Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru

Bedair blynedd yn ôl, roedd Brian yn gweithio fel adeiladwr yng Nghaerdydd. Newidiodd ei fywyd ar unwaith pan ddisgynnodd oddi ar do, gan lanio ar wal, a gorfod mynd i'r ysbyty. Sgan arferol ar gyfer trawma oedd hyn i ddechrau, ond arweiniodd at newyddion trychinebus.

Craig Dyer, Gemma Behenna, Patient Brian

Fel y cofia Brian “Daeth meddyg ymgynghorol trawma draw ataf gyda newyddion drwg. Mae gennych chi ganser...mae ym mhob man. Yr ysgyfaint, arennau, pledren, prostad.” 

Heriau o ran diagnosis

Roedd y sioc yn aruthrol, nid i Brian yn unig ond i'w deulu hefyd. Ond er yr ansicrwydd, cafodd Brain obaith yn y driniaeth a ddilynodd. Roedd ei daith tuag at gael diagnosis ymhell o fod yn syml, gyda'r ymdrechion cychwynnol i gynnal biopsi ar y tiwmorau yn Ysbyty Llandochau yn aflwyddiannus.

“Fe wnaethon nhw geisio cymryd biopsïau o’m hysgyfaint, a dywedodd y meddyg ymgynghorol nad oedd yn gallu gwneud hynny oherwydd lleoliad y nodiwlau, felly roedden nhw’n cael trafferth cael unrhyw fath o fiopsi o’r ysgyfaint.”

Yna, cafodd Brian gynnig teithio i Ysbyty St Bartholomew yn Llundain ar gyfer broncosgopi mordwyol, sef triniaeth nad yw ar gael yn lleol. Mae broncosgopi mordwyol gan Intuitive yn fiopsi perifferol nad yw’n ymwthiol iawn ar yr ysgyfaint, sy'n casglu samplau o feinwe'r ysgyfaint, hyd yn oed pan fo nodiwlau'r ysgyfaint yn fach ac wedi'u lleoli yn yr ymylon, fel y gall clinigwyr gyrraedd namau bach ar yr ysgyfaint yn fanwl-gywir a sefydlog.

Mae Craig Dyer, Meddyg Ymgynghorol Anadlol, Ysbyty Athrofaol Cymru, arweinydd Grŵp Safleoedd Canser Cymru, yn egluro'r daith ddiagnosis tuag at driniaeth ar gyfer broncosgopi mordwyol i Brian a chleifion cymwys eraill. Ar hyn o bryd, mae cleifion yng Nghymru yn cwrdd â meddyg ysgyfaint lleol ac yn cael cyfres o sganiau (CT a PET), a phrofion gweithrediad yr ysgyfaint. Mae hyn yn helpu'r tîm i weld a oes canser cyfnod cynnar yn bresennol, ac a yw biopsi'r ysgyfaint safonol dan arweiniad CT yn bosibl. Yn achos Brian, lle nad oedd yn gallu cael biopsi, bu’r tîm yn trafod y dewis o froncosgopi mordwyol yn Llundain.

Er mwyn i hyn ddigwydd, anfonir cais cyllido claf unigol at y panel yn y bwrdd iechyd, ac ar ôl iddo gael ei dderbyn, bydd y claf wedyn yn cael ei atgyfeirio i Lundain. Dim ond llond llaw o ganolfannau yn y DU sy'n cynnig y driniaeth ddatblygedig hon, pump ohonynt yn Llundain, a dim un yng Nghymru – sy'n golygu bod cleifion yn aml yn gorfod teithio i Lundain.

Taith a thriniaeth Brian yn Llundain

Roedd gwraig a merch Brian yn poeni, yn enwedig o ystyried nifer y triniaethau yr oedd Brian eisoes wedi’u cael, nad oedd yn gysylltiedig â’i ddiagnosis o ganser yr ysgyfaint. Llundain oedd ei ail driniaeth ar bymtheg. Roedd y triniaethau a’r ymweliadau mynych â'r ysbyty wedi cael effaith ar y teulu cyfan, gan wneud y daith i Lundain yn arbennig o anodd.

“Roedd y daith i Lundain yn frawychus. Dylai [y driniaeth] fod wedi bod ar gael yma mewn gwirionedd, mae’n daith hir. Daeth fy ngwraig a'm merch ieuengaf gyda mi; fe gostiodd £1,400 am ddwy noson yno. Roedd fy nheulu’n poeni, gan fy mod wedi cael llawer o driniaethau yng Nghaerdydd, ond roedden nhw’n fwy pryderus a doedden nhw ddim eisiau i mi fod yn Llundain ar fy mhen fy hun yn llwyr, rhag ofn i rywbeth ddigwydd. Weithiau, gall rhywbeth fel hyn fod yn faich ariannol ar bobl. Byddai cael y math hwn o driniaeth yma yng Nghymru’n llawer mwy cyfleus.”

Dywedodd Craig Dyer, Meddyg Ymgynghorol Anadlol, Ysbyty Athrofaol Cymru, arweinydd Grŵp Safleoedd Canser Cymru:

“Ar ôl i ni atgyfeirio claf at Ysbyty St Bartholomew, mae’n cael ei wahodd i Lundain, o fewn ychydig wythnosau, lle bydd y driniaeth yn cael ei chynnal fel arfer ar yr un diwrnod ag y bydd yn cyrraedd, o dan anaesthetig cyffredinol. Mae’r dechnoleg wedi’i rhaglennu i wybod yn union o ble mae angen iddynt gymryd y biopsi, felly mae’n fiopsi penodol iawn wedi’i dargedu.

Mae'r driniaeth ei hun yn cymryd tua 40 munud, a gall y rhan fwyaf o gleifion fynd adref yr un diwrnod, er bod rhai yn aros dros nos. Anfonir y canlyniadau yn ôl i’r tîm yng Nghymru o fewn ychydig wythnosau.”

Roedd y driniaeth ei hun yn drobwynt i Brian a'i deulu. “Roedd y driniaeth yn wych. Roeddwn i mewn ac allan. Gallwn i fod wedi dod adref yr un diwrnod ond fe wnes i aros noson ychwanegol. Ar ôl y biopsi yn Llundain, cafodd llawdriniaeth ei chynnal o fewn mis, yn lleol. Does gen i ddim byd ond canmoliaeth – rydw i’n dal yma.”

“Mae’n rhaid i mi fod yn onest; roedd St Barts yn wych. Fe wnaethon nhw ofalu amdanaf yn dda, does gen i ddim byd ond canmoliaeth, a hyd yn oed yn ôl i lawr i'r tîm yng Nghaerdydd. Rwy’n credu ei bod hi’n gwbl hanfodol eu bod yn cael un o’r rhain [triniaeth broncosgopi mordwyol] yng Nghymru.”

Bywyd ar ôl diagnosis a thriniaeth

“Mae treulio amser gyda fy nheulu a’m hwyres wedi dod yn fwy gwerthfawr fyth. Rydw i’n teimlo’n emosiynol fy mod i hyd yn oed wedi llwyddo i gerdded fy merch i lawr yr eil y llynedd, rhywbeth nad oedd neb yn ei ddisgwyl.”

Mae bywyd ar ôl diagnosis a thriniaeth wedi newid i Brian. Bu’n rhaid iddo ymddeol ond mae wedi canfod pwrpas yn gwirfoddoli yn Felindre ddeuddydd yr wythnos, gan roi rhywbeth yn ôl i’r ysbyty a fu'n gofalu amdano.

“Mae’r llawdriniaeth yn ystod haf 2024 wedi achub fy mywyd. Roedd y meddyg ymgynghorol wedi dweud wrthyf fod fy nghanser yn ymosodol. Dydy o ddim wedi dod yn ôl [2025]. Bob tri mis, rydw i'n cael apwyntiad dros y ffôn, ac ymhen blwyddyn arall, sgan arall i wneud yn siŵr ei fod yn dal yn glir.”

Brian oedd un o'r cleifion cyntaf yng Nghaerdydd i deithio i Lundain i gael broncosgopi mordwyol, sef triniaeth a achubodd ei fywyd. “Gyda’r llawdriniaeth hon a bywyd normal, rydw i’n iawn. Weithiau’n flinedig, neu’n fyr o wynt, ond rydw i’n meddwl ei fod yn wych, a does dim canser yr ysgyfaint arnaf!”

Integreiddio broncosgopi mordwyol yn llwybr canser yr ysgyfaint yng Nghymru

Mae stori Brian yn pwysleisio pam mae cyflwyno broncosgopi mordwyol i Gymru yn gam sylweddol o ran diagnosis, llesiant a phrofiad cleifion. Gallai sicrhau bod y dechnoleg hon ar gael yn lleol drawsnewid llwybr canser yr ysgyfaint.

Ar hyn o bryd, gwelir nad oes canser ar tua thraean y cleifion sy'n cael llawdriniaeth ar gyfer amheuaeth o ganser cyfnod cynnar. Drwy alluogi biopsïau mwy cywir lleiaf ymwthiol, gallai broncosgopi mordwyol helpu i osgoi llawdriniaethau diangen a sicrhau bod cleifion yn cael diagnosis cyflymach a chliriach.

Fel yr esbonia Craig Dyer, Meddyg Ymgynghorol Anadlol, Ysbyty Athrofaol Cymru, arweinydd Grŵp Safleoedd Canser Cymru:

“Mae diagnosis cynharach a mwy cywir, ac ymyrraeth gynharach, yn allweddol. Byddai cael y gwasanaeth hwn yn lleol yn golygu llai o ansicrwydd a straen i gleifion a theuluoedd, a byddai’n lleihau’r effaith seicolegol, corfforol ac ariannol yn sgil diagnosis a thriniaeth.”

Mae'r dechnoleg hon yn nodi dechrau taith drawsnewidiol ar gyfer diagnosteg canser yr ysgyfaint yng Nghymru. Y cam nesaf yw cynnal cynllun peilot wedi'i werthuso yn rhanbarth y de-ddwyrain, dan arweiniad Craig a'r tîm clinigol, gyda'r uchelgais o ehangu'r dull hwn ledled Cymru. Bydd y cynllun peilot yn asesu'r effaith ar ganlyniadau a phrofiad cleifion ac yn gosod y sylfeini ar gyfer gwneud y dechnoleg ddatblygedig hon yn hygyrch i bawb sydd ei hangen.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â: helo@hwbgbcymru.com