ni, GIG Cymru a sefydliadau eraill yn y diwydiant
  • Darganfod sut rydym ni’n mynd i’r afael â’r prif heriau sy’n wynebu’r maes gofal iechyd drwy greu partneriaethau strategol a chael effaith yn y byd go iawn. 

Gallwch hefyd fynd i weld ein tîm ar ein stondin arall sydd wedi ei lleoli yn Hwb Arloesi’r Rhwydwaith Arloesedd Iechyd.

Dywedodd Cari-Anne Quinn, Prif Swyddog Gweithredol, Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru:

“Dyma’r pedwerydd tro’n olynol i ni fynd i ConfedExpo ac rydym ni’n edrych ymlaen yn arw at siarad ag eraill sydd yn angerddol am greu newid. Mae ein partneriaeth gyda’r Rhwydweithiau Clinigol Cenedlaethol yn sicrhau bod ein prosesau mabwysiadu arloesedd yn rhai targedol, effeithiol, a chlinigol ystyrlon. Drwy rannu nodau ac arbenigedd, mae’r bartneriaeth hefyd yn ein galluogi i gydweithio’n effeithiol gyda’r diwydiant a GIG Cymru.” 

Os ydych chi’n mynd i gynhadledd ConfedExpo y GIG ac yn awyddus i drafod sut y gallwn ni eich cefnogi, cysylltwch â ni i drefnu cyfarfod: hello@lshubwales.com.