Mae Cymru’n cynnig ymchwil sy’n arwain y byd, systemau cymorth cysylltiedig, amgylchedd sy’n cefnogi busnesau a rhwydwaith cynyddol o gwmnïau biotechnoleg a thechnoleg feddygol, gan ei gwneud yn lle delfrydol i sefydlu ac ehangu. Darllenwch ein llyfryn i ddysgu mwy am ein hecosystem glos, sy'n barod i gydweithio.
Yn Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, mae ein cenhadaeth yn glir: cyflymu arloesedd sy'n trawsnewid gofal rheng flaen. Rydyn ni'n hybu ffyrdd cydweithredol o weithio ar draws y system iechyd a gofal cymdeithasol, gan weithio mewn partneriaeth â'r diwydiant gwyddorau bywyd i ddatgloi cyfleoedd sy'n sicrhau canlyniadau iechyd gwell a thwf economaidd cynaliadwy.
Fel rhan o'n hymrwymiad i ddatblygiad economaidd Cymru, rydyn ni wedi creu llyfryn cynhwysfawr sy'n llawn gwybodaeth hanfodol ac astudiaethau achos o'r byd go iawn sy'n canolbwyntio ar y gwaith cydweithredol, traws-sector anhygoel sy'n digwydd yma. Mae'r rhain yn cynnwys pethau fel sefydliadau sy'n defnyddio ein hymchwil gwyddorau bywyd o’r radd flaenaf, gwasanaethau sy'n cael eu cydlynu'n genedlaethol ar gyfer treialon clinigol, ochr yn ochr ag amrywiaeth o ganolfannau arloesi byd-eang blaengar ar hyd a lled y wlad.
Mae'r llyfryn yn tynnu sylw at pam mai Cymru yw'r lle delfrydol ar gyfer arloesi ym maes gwyddorau bywyd, a pham dylech chi ei dewis.