Mae gwaith wedi dechrau ar safle yng Nghymru i gynhyrchu cyfres newydd o gyfarpar diogelu’r llygaid ar gyfer un o enwau blaenllaw rhyngwladol y diwydiant, Bollé.
Mae Bollé Safety, arbenigwyr datblygu cyfarpar diogelu personol (PPE) ar gyfer y llygaid, wedi cyhoeddi partneriaeth gyda chwmni o Gymru, RotoMedical, rhan o Grŵp Rototherm, sef unig weithgynhyrchwr PPE i’r llygaid yn y DU i’r cwmni o Ffrainc sy’n cael eu cynhyrchu ar gyfer y diwydiant gofal iechyd.
Disgwylir i fwy na thair miliwn o eitemau PPE gael eu cynhyrchu'r mis yng nghanolfan weithgynhyrchu RotoMedical ym Mhort Talbot, De Cymru, yn dilyn dechrau’r gwaith cynhyrchu ddechrau mis Mehefin. Bydd y bartneriaeth, sydd wedi derbyn canmoliaeth gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, yn dosbarthu cynnyrch ar hyd a lled y DU ac Iwerddon yn ogystal â’u hallforio i farchnadoedd gofal iechyd ar draws y byd, ac i ranbarthau allweddol sy’n cynnwys Ewrop, Awstralia a Gogledd America.
Mae penderfyniad RotoMedical i ehangu i’r sector gwyddorau bywyd wedi derbyn cefnogaeth gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, sydd wedi gweithio i sicrhau mynediad i’r busnes i gysylltiadau, arbenigedd a chyngor i helpu gyda’r gwaith ehangu.
Cyn lansiad y gwaith cynhyrchu, bu i uwch gynrychiolwyr yn Bollé, sydd â phencadlys Ewropeaidd yn Lyon, ymweld â chanolfan weithgynhyrchu RotoMedical yng nghymoedd de Cymru i gynnal gwiriadau cynnyrch terfynol ac i gadarnhau ardystiadau.
Dywedodd Ian Walbeoff, Is-lywydd Gwerthiant yn Bollé Safety :
“Yn Bollé Safety, ein cenhadaeth erioed fu i ddiogelu golwg gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ar draws y byd, hyd yn oed yn yr amgylcheddau mwyaf heriol, a sicrhau eu bod yn gallu parhau i weithio’n ddiogel ar y rheng flaen. Conglfaen ein brand yw dyhead gwirioneddol i arloesi’n barhaus a defnyddio’r dechnoleg orau sydd ar gael i greu cynnyrch o’r safon uchaf, a bydd ein partneriaeth gyda RotoMedical yn chwarae rôl allweddol wrth gyflawni hyn.
“Bydd cyfuno ymrwymiad ac arbenigedd hirsefydlog y ddau gwmni yn ein galluogi i ddylunio, gweithgynhyrchu a chyfosod cynnyrch ar y cyd sy’n rhoi blaenoriaeth i arloesedd ac yn pennu safon ryngwladol newydd yn y diwydiant o ran perfformiad, rhagoriaeth a chynaliadwyedd”.
Mae Grŵp Rototherm, cwmni sy’n dyddio o’r 1880au, yn arbenigo mewn cynhyrchu offerynnau mesur diwydiannol. Yn ystod y pandemig, fe wnaethant arallgyfeirio i gynhyrchu masgiau meddygol ac amddiffynwyr wyneb hefyd ar gyfer gweithwyr iechyd a gofal o dan y brand RotoMedical.
Ers i’r pandemig gyrraedd y DU, mae’r gweithgynhyrchwr ym Mhort Talbot wedi cynyddu eu gallu i gynhyrchu amddiffynwyr wyneb plastig o 1,000 y dydd i 250,000 bob wythnos. Mae’r llwyddiant cyflym hwnnw wedi arwain at ehangu’r sector gwyddorau bywyd ymhellach, oherwydd mae RotoMedical wedi symud ymlaen i gynhyrchu masgiau wyneb Math IIR wedi’i ardystio gan y BSI, o radd lawfeddygol ac sydd wedi’u dylunio i’w defnyddio gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol.
Dywedodd Tarkan Conger, Cyfarwyddwr Datblygu Busnes yn Grŵp Rototherm:
“Ein huchelgais bob amser yw parhau i ehangu a datblygu’r busnes, a chreu mwy o swyddi i’r economi leol yn sgil hynny. Bydd y bartneriaeth gyda Bollé yn ein galluogi i ddatblygu ein harbenigedd ac arloesedd diwydiannol wrth i ni sefydlu ein hunain yn y sector gwyddorau bywyd, ac ehangu i alluoedd a marchnadoedd gweithgynhyrchu newydd.”
Ar ôl sicrhau’r contract cyflenwi gyda Bollé, fe ychwanegodd y cwmni gogls diogelwch i’w cylch gwaith, ac maent wedi creu llinell gynhyrchu awtomaidd benodol ar gyfer hyn. Bydd amddiffynwyr wyneb Bollé yn cael eu gweithgynhyrchu gan RotoMedical, isadran cyfarpar meddygol a diogelu Rototherm, gan ddefnyddio deunyddiau crai lleol.
Dywedodd Oliver Conger, Rheolwr Gyfarwyddwr yn Grŵp Rototherm:
“Rydym yn falch o fod yn gwmni bach a chanolig yng Nghymru, a’n bwriad yw parhau i sicrhau partneriaethau gyda chwmnïau eraill yng Nghymru ac yn rhyngwladol. Gyda chymorth Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, rydym wedi gallu sefydlu cysylltiadau ar draws y diwydiant yng Nghymru, ac rydym yn ymrwymedig i ddatblygu ein presenoldeb byd-eang ymhellach. Rydym wedi buddsoddi popeth sydd gennym yn yr economi leol ac yn y busnes, a fydd yn parhau wrth i ni ehangu’n rhyngwladol.”
Ychwanegodd Ian Walbeoff, Is-Lywydd Gwerthiant yn Bollé Safety:
“Mae’r bartneriaeth hon yn dynodi dechrau pennod newydd gyffrous i Bollé Safety yng Nghymru a’r DU, wrth i ni barhau i ddatblygu ein presenoldeb yn y wlad a buddsoddi mewn cymunedau lleol. Bydd yn ein helpu i gynyddu ein gallu i ddatblygu cynnyrch gydag elfen gynaliadwy yn ganolog iddynt oherwydd byddwn yn gweithio gyda deunyddiau lleol, ac yn ymfalchïo yn y nod rhagoriaeth ‘Gwnaed ym Mhrydain’.
“Mae’r galluoedd yn Rototherm yn dyst i’r gweithlu gweithgynhyrchu medrus iawn sydd ar gael yma yng Nghymru, ac edrychwn ymlaen at ddatblygu rhagoriaeth gweithgynhyrchu bellach o’r rhanbarth.”
Wrth drafod y bartneriaeth newydd rhwng Rototherm a Bollé Safety, dywedodd Cari-Anne Quinn, Prif Swyddog Gweithredol yn Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru:
“Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn falch o gael cefnogi taith Rototherm i’r sector gwyddorau bywyd ac yn croesawu’r cysylltiadau rhyngwladol sy’n datblygu. Rydym yn eu llongyfarch am y gwaith maent wedi’i wneud i gefnogi’r DU yn ystod cyfnod o angen mawr a sicrhau’r contract hwn gyda Bollé, a fydd yn sicrhau y bydd y llwyddiannau hyn yn parhau.”