Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru

Yn Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, rydyn ni’n sbarduno’r gwaith o ddatblygu a mabwysiadu arloesedd gwyddorau bywyd ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Rydyn ni’n rhyngwyneb deinamig, sy’n cysylltu arloeswyr gwyddorau bywyd â phartneriaid ymchwil, cyfleoedd cyllido a defnyddwyr - timau iechyd a gofal cymdeithasol ar y rheng flaen - i gefnogi llesiant ac, yn y pen draw, creu twf, swyddi a ffyniant ledled Cymru. Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn cynnig cefnogaeth helaeth ar unrhyw gam ar y daith ddatblygu, hyd at y cam y bydd y defnyddiwr yn ei fabwysiadu.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

Yma

Menter gymdeithasol nid-er-elw sy’n gweithio ym maes gofal sylfaenol i arloesi.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

Canolfan Arloesedd Clwyfau Cymru (WWIC)

Sefydlwyd Canolfan Arloesedd Clwyfau Cymru (WWIC) i fynd i'r afael â'r heriau sy'n gysylltiedig â chlwyfau aciwt, trawmatig a chronig, nad ydynt yn gwella, a'u trin a'u hatal. Mae’r ganolfan yn darparu addysg a hyfforddiant, yn darparu ymchwil glinigol a gwasanaethau ymgynghori masnachol.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

Moondance Cancer Initiative

Mae’r Moondance Cancer Initiative yn canfod, yn ariannu ac yn ysgogi pobl arbennig a syniadau dewr i wneud Cymru’n arweinydd byd-eang ym maes goroesi canser. Ei nod yw cyflymu gwelliant sylweddol a pharhaus mewn canlyniadau goroesi canser dros y 10 i 15 mlynedd nesaf. Maent yn sefydliad nid-er-elw sy’n ariannu gwaith arloesi a gweithredu byw mewn lleoliadau clinigol a all gael effaith ar unwaith ar ganlyniadau goroesi canser i gleifion yng Nghymru.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

Arloesedd Anadlol Cymru

Mae Arloesedd Anadlol Cymru yn gwmni nid-er-elw sydd wedi’i ddylunio i arloesi ym maes iechyd a lles yr ysgyfaint yng Nghymru. Cafodd y cwmni ei ariannu’n wreiddiol gan Lywodraeth Cymru, ac mae’n darparu gwasanaethau fel ymgynghori i sefydliadau sy’n chwilio am arbenigedd wrth iddynt ddatblygu neu wella cynhyrchion a thriniaethau anadlol, yn ogystal â dylunwyr adeiladau i sicrhau bod ansawdd aer yn cael ei optimeiddio.

Services:
Math:
Sector:
Specialism: