Mae Canolfan Technoleg Gofal Iechyd Accelerate, sy’n cael ei harwain gan Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe, wedi derbyn gwobr yn sgil ei hymdrechion i helpu i wella cynaliadwyedd ac effeithlonrwydd labordai’r brifysgol.
Offeryn yw Fframwaith Asesu Effeithlonrwydd Labordai (LEAF) y mae Prifysgol Abertawe yn ei ddefnyddio i leihau effaith amgylcheddol gweithgarwch sy’n deillio o labordai.
Cymerodd cyfanswm o un labordy ar bymtheg ran yn rhaglen beilot Prifysgol Abertawe, a chafodd y Ganolfan Technoleg Gofal Iechyd (HTC) y wobr efydd.
Mae HTC yn partner y prosiect Cyflymu, ac yn cael ei gyd-ariannu gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru.
Mae gan LEAF feini prawf - sy’n cael eu rhannu’n rhai efydd, arian ac aur - y gall defnyddwyr labordai eu defnyddio mewn meysydd megis gwastraff ac ailgylchu, rheoli offer, caffael a mwy. Un o nodweddion allweddol LEAF yw ei bod yn caniatáu i ddefnyddwyr feintioli eu harbedion a’u heffaith fesul pwys a charbon.
Rhwydwaith Atgynhyrchedd y DU (UKRN) sy’n cefnogi LEAF (Rhwydwaith Atgynhyrchedd yw gwyddoniaeth y mae modd ei hatgynhyrchu, sef y wyddoniaeth fwyaf cynaliadwy, ac mae ffyrdd cyffredin o ddatrys a gwella ansawdd a chynaliadwyedd ymchwil.)
Mae labordai a gweithdai yn hanfodol os ydym i sicrhau rhagoriaeth mewn addysgu ac ymchwil, a dyw hi erioed wedi bod yn bwysicach bod yn ymwybodol o sut mae ymchwilwyr yn gweithio ac effaith bosibl eu gwaith.
Mae defnyddio LEAF yn rhoi golwg newydd i’r staff o ran yr ymchwil a’r addysgu maen nhw’n eu gwneud bob dydd, gan gynnwys sicrhau bod cyn lleied o effaith negyddol yn amharu ar yr amgylchedd lleol, defnyddio adnoddau yn effeithlon a sut i ddefnyddio cyfarpar.
Meddai technegydd HTC Helen Pritchard:
“Gan fy mod wedi bod ynghlwm wrth sefydlu labordy newydd sbon ar gyfer HTC, roedd ymuno â LEAF yn amseru perffaith er mwyn sicrhau bod ein labordy yn gwneud y gorau posibl i roi arferion da a chynaliadwyedd ar waith o’r cychwyn cyntaf.”
“Menter heb ei hail yw LEAF ac mae pob gwobr yn golygu cydymffurfio â maen prawf penodol a chyraeddadwy. Rydyn ni wrth ein boddau gyda derbyn ein gwobr efydd ac rydym yn edrych ymlaen at gael y wobr arian.”
Yn ystod dwy flynedd ddiwethaf y rhaglen beilot mae 22 o sefydliadau wedi anfon 225 o gyflwyniadau, cafwyd arbedion cyson, ac mae timau wedi nodi bod carbon wedi’i leihau, sef cyfartaledd o £3,700 a 2.9 tCO2e fesul blwyddyn a fesul labordy.
Ymhlith y sefydliadau eraill sydd wedi cymryd rhan y mae Prifysgol Bryste, Caergrawnt, Rhydychen, Prifysgol Manceinion, Prifysgol Fetropolitan Manceinion, UCL, Coleg y Brenin a Sefydliad Francis Crick.
Dyma a ddywedodd Martin Farley, Ymgynghorydd Labordai Cynaliadwy a sefydlwr LEAF, Coleg Prifysgol Llundain:
“Bwriad LEAF yw rhoi safon gynaliadwy sy’n benodol i wyddoniaeth a helpu sefydliadau a’r blaned i gyrraedd nodau amgylcheddol tymor hir”.