Mae Academi Dysgu Dwys Cymru Gyfan ar gyfer Arloesi mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn sylfaen addysgu ac ymchwil o’r radd flaenaf i roi’r gallu i arweinwyr presennol ac arweinwyr y dyfodol ddarparu arloesedd ar draws iechyd, gofal cymdeithasol a’r trydydd sector. 

Bydd yn helpu i gefnogi pob lefel o arloesi drwy ddull dysgu ac ymarfer sy’n seiliedig ar achosion. Bydd dysgwyr yn defnyddio gweithgareddau allweddol fel y gwaith rheng flaen gan Arweinwyr Arloesi’r GIG.  

Mae’r Academi yn bartneriaeth amlddisgyblaethol rhwng Prifysgol Abertawe, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, Comisiwn Bevan a Phrifysgol Caerdydd. Mae’r Academi hefyd yn elwa o wybodaeth ryngwladol a ddarperir drwy ei phartneriaid a’i rhwydweithiau byd-eang.  

Pa gyrsiau sydd ar gael?