Un o’r sialensiau mwyaf dyrys sy’n wynebu’r GIG yw poblogaeth sy’n heneiddio, sydd yn aml yn dioddef gan gyd glefydeddau ac anghenion gofal cymhleth. Disgwylir y bydd y boblogaeth dros 65 yn cyrraedd o leiaf 700,000 erbyn 2030.
Mae hwn yn cyflwyno sialens i wasanaethau iechyd gyda’r cyfle i fynd i’r afael â hyn trwy arloesedd mewn cyflawniad gwasanaeth a mabwysiad technoleg, a hefyd i fusnesau, mentrau cymdeithasol ac ymchwilwyr sy’n gallu cynorthwyo pobl i aros yn weithgar a chynhyrchiol fel y maent yn heneiddio.
Bydd y sesiwn yma yn pwyso a mesur yr angen i ail ystyried y safbwyntiau ynglŷn â beth ydy heneiddio, sut y gallwn heneiddio yn well a’r meddylfryd a’r datrysiadau arloesol sy’n gallu cefnogi’r system iechyd a gofal, a defnyddio’r adnoddau trwy well lles a disgwyliad bywyd iachus.