Gweledigaeth ar gyfer y dyfodol
Mae’r academïau yn helpu i greu’r genhedlaeth nesaf o arweinwyr byd-eang arloesol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Mae pob academi’n canolbwyntio ar feysydd arloesol gan gynnwys Iechyd a Gofal Seiliedig ar Werth, arloesi, ac iechyd ataliol.
Ochr yn ochr â chynnig gwaith ymchwil ac ymgynghori pob academi, ceir sawl cwrs academaidd o lefel meistr i lefel doethuriaeth, pob un ohonynt yn dechrau ym mis Medi.
Mae’r cyrsiau’n cael eu datblygu a’u cyflwyno gan arweinwyr arbenigol sy’n gweithio ac yn ymchwilio ar flaen y gad yn eu meysydd. Byddwch yn dysgu ochr yn ochr â ffrindiau o gefndiroedd amrywiol er mwyn datblygu sgiliau gwerthfawr ar y cyd sy’n cefnogi iechyd a gofal cymdeithasol trawsnewidiol.
Mae pob Academi Dysgu Dwys yn cynnig:
- Rhaglenni addysgol o’r radd flaenaf
- Ymchwil arloesol
- Gwasanaethau ymgynghori wedi’u teilwra
Mae’r rhaglen Academïau Dysgu Dwys yn tynnu sylw pellach at ddull arloesol Cymru (fel sy’n cael ei amlinellu yn ‘Cymru Iachach’) o ran meithrin yr arweinyddiaeth sydd ei hangen i drawsnewid gwasanaethau. Bydd hyn yn helpu’r sectorau iechyd a gofal cymdeithasol byd-eang i wynebu heriau heddiw ac yfory.
Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn bodoli i gyflymu arloesi ym maes iechyd a gofal cymdeithasol ac mae’n falch iawn o gefnogi a hyrwyddo’r Academïau Dysgu Dwys.
Yr Academïau
Mae pob sefydliad addysg uwch wedi gweithio’n agos gyda byrddau iechyd, gofal cymdeithasol, sefydliadau academaidd, a Llywodraeth Cymru i ddylunio amrywiaeth o gyrsiau pwrpasol ac academaidd:
- Mae’r ‘Academi Iechyd a Gofal sy’n Seiliedig ar Werth’ yn cynnig cyrsiau addysgol, cyfleoedd ymchwil a gwasanaethau ymgynghori ar gyfer Iechyd a Gofal Seiliedig ar Werth, ac mae’n bartner academaidd i’r rhaglen Gwerth mewn Iechyd yng Nghymru, ac yn rhan o Hwb Arloesi Byd-eang Fforwm Economaidd y Byd ar gyfer Gwerth mewn Gofal Iechyd.
- Mae Academi Tegwch Iechyd, Iechyd Ataliol a Llesiant Prifysgol Bangor (AHEPW) yn hyrwyddo addysg drawsnewidiol ac arloesedd fel rhan flaenllaw o iechyd a gofal cymdeithasol. Mae'r Academi, a elwid gynt yn ALPHAcademy, yn cynrychioli ymrwymiad sylweddol i ddatblygu tegwch iechyd, hyrwyddo lles, a hyrwyddo mesurau ataliol i gael byd iachach. Mae AHEPW wedi ymrwymo i ail-lunio'r ffordd y caiff iechyd a gofal cymdeithasol ei ddarparu, nid yn unig yng Nghymru ond ledled y byd. Mae’r Academi wedi’i gwreiddio ar groesffordd rhwng maes addysg, ymchwil ac ymarfer, ac mae’n cynnig amrywiaeth o raglenni ôl-raddedig cynhwysfawr mewn ‘Atal, Iechyd Poblogaethau ac Arweinyddiaeth’, yn ogystal â chyrsiau, gweithdai a modiwlau dysgu unigol mewn pynciau fel newid ymddygiad iach, arweinyddiaeth systemau, tegwch iechyd, diwylliannau dysgu mewn sefydliadau, a llawer mwy. Mae cyfuniad unigryw'r Academi o ddysgu ar-lein ac wyneb yn wyneb yn diwallu anghenion amrywiol gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio, yn ogystal â darparu profiad addysg da.
- Mae’r ‘Academi Dysgu Dwys Cymru Gyfan ar gyfer Arloesi mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol’ ym Mhrifysgol Abertawe yn canolbwyntio ar arloesi a thrawsnewid ym maes iechyd, gofal cymdeithasol a’r trydydd sector, sy’n cael ei datblygu ar y cyd â Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, Prifysgol Caerdydd a Chomisiwn Bevan.
- Nod yr 'Academi Arwain Trawsnewidiad Digidol' ym Mhrifysgol De Cymru yw dod â chymuned o arweinwyr â ffocws digidol ac egin arweinwyr o bob rhan o iechyd, gofal cymdeithasol a'r trydydd sector ynghyd.
Mae’r cymwysterau a gynigir yn cynnwys:
- Graddau Meistr
- Datblygiad Proffesiynol Parhaus ar lefel Addysg Weithredol
- Tystysgrifau ôl-radd
- Diplomâu
- Cyfleoedd ar lefel doethuriaeth
- Cyrsiau arbenigol byr
Pwy all wneud cais am gwrs Academïau Dysgu Dwys?
Mae pob cwrs yn croesawu ceisiadau ar draws systemau iechyd, gofal cymdeithasol a gwyddorau bywyd byd-eang. P’un a ydych yn byw yn y DU, yn Ewrop neu’r tu hwnt, bydd y dysgu sy’n seiliedig ar achosion ym mhob cwrs yn amhrisiadwy i’w gyflwyno i’ch mudiadau unigol.
Ysgoloriaethau’r Academïau Dysgu Dwys
Mae ysgoloriaethau ar gael i’r rheini sy’n gweithio yn y sector iechyd, gofal cymdeithasol a’r trydydd sector yng Nghymru. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch yn uniongyrchol â’r Academi Dysgu Dwys berthnasol.
Sylwer: Gellir cwblhau cyrsiau'n rhan amser neu'n llawn amser ac mae darpariaethau dysgu o bell ar gael.
Sut mae gwneud cais?
Mae ceisiadau ar agor yn awr ar gyfer cyrsiau Academïau Dysgu Dwys. Ewch i dudalennau’r academïau unigol i gael rhagor o wybodaeth.