Yn gweithio mewn partneriaeth gyda Phillips, mae Dr Christopher  Subbe  o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi gweithio ar brosiect arloesol i ddatblygu algorithmau cymhleth i gefnogi cleifion mewn gofal llym: mae deall pwy sy’n gwella  a phwy sydd mewn risg yn rhan hanfodol o ofal iechyd. Mae’r gallu i integreiddio paramedrau a thueddiadau lluosog yn hanfodol i’w gwaith i wneud gofal iechyd yn effeithiol ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.