Trydydd parti

Mae canser y prostad yn effeithio ar 1 ym mhob 8 dyn drwy gydol eu bywydau. Oherwydd bod pobl yn byw’n hirach a mwy o ymwybyddiaeth, mae amlygrwydd a nifer yr achosion o ganser y prostad yn cynyddu.

Caiff diagnosis o ganser y prostad ei wneud gan amlaf drwy ddefnyddio sganiau Cyseinedd Magnetig (MRI); serch hynny, mae'r sganiau hyn yn gofyn am ddehongli arbenigol a dulliau adrodd prydlon. Gall diffyg radiolegwyr fod yn ffactor cyfyngol, yn enwedig wrth i’r cynnydd yn y galw arwain at oedi o fewn y llwybr diagnostig.  

Hywel Dda / Moondance cancer initiative

Nodau’r prosiect:

Cafodd y platfform MRI sy’n seiliedig ar JivaRDX AI/ML ei werthuso dros ddeunaw mis ar draws pob un o 4 safle ysbytai acíwt Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Fel rhan o’r gwerthuso cyfredol, fe wnaethom ddadansoddi'n ôl-weithredol sganiau 121 o gleifion dan amheuaeth o ganser y prostad. Defnyddiwyd y sganiau dienw hyn, ynghyd â lefelau o antigen gwaed sy’n benodol i’r prostad (PSA) (bioddangosydd cyfarwydd ar gyfer canser y prostad) ac oed cleifion, i ddangos dichonoldeb platfform JivaRDX fel rhagfynegydd aml-ddull o bresenoldeb y clefyd. 

Dechrau’r prosiect:

Cafodd diagnosis canser y prostad gyda chymorth AI ei gefnogi gan Fenter Canser Moondance a defnyddiwyd dulliau cymysg. Defnyddiwyd meini prawf cynhwysiant a gwahardd ac roedd data cleifion yn ddienw o’r cychwyn cyntaf.

Heriau’r prosiect:

Nod y gwerthusiad hwn oedd profi ei fod gyfwerth â’r driniaeth safonol, o ran sensitifrwydd a phenodoldeb y feddalwedd ochr yn ochr ag arbenigwyr clinigol a radioleg annibynnol a mesur buddion gofal iechyd diagnostig cynnar a Seiliedig ar Werth. Aeth y gwerthusiad i'r afael â'r tri maes blaenoriaeth:

  • Diagnosis: Effeithiolrwydd datrysiad Jiva.ai i wneud diagnosis o ganser y prostad yn fwy cywir o fewn y llwybr clinigol (sgan MRI).  

  • Gwerthuso a oes modd ehangu’r datrysiad JIVA.ai sydd wedi’i gynllunio’n arbennig i gyflymu asesiad radiolegol, ac felly’n cyflymu penderfyniadau am driniaethau.  

  • Gofal iechyd sy’n seiliedig ar werth i fesur manteision datrysiad Jiva.ai o ran canlyniadau gweladwy i gleifion.  

Canlyniadau’r prosiect:  

I gloi, gwelwyd bod model MRI sy’n seiliedig ar JivaRDX AI/ML yn darparu 77% o sensitifrwydd, 65% o benodolrwydd a 69% o gywirdeb wrth ganfod canser y prostad. Mae nifer o astudiaethau wedi dangos penodolrwydd Radiolegwyr o 57%.  Er bod y canlyniadau hyn yn hynod o addawol, mae angen dadansoddi pellach cyn symud JivaRDX i ofal clinigol arferol o fewn Hywel Dda. Profwyd bod y system JivaRDX yn sensitif ac yn benodol o ran ei botensial i roi diagnosis ac mae angen astudiaethau pellach i fireinio’r model. Fe wnaethom ganfod bod gan y system y gallu i integreiddio i’n systemau a’n llwybrau clinigol cyfredol.  

At hynny, mae ein hymwneud â thimau clinigol a chleifion yn dangos ymateb positif yn gyffredinol i'r defnydd o AI cyn belled â bod mesurau diogelu ar waith. Mae canlyniadau model dadansoddol penderfyniadau Health Enterprise East yn awgrymu bod y system JivaRDX wedi arwain at arbedion cost o £154 ar gyfartaledd (95% CI:-£ 206; -£ 98) fesul claf yn ystod y cyfnod modelu. Mae ansicrwydd ynghylch yr effaith bosib ar ganlyniadau iechyd gan fod y cyfwng hyder yn dangos nad oes digon o dystiolaeth i wrthod y rhagdybiaeth nwl nad oedd JivaRDX yn cael unrhyw effaith ar ganlyniadau iechyd. Mae canlyniad yr achos sylfaenol yn awgrymu bod JivaRDX wedi arwain at gynnydd o 0.125 QALYs fesul claf. 

 

Cyllido’r prosiect:

Diolch hefyd i Fenter Canser Moondance am gyllido’r gwerthusiad ac i Dr Megan Mathias MBE a Wendy Evans am eu cefnogaeth ddiflino.

Tîm a phartneriaid y prosiect:

Yr Athro Chris Hopkins, Gwyddonydd Clinigol Ymgynghorol a Phennaeth Arloesedd a Sefydliad Tritech, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Dr Rachel Gemine, Dirprwy Bennaeth, Mr Billy Woods, Gwyddonydd Clinigol, Yr Athro Keir Lewis, Arweinydd Clinigol, Tritech, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda; Dr Manish Patel, Dr Andrew Thompson, Dr Richard Hammersley a Dr Esin Karahan o Jiva.ai Mr Sohail Moosa, Wrolegydd Ymgynghorol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda 

Am ragor o wybodaeth: https://tritech.nhs.wales/ 

Case study logos