Ymunwch â ConfedExpo y GIG 2025 ar 11 a 12 Mehefin yng nghanolfan Manchester Central ar gyfer y brif gynhadledd iechyd a gofal a gynhelir gan Gonffederasiwn y GIG mewn partneriaeth a GIG Lloegr.
ConfedExpo y GIG yw prif gynhadledd iechyd a gofal y Deyrnas Unedig, ac mae hi wedi ymrwymo i arwain ar arloesedd a gwella’r gofal y mae’r cleifion a’r cyhoedd yn ei gael.
Mae’r gynhadledd yn denu dros 5,000 o arweinwyr, gweithwyr proffesiynol, a phartneriaid o bob rhan o’r maes iechyd a gofal, ac yn rhoi cyfle iddynt gydweithio, rhannu gwybodaeth ac i ddatblygu datrysiadau arloesol er mwyn darparu gofal o safon i bawb.
Mae’r digwyddiad hwn yn rhad ac am ddim i aelodau Conffederasiwn y GIG, y GIG, awdurdodau lleol, a gweithwyr sector cyhoeddus ehangach.