DECIPHer

Sefydliad ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd yw DECIPHer ac mae’n cael ei ariannu gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Mae DECIPHer yn dod ag arbenigwyr o amrywiaeth o ddisgyblaethau ynghyd i fynd i’r afael â materion iechyd y cyhoedd fel deiet a maeth; gweithgarwch corfforol; a thybaco, alcohol a chyffuriau, gan ganolbwyntio’n benodol ar ddatblygu a gwerthuso ymyriadau a fydd yn cael effaith ar iechyd a lles plant a phobl ifanc.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

Sefydliad Awen

Mae Sefydliad Awen yn dod ag ymchwilwyr, pobl hŷn a’r diwydiannau creadigol ynghyd i gydgynhyrchu cynnyrch, gwasanaethau ac amgylcheddau ar gyfer heneiddio’n iach.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

Canolfan Arloesi Technolegau Cynorthwyol (ATiC)

Mae ATiC (sy’n rhan o Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant) yn ganolfan cefnogi ymchwil a busnes sy’n canolbwyntio ar ddatblygu technolegau cynorthwyol. Mae'r ganolfan yn cynnig mynediad at arbenigedd academaidd a chyfleusterau arloesol, gan gynnwys labordai UX a chyfleusterau prototeipio.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

Y Ganolfan Ragoriaeth mewn Technoleg Symudol a Datblygol (CEMET)

Mae CEMET (ym Mhrifysgol De Cymru) yn darparu mynediad at brosiectau ymchwil a datblygu 6-8 wythnos o hyd, wedi’u hariannu, i gwmnïau technoleg yng Nghymru sydd wedi’u lleoli yn Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, Sir Gaerfyrddin, Powys, Caerffili neu Fro Morgannwg, i ddatblygu cynnyrch neu wasanaethau mewn meysydd fel Dysgu Peirianyddol, Deallusrwydd Artiffisial, realiti rhithwir a Rhyngrwyd y Pethau.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

Gwasanaethau Biodechnoleg Canolog

Mae'r Gwasanaethau Biodechnoleg Canolog yn gyfleuster technoleg ym Mhrifysgol Caerdydd sy'n cynnig mynediad at gyfleusterau a gwasanaethau ymchwil gwyddorau bywyd, gan gynnwys dadansoddi cellog, profion mynegiant protein a dadansoddi genomig.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

Canolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Lles y Boblogaeth (NCPHWR)

Mae'r NCPHWR yn ganolfan a ariennir gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru sy'n gartref i ymchwilwyr, ystadegwyr a dadansoddwyr data o brifysgolion Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru i ddeall, gwerthuso a llywio gwelliannau iechyd y boblogaeth.

Services:
Math:
Sector:
Specialism: