Hyd: 16 mis
Partneriaid: QBiotics & Prifysgol Caerdydd (Cyflymu Arloesi Clinigol (CIA))
Crynodeb
Mae defnydd gwrthficrobaidd i atal twf neu ladd micro-organebau/microbau, wedi cael effaith sylweddol ar welliannau iechyd ledled y byd. Serch hynny, mae'r defnydd amhriodol o gyffuriau gwrthficrobaidd fel gwrthfiotigau, wedi arwain at ficrobau yn addasu ac yn datblygu ymwrthedd. Gelwir hyn yn ymwrthedd gwrthficrobaidd (AMR), a gall ddigwydd mewn bacteria, firysau, ffyngau a pharasitiaid.
Gall casgliad o'r microbau hyn arwain at ffurfio bioffilm, lle mae'r microbau'n glynu wrth ei gilydd ac yn glynu at yr arwyneb. Mae bioffilmiau bacteriol yn gysylltiedig â thua 80% o heintiau cronig a chlwyfau sy’n gwrthod gwella mewn pobl, ac mae'r bioffilmiau "gludiog" hyn yn rhoi ymwrthedd yn erbyn cyffuriau fel gwrthfiotigau. I liniaru hyn, mae ymyriadau therapiwtig wedi archwilio ffyrdd i atal neu darfu ar ffurfio bioffilmiau a hwyluso rhoi cyffuriau i'r bioffilmiau hyn. Mae datblygiadau yn y maes hwn yn helpu i fynd i’r afael â phroblemau clinigol sylweddol, sydd yn y pen draw, yn gwella canlyniadau i gleifion sydd â chlwyfau cymhleth a heintiau cronig.
Mae fforest law drofannol Queensland yn gartref i amrywiaeth o goed brodorol. Mae’r prosiect hwn yn archwilio rôl therapiwteg newydd sy’n deillio o gynnyrch yr amgylchedd trofannol hwn (epoxy-tiglianes) ac yn archwilio eu gweithredu gwrth-bioffilm.
Cyfraniad Cyflymu
Mae Cyflymu yn cefnogi’r broses o gyflwyno'r prosiect cydweithredol hwn rhwng QBiotics a’r Uwch Grŵp Therapïau a’r Adran Heintiau ac Imiwnedd ym Mhrifysgol Caerdydd.
Mae'r prosiect yn cael ei gyflwyno drwy arbenigedd clinigol ac academaidd Prifysgol Caerdydd gan weithio ochr yn ochr ag arbenigedd diwydiannol QBiotics. Bydd y tîm hwn yn ymgymryd â'r gwaith angenrheidiol i archwilio'r mecanwaith gweithredu y tu ôl i'r cyfansoddyn arweiniol (EBC-1013) wrth dorri bio-ffilmiau sy’n gwrthsefyll gwrthfiotigau ac yn rhoi hwb i system imiwnedd y croen. Disgwylir i waith o’r fath gyflymu datblygiad therapïau priodol.
Canlyniadau disgwyliedig
-
Mecanweithiau gweithredu sydd wedi’u diffinio gan
EBC-1013 ar lefel molecwlaidd a chellog -
Integreiddio a chysylltiadau o fewn yr ecosystem Gwyddor Bywyd Cymreig – gan hwyluso’r ehangu i Gymru
- Cyfleoedd am gydweithio pellach rhwng partneriaid y prosiect
- Astudiaethau achos
- Cyhoeddiadau a adolygwyd gan gymheiriaid
Canlyniadau posib yn y dyfodol
- Mantais o fewn y farchnad i QBiotics wrth gefnogi’r ffeilio IP newydd
- Dealltwriaeth well o’r mecanwaith gweithredu i gefnogi trafodaethau trwyddedu a rheoleiddio
- Cymeradwyaeth reoliadol i EBC-1013, a byddai ei ddefnydio i wella iachâd clwyfau cronig yn cael effaith enfawr ar ofal cleifion
- Lleihau ar arbrofi diangen ar anifeiliaid wrth ddatblygu eu “piblinell”
- Twf economaidd yng Nghymru drwy ehangu’r cwmni arfaethedig
Mae'r prosiect hwn yn rhan o raglen Cyflymu a ariennir yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, trwy Lywodraeth Cymru.