Mae ATiC wedi bod yn gweithio gyda Recliners Ltd sy’n datblygu datrysiadau eistedd ar gyfer y marchnadoedd cartref a gofal iechyd. Roedd y ffocws ar gyfres presennol o gadeiriau addasol, o’r enw “Multicare Plus”.

Man on iPad

Mae gan y cynnyrch addasadwy hwn symudiad “Tilt in Space” cynwysedig a weithredir gan y gofalwr, gan ganiatáu i’r gadair gael ei wyro am yn ôl mewn amrywiaeth o safleoedd sy’n ailddosbarthu pwysedd ac yn cynnal onglau’r corff yn y cluniau, pengliniau a phigyrnau.

Cymerodd dîm ATiC ran mewn astudiaeth dechnegol i werthuso’r sedd. Roedd hyn yn cynnwys digideiddio ac optimeiddio astudiaethau o’r gadair er mwyn lleihau’r mas wrth gynnal unplygrwydd mecanyddol. Helodd canlyniad cychwynnol yr astudiaeth i Recliners ddeall sut y gellir gwella’r gadair, a lle mae angen ymchwilio ymhellach.

O’r broses digideiddio cychwynnol mae Recliners wedi datblygu ffurfweddwr cynnyrch 3D wedi’i adeiladu’n rhan o’u gwefan a’r cyfle i ymgorffori realiti estynedig yn rhan o’u gwasanaeth cwsmeriaid.

Mae'r prosiect hwn yn rhan o raglen Cyflymu a ariennir yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, trwy Lywodraeth Cymru.

Cyflymu logos partner