Lleoliad: Rhyddid i weithio o bell ac yn ein swyddfa yng Nghaerdydd
Yn atebol i’r: Cyfarwyddwr Mabwysiadu Arloesedd
Cyflog: £68,770
Oriau: Amser llawn (37.5 awr yr wythnos)
Cyfnod: Parhaol
Gwybodaeth am y rôl
Dewch i ymuno â’n Uwch Dîm Rheoli yn Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru! Gan weithio’n agos gyda’n Huwch Dîm Arwain a’n Bwrdd, byddwch yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o adeiladu a chyflawni llif o asesiadau arloesi a phrosiectau mabwysiadu er mwyn gwella iechyd a llesiant yng Nghymru.
Rydyn ni’n chwilio am unigolyn sy’n gallu gweithio gyda thîm o unigolion talentog i ddarparu ein rhaglenni gofal digidol a meddygaeth fanwl. Rydyn ni’n canolbwyntio ar fabwysiadu datblygiadau arloesol trawsnewidiol, canfod cyfleoedd addawol, cefnogi newid yn y system a chyflawni llif o arloesedd fesul cam.
Bydd y rôl hon yn hanfodol i gefnogi ein Cyfarwyddwr Mabwysiadu Arloesedd arwain tîm i gyflymu'r broses o fabwysiadu atebion arloesol ar gyfer gwell iechyd a llesiant yng Nghymru. Byddwch yn datblygu ac yn gweithredu strategaeth effeithiol i ganfod a chyflwyno rhaglenni allweddol sy’n diwallu anghenion a gofynion rhanddeiliaid drwy fynd ati’n rhagweithiol i chwilio am gyfleoedd a gynigir gan y diwydiant a’u hasesu, a’u cyfateb i anghenion iechyd a gofal cymdeithasol. Mae’r rôl hon yn amrywiol ac yn flaengar, ac mae angen arbenigedd i arwain tîm i reoli prosiectau a rhaglenni’n llwyddiannus yn amgylchedd y sector cyhoeddus. Ar lefel dactegol, mae’r ffocws ar genomeg, diagnosteg, therapïau uwch, deallusrwydd artiffisial, data mawr a dadansoddeg rhagfynegol.
Fel aelod o’n Huwch Dîm Rheoli, byddwch hefyd yn canolbwyntio ar gynllunio a chyflawni amcanion busnes a chyflawni rhaglenni, sy’n cynnwys:
- Cefnogi’r broses o ganfod heriau heb eu diwallu ym maes gofal cymdeithasol ac iechyd a chyfleoedd ar gyfer atebion arloesol, llywio ffocws ein prosiectau, ein rhaglenni a’n gwasanaethau cymorth mabwysiadu ac arloesi.
- Dylanwadu ar rwystrau mewnol ac allanol sy’n rhwystro mabwysiadu arloesedd.
- Cefnogi newid trawsnewidiol ar draws arloesedd ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.
- Ymgorffori arloesedd yn niwylliant y sector iechyd a gofal cymdeithasol.
Os ydych chi’n frwd dros gyfrannu at weithle gwych a chefnogi llwyddiant ein tîm, rydyn ni’n eich annog i wneud cais.
Oriau Gwaith
Rydyn ni’n ymfalchïo mewn bod yn gyflogwr hyblyg. Rhyddid i weithio o bell a hefyd yn ein swyddfa ym Mae Caerdydd. Bydd treulio amser wyneb yn wyneb gyda’ch tîm a chydweithwyr eraill yn allweddol yn y rôl arwain hon.
Rydyn ni’n gofyn i bob cydweithiwr fod yn bresennol yn bersonol o leiaf ddwywaith yr wythnos yn ein swyddfa a mynd i gyfarfodydd allweddol, hyfforddiant neu ddigwyddiadau blaenoriaeth eraill wyneb yn wyneb. Byddwch hefyd yn treulio amser gwerthfawr yn cydweithio â rhanddeiliaid a phartneriaid prosiect.
Gair amdanoch chi
Yn y rôl bwysig hon, byddwch yn arweinydd cryf sydd wedi arfer sbarduno newid mewn amgylchedd heriol. Byddwch wrth eich bodd yn gweithio gydag amrywiaeth o randdeiliaid a bydd iechyd a llesiant pobl Cymru bob amser yn brif amcan i chi. Mae gennych agwedd gadarnhaol ac rydych wrth eich bodd yn meddwl am atebion ymarferol i ddatrys problemau. Rydych chi’n berson pobl ac yn mwynhau cefnogi a datblygu eich tîm ac eraill yn y sefydliad ar eu taith gyrfa.
Rydyn ni hefyd yn chwilio am y canlynol:
- Profiad o ddatblygu strategaeth a chyflawni gweithredol mewn amgylchedd cymhleth sy’n cynnwys nifer o randdeiliaid er mwyn cyrraedd targedau, nodau ac amcanion.
- Medrus o ran datblygu a throsi strategaethau yn gynlluniau cyflawni rhaglenni.
- Profiad o arwain a datblygu pobl, adnoddau a phrosesau i sicrhau bod cynlluniau’n cael eu cyflawni’n briodol a’u bod yn cyflawni’r canlyniadau disgwyliedig, gan nodi problemau neu rwystrau’n gynnar a rhoi camau unioni ar waith.
- Profiad o siapio a darparu ymgysylltu hynod effeithiol ar draws amrywiaeth eang o randdeiliaid.
- Medrus o ran cynnull, arwain a chyfrannu at raglenni a phrosiectau arloesi cydweithredol sy’n cynnwys llawer o randdeiliaid
Pam dewis gweithio i Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru?
Rydyn ni’n dîm cyfeillgar sy’n gweithio gyda phartneriaid ysbrydoledig o ddiwydiant, y byd academaidd a’r sector iechyd a gofal cymdeithasol sy’n dod o hyd i atebion arloesol er mwyn cyrraedd mwy o bobl yn gyflymach.
- Diwylliant gweithio hyblyg a chefnogol
- Cydbwysedd cefnogol rhwng bywyd a gwaith, gyda hawl hael i wyliau - 30 diwrnod o wyliau blynyddol pro rata a gwyliau cyhoeddus yn ychwanegol
- Cynllun pensiwn gyda chyfraniad o 11% gan y cyflogwr.
Gwnewch gais nawr!
Cliciwch yma i lawrlwytho'r swydd ddisgrifiad. I geisio, anfonwch neges e-bost atom yn careers@lshubwales.com gyda ffurflen cyfle cyfartal wedi’i llenwi, eich CV diweddaraf a datganiad ategol (dim mwy na dwy dudalen o hyd) yn egluro sut rydych chi’n bodloni'r meini prawf hanfodol ar gyfer y swydd hon, a pham eich bod yn credu mai chi yw’r person gorau ar gyfer y cyfle cyffrous hwn.
- Rhaid i’ch cais ein cyrraedd ni erbyn 12pm ar 27 Ionawr 2026.
- Cynhelir y cyfweliadau ar 10 & 11 Chwefror 2026 yn ein swyddfa ym Mae Caerdydd.
I gael gwybod sut i wneud cais ac i gael trafodaeth anffurfiol am y swydd hon, cysylltwch â Rhodri Griffiths, Cyfarwyddwr Mabwysiadu Arloesedd, drwy anfon e-bost at rhodri.griffiths@lshubwales.com.