Mae systemau iechyd a gofal cymdeithasol ledled y byd yn ei chael yn fwyfwy anodd diwallu anghenion cynyddol dinasyddion. Mae canolbwyntio ar ymyriadau a gofal sy’n cynnig y gwerth mwyaf i’r unigolyn ar y gost isaf bosibl yn gwella cynaliadwyedd yn ogystal â sicrhau’r canlyniadau gorau posibl. 

Mae’r Academi Iechyd a Gofal Seiliedig ar Werth wedi’i dylunio i gefnogi arweinwyr ac uwch reolwyr o’r holl ddiwydiannau iechyd, gofal cymdeithasol a gwyddorau bywyd byd-eang i fabwysiadu Iechyd a Gofal Seiliedig ar Werth yn eu sefydliadau unigol yn llwyddiannus. 

Mae’r Academi’n elwa o enw da Prifysgol Abertawe yn fyd-eang a rhagoriaeth academaidd yn y maes cynyddol hwn i ddarparu ei chyrsiau addysgol sy’n seiliedig ar achosion, sy’n seiliedig ar ymarfer, ei chyfleoedd ymchwil, a’i gwasanaethau ymgynghori pwrpasol. Ar ôl i Fforwm Economaidd y Byd ddynodi Cymru’n Hyb Arloesi Byd-eang yn ddiweddar ar gyfer Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth, mae’r Academi wrth galon rhwydwaith byd-eang sy’n tyfu ar gyfer hyrwyddo’r dull gweithredu hwn.  

Pa gyrsiau sydd ar gael?