Mae'r cwmni technoleg enfawr, Fujifilm, wedi rhoi golwg gyntaf unigryw i weithwyr gofal iechyd proffesiynol Cymru ar ei ddatblygiad meddygol diweddaraf, cyn lansiad clinigol byd-eang y cynnyrch.

fiji films yn dangos ei scanner newydd

Bu'r cwmni ffotograffiaeth a delweddu rhyngwladol o Japan, sy'n arloeswr mewn delweddu meddygol ac offer diagnosteg, yn arddangos ei feddalwedd deallusrwydd artiffisial (AI) newydd sydd wedi'i integreiddio i mewn i system radiograffeg symudol, mewn digwyddiad a gynhaliwyd gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru.

Mae'r peiriant FDR nano, a gafodd ei gludo o Tokyo ar gyfer y digwyddiad, yn uned pelydr-X symudol sy'n defnyddio technoleg AI integredig i nodi a chanfod annormaleddau y mae angen ymchwilio ymhellach iddynt yn gyflym.  Hon yw'r uned symudol gyntaf gan Fujifilm sy'n defnyddio AI i gyrraedd Ewrop, a bydd yn cychwyn treialon clinigol yn un o ysbytai'r Deyrnas Unedig fis nesaf. 

Mae'r feddalwedd deallusrwydd artiffisial yn yr uned yn amlygu mannau amheus ar ddelwedd i'r radiograffydd sy'n tynnu'r llun pelydr-X gan ddefnyddio map gwres. Mae hyn yn golygu y bydd unrhyw broblemau posib yn cael eu canfod a'u nodi ar adeg yr archwiliad pelydr-X, ac yn hytrach na chael eu hanfon at restr waith radiolegydd heb eu blaenoriaethu, gellir tynnu sylw atynt er mwyn gweithredu arnynt ar unwaith.

Diolch i'r feddalwedd deallusrwydd artiffisial, bydd achosion lle mae annormaleddau wedi'u nodi mewn claf yn cael eu blaenoriaethu a'u cyfeirio ar unwaith at radiolegydd i'w hasesu, gan gyflymu'r broses o wneud diagnosis a chael triniaeth.

Mae'r dechnoleg yn defnyddio algorithmau dysgu dwfn i ddarparu dadansoddiad gweledol ac ystadegol clir o ystod eang o gyflyrau, gan gynnwys twbercwlosis, lle mae ganddi gyfradd canfod o 100%, a chyflyrau ar y frest megis pan fydd yr ysgyfaint wedi dymchwel a chalon fwy, lle mae ganddi gywirdeb o 97%.

Meddai Adrian Waller, Rheolwr Cyffredinol Fujifilm Prydain ac Iwerddon:

"Mae gan y dechnoleg newydd yma'r potensial i ddod â manteision enfawr i ofal iechyd, o ran gwella gofal a thriniaeth cleifion, a gwella effeithlonrwydd gweithredol ar gyfer adrannau radioleg sydd o dan bwysau.  Ar draws maes gofal iechyd, mae deallusrwydd artiffisial yn galluogi cael offer llai, mwy cludadwy i wneud archwiliadau diagnostig yn agosach at y claf gan roi syniad o'r canfyddiadau'n syth.

"Er y gall radiograffwyr ganfod a blaenoriaethu rhai delweddau sy'n peri pryder ar adeg yr archwiliad, caiff llawer o ddelweddau eu cyfeirio at radiolegydd arbenigol i'w darllen a'u dadansoddi heb ddim syniad o flaenoriaeth. 

"Mae prinder dybryd o radiolegwyr ar draws y Deyrnas Unedig, ac mae ôl-groniadau sylweddol mewn llawer o ysbytai sy'n gallu golygu bod rhai achosion yn gallu cael eu neilltuo am rai wythnosau.  Drwy nodi annormaleddau'n syth, gall y dechnoleg newydd yma sicrhau bod achosion yn cael eu blaenoriaethu'n effeithiol a'u rhoi ar frig y rhestr i'w hadrodd, a fydd yn ei dro yn cyflymu'r diagnosis a'r driniaeth i gleifion."

Dadorchuddiodd Fujifilm y peiriant FDR nano newydd, sy'n defnyddio technoleg AI integredig, yn ystod 'Diwrnod Technoleg y Diwydiant' cyntaf Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru – digwyddiad sydd wedi'i gynllunio i roi mynediad cynnar i glinigwyr a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol at dechnoleg feddygol. Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, sydd â'r nod o ysbrydoli ac arloesi ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, yn gweithio er mwyn dod â diwydiant, iechyd a gofal cymdeithasol, a sefydliadau ymchwil ynghyd, a'u hannog i gydweithio er mwyn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i bobl a theuluoedd ym mhob cwr o'r wlad.

Yn ystod y digwyddiad, rhoddodd Fujifilm drosolwg i'r cynadleddwyr o'i bortffolio ehangach o gynhyrchion a sut y gallai'r rhain fod o fudd i system gofal iechyd Cymru.

Mae Cymru yn un o gwsmeriaid mwyaf Fujifilm yn Ewrop, ac mae'r cwmni'n rheoli peiriannau pelydr-X pob bwrdd iechyd ac ysbyty yn y wlad.  Mae mwy na 2.6 biliwn o ddelweddau yn cael eu cynnal yn system archifo lluniau a chyfathrebu (PACS) Fujifilm yng Nghymru.

Meddai Cari-Anne Quinn, Prif Swyddog Gweithredol Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru:

"Roedden ni wrth ein boddau'n croesawu Fujifilm i Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru ac yn llawn cyffro o gael blas o'i dechnoleg newydd sbon, a gafodd ei chludo yma'n arbennig ar gyfer y digwyddiad.

"Mae gwaith arloesol Fujifilm ym meysydd gofal iechyd ataliol a thriniaeth yn crynhoi'r arloesedd a'r newid systematig rydyn ni'n canolbwyntio ar ei ddatblygu yma yn Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru."