Hyd y prosiect: 18 mis
Partner: Prifysgol Caerdydd a Cellesce
Trosolwg o'r prosiect:
Mae Polypedd Chwyddol Etifeddol a Polyposis Cysylltiedig â MUTYH (FAP a MAP) yn syndromau etifeddol sy’n golygu bod rhagduedd i gleifion ddatblygu polypau chwyddol a risg uchel o ganser y colon a’r rhefr.
Mae treialon asiantau therapiwtig wedi bod yn aneffeithiol i raddau helaeth hyd yn hyn, gyda thriniaeth safonol yn arbennig o fewnwthiol h.y. colectomi ac yna archwiliadau gastroberfeddol uchaf rheolaidd yn y dwodenwm.
Mae’r prosiect hwn yn ymateb i’r angen am blatfform cadarn i drawsnewid sgrinio cyffuriau a galluogi ymagwedd therapiwtig benodol. Mae organoidau yn glystyrau aml-gellog 3D sy’n deillio o fiopsïau cleifion sy’n ail-greu trefniant gofodol a bioleg meinwe wreiddiol y claf. Maent, i bob pwrpas, yn ‘fini-organau’ sy’n darparu model 3D sy’n fwy perthnasol i batholeg ddynol na llinellau celloedd 2D.
Cyfraniad Cyflymu:
Mae Cyflymu yn cynorthwyo proses o gydweithredu rhwng academyddion Prifysgol Caerdydd (Grŵp Ymchwil Syndromau Tiwmorau Etifeddol) a Cellesce, cwmni BioTech o Gymru, i sefydlu model organoid cyn-glinigol in vitro o syndromau FAP a MAP.
Mae Cellesce wedi datblygu biobroses dan batent ar gyfer ehangu organoidau sy’n deillio o bobl ar raddfa, gyda’r nod o sgrinio cyfansawdd mewnbwn uchel yn y diwydiant fferyllol ac ar gyfer ymchwil academaidd.
Bydd cymorth Cyflymu yn galluogi’r cydweithredwyr i gynhyrchu organoidau perfeddol 3D newydd, sy’n deillio o feinweoedd cleifion FAP a MAP, a’u tyfu ar raddfa i’w masnacheiddio. Bydd y gwaith hwn yn sail i ddilysu’r model organoid fel llwyfan effeithiol ar gyfer sgrinio cyffuriau ar gyfer canserau coluddol etifeddol ac ysbeidiol.
Mae'r prosiect hwn yn rhan o raglen Cyflymu a ariennir yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, trwy Lywodraeth Cymru.