Mae labordy blaenllaw sydd wedi'i neilltuo'n arbennig ar gyfer arwain profion Covid-19 cenedlaethol wedi'i sefydlu yng Nghaerdydd, diolch i gydweithio rhwng Iechyd Cyhoeddus Cymru ac un o brif gwmnïau diagnosteg y byd. 

Perkin Elmer building

Mae creu labordy profi Covid-19 cenedlaethol yn Ysbyty Athrofaol Cymru yn rhan bwysig o strategaeth Profi Olrhain Diogelu Llywodraeth Cymru, ac mae wedi'i wneud yn bosibl diolch i gefnogaeth gan gwmni diagnosteg amlwladol, PerkinElmer Inc., arweinydd byd-eang sydd wedi ymrwymo i arloesi er mwyn creu byd iachach.

Yn sgil dyfodiad y pandemig byd-eang, bu gwledydd ledled y byd yn chwilio am adnoddau profi hanfodol i ganfod a mynd i'r afael â lledaeniad Covid-19. Roedd staff labordai Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi bod yn gweithio er mwyn mynd i'r afael â phroblemau gyda chadwyn gyflenwi gyfyngedig er mwyn dod o hyd i system amgen, ddibynadwy a fyddai'n gallu cynnal nifer fawr o brofion ar gyfer haint Covid-19 yng Nghymru.

Ymateb i'r pandemig

Ymatebodd PerkinElmer i alwad ar y diwydiant i weithredu, a gyhoeddwyd gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, gyda chynnig i gael gafael ar becynnau profi a chyfarpar labordy o'r radd flaenaf i'w prosesu.    

Gan weithio gyda'i gilydd, nododd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru a'r tîm yn PerkinElmer beth oedd anghenion allweddol Cymru o ran adnoddau ac aethant ati i sicrhau mynediad at ffynonellau hanfodol o offer uwch a deunyddiau profi sydd eu hangen ar gyfer y labordy yng Nghaerdydd.  

Llwyddodd staff yng Nghanolfan Firoleg Arbenigol Cymru, sy'n cael ei gweithredu gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, i werthuso cynnig gan PerkinElmer yn gyflym, a gwiriwyd gallu'r cwmni i fodloni gofynion Iechyd Cyhoeddus Cymru. Llwyddodd Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd i lywio'r trefniadau caffael a chontractio yn gyflym fel y gellid defnyddio'r offer yn ddi-oed.

Gyda safleoedd sefydledig yng Nghymru a'r Deyrnas Unedig, roedd PerkinElmer yn gallu gweithio'n gyflym gyda'i gwsmeriaid yn y Deyrnas Unedig i archebu dyfeisiau technoleg a allai gael eu haddasu'n gyflym ar gyfer cynnal profion Covid-19.

Yn ogystal â chanfod offer echdynnu uwch, mae PerkinElmer hefyd wedi darparu cyflenwad hanfodol i Gymru o'i becynnau profi masnachol penodol i Covid-19 y mae galw amdanynt ledled y byd.

Fel y sefydliad a benodwyd gan Lywodraeth Cymru i fod yn brif bwynt cyswllt ar gyfer ymgysylltu cychwynnol rhwng y diwydiant â'r gwasanaeth iechyd, gweithiodd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn gyflym i nodi gallu PerkinElmer i gefnogi strategaeth brofi Covid-19 Cymru.  

Meddai Cari-Anne Quinn, Prif Swyddog Gweithredol Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru:

"Mae gennym sector gwyddorau bywyd ffyniannus yng Nghymru sydd wedi bod yn chwarae rhan allweddol o ran creu cynhyrchion y mae eu hangen ar frys, nid yn unig ar gyfer Cymru, ond fel rhan o'r ymateb byd-eang i'r pandemig.

"Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn gweithio gyda gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru i ddeall yr heriau maen nhw'n eu hwynebu. Gan ddefnyddio ein profiad o'r sector gwyddorau bywyd, rydyn ni wedyn yn gweithio gyda chwmnïau ac arloeswyr ar draws Cymru, y Deyrnas Unedig a ledled y byd i ddod o hyd i atebion.

"Roedd PerkinElmer yn deall y gwir angen i feddwl, gweithredu a darparu'n arloesol er mwyn diwallu anghenion uniongyrchol. Rhaid canmol eu gallu i leoli a darparu adnoddau i fynd i'r afael â gofynion brys Cymru, yn ogystal â'u gwaith parhaus gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru i sefydlu labordy â chyfarpar llawn i fodloni gofynion profi parhaus y wlad."

Cynyddu galluedd profi yng Nghymru

Ar ôl trefnu bod offer oedd gan gwsmeriaid presennol yn y Deyrnas Unedig yn cael ei gludo i Gymru, gweithiodd PerkinElmer gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru i greu cadwyn gyflenwi a fyddai'n caniatáu i Gymru wella ei gallu profi yn Ysbyty Athrofaol Cymru ymhellach.

Dywedodd Masoud Toloue, Ph.D, Is-Lywydd a Rheolwr Cyffredinol, Diagnosteg, PerkinElmer:

"Yn ystod y pandemig yma, mae llywodraethau'n chwilio am arweiniad ar yr arferion profi gorau ar gyfer Covid-19 er mwyn gallu ailddechrau gweithgareddau busnes ac economaidd arferol, gan sicrhau diogelwch eu dinasyddion ar yr un pryd."

"Mae cydweithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru yn sicrhau cadwyn gyflenwi sefydlog o gyfarpar echdynnu asid niwclëig a phecynnau RT-PCR a'r offer angenrheidiol i ddarparu'r atebion profi gorau i Lywodraeth Cymru."

Mae PerkinElmer yn sefydliad byd-eang sydd wedi bod yn gweithio yng Nghymru ers dros hanner can mlynedd. Mae safle gweithgynhyrchu lleol y cwmni wedi'i leoli ym Mharc Busnes Llantrisant ac, ar hyn o bryd, mae'n cyflogi dros 130 o weithwyr medrus iawn mewn cyfleuster 50,000 troedfedd sgwâr. 

Meddai David Heyburn, pennaeth gweithrediadau ar gyfer diogelu iechyd a microbioleg yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:

"Roedd yn amlwg o'r dechrau bod tîm PerkinElmer yn cael ei yrru gan yr angen i helpu, ac roedd yn ymroddedig i weithio gyda ni i gefnogi'r gwaith o ddatblygu gallu profi Cymru.

"Gweithiodd PerkinElmer yn gyflym i ddarparu cyfarpar yr oedd yn gallu ei brynu o'r Deyrnas Unedig, a fyddai'n galluogi'r gwaith i ddechrau tra bod adnoddau ychwanegol yn cael eu prynu o'r tu allan i'r Deyrnas Unedig. Cafodd hyn ei gynnig yn ddiamod, ac mae'n enghraifft o'r ewyllys da sy'n bodoli ymysg llawer o bartneriaid ar draws sector gwyddorau bywyd Cymru.

"Mae hyn wedi arwain at gydweithio gweithredol lle mae GIG Cymru wedi archebu platfformau profi ac adweithredyddion i brofi am Covid-19."

Mae cynyddu capasiti profi yn rhan bwysig o strategaeth Profi Olrhain Diogelu Llywodraeth Cymru, ac mae hyn yn cynnwys cynyddu'r gallu i brosesu rhagor o brofion drwy labordai Cymru.    

Meddai Ken Skates, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a'r Gogledd yn Llywodraeth Cymru: 

"Mae PerkinElmer yn enwog drwy'r byd ac mae ei rôl allweddol a'i arbenigedd wrth sefydlu'r labordy uwch hwn yn sicrhau ei fod yn ymuno â'n cyfleusterau profi o'r radd flaenaf yma yng Nghymru.

"Hoffwn ddiolch i PerkinElmer a'r holl bartneriaid sy'n cymryd rhan am eu hymroddiad a'u hymdrech wrth sefydlu'r labordy yma.

"Hoffwn ddiolch hefyd i Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru am eu rôl hollbwysig yn cefnogi gwaith mor hanfodol bwysig."

Cyflwynwch eich cynnig o gefnogaeth

Rydym yn dal i dderbyn cynigion o gefnogaeth mewn perthynas â Covid-19 a thu hwnt, i gyflwyno eich cynnig ewch i'n porthol ar-lein.