Arweinydd Rhaglen
Ymunodd Adam â Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru ym mis Awst 2024 yn gweithio fel Arweinydd Rhaglen ar gyfer y Comisiwn Deallusrwydd Artiffisial (AI). Mae Adam yn gweithio gydag amrywiaeth eang o randdeiliaid sy'n ymwneud â gwella'r GIG drwy gyflwyno Deallusrwydd Artiffisial. Mae ei rôl yn cynnwys cefnogi rhanddeiliaid allweddol i gyflawni darnau o waith gwahanol ond rhyng-gysylltiedig fel sgiliau a hyfforddiant, parodrwydd technegol, a llywodraethu a pholisi.
Cefndir mewn TG a rheoli newid sydd gan Adam ac mae ganddo raddau mewn Cyfrifiadureg, y Gyfraith a Hawliau Dynol. Mae Adam wedi gweithio mewn amrywiol swyddi yn y sector preifat, y sector cyhoeddus a’r trydydd sector.