Y cyfle Gwyddorau Bywyd
Un mater iechyd arwyddocaol sy’n effeithio ar bobl Cymru yw Clefyd Rhwystrol Cronig yr Ysgyfaint. Mae hwn yn derm cyffredinol am glefydau megis emffysema, broncitis cronig ac asthma anwrthdroadwy. Yn anffodus, mae Cymru’n profi nifer uwch o glefydau Clefyd Rhwystrol Cronig yr Ysgyfaint (COPD) nac unrhyw le arall yn y DU. Y clefyd hwn yw’r trydydd achos mwyaf o farwolaeth, y trydydd achos mwyaf o dderbyniadau brys mewn ysbytai ac mae’n cymryd cyfran uwch o amser meddygon teulu nac unrhyw glefyd cronig arall.
Mae Ian Bond, sy’n glaf COPD ac yn eiriolwr ‘hunan-reoli’ wedi datblygu llwyfan digidol gyda’i gydweithiwr, Dave Taylor, sydd wedi’i alluogi i fonitro ei gyflwr ei hun a derbyn gofal wedi’i arwain gan dystiolaeth gan ei feddyg teulu ac arbenigwyr. Bydd y llwyfan hwn yn cynorthwyo cleifion eraill i fynd i’r afael ac ymgysylltu’n well â’u cyflwr a gwybod pryd y mae’n briodol iddynt geisio ymyrraeth glinigol. Mae hyn yn arbennig o ddefnyddiol i gleifion sy’n aml yn teimlo allan o wynt ac efallai na allant werthfawrogi’n rhwydd pa mor ddifrifol y gallai cyfnod o ddiffyg anadl fod iddynt. Mae’r llwyfan yn integreiddio AI sy’n gallu dysgu am y cleifion a darparu arwyddion o rybudd i feddygon teulu neu ofalwyr.
Rôl Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru
Fe leolodd Ian ei fusnes yn Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru wrth ddesg yn ein swyddfeydd cynllun agored. Gallai gael mynediad at ecosystem gyfan y diwydiant Gwyddorau Bywyd. Mae hyn yn cynnwys cyllidwyr, staff datblygu, swyddogion Llywodraeth Cymru, mynediad at ddulliau cyllido megis Innovate UK, yn ogystal â digwyddiadau a chynadleddau.
Gallai Bond Digital Health ymgysylltu â Banc Datblygu Cymru a chyllidwyr eraill, yn ogystal ag aelodau’r gymuned COPD, gan gynnwys clinigwyr. Mae tîm Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn cynnal diddordeb brwd yn eu cylch datblygu cynnyrch ac yn sicrhau eu bod yn gweithio gyda’r partneriaid a’r rhanddeiliaid cywir er mwyn symud pethau ymlaen.
Ar ôl dechrau yn 2016 mae Bond Digital Health bellach yn cyflogi wyth aelod o staff ac maent yn bwriadu cynyddu i 12 erbyn diwedd y flwyddyn hon. Yn eu blwyddyn fasnachu gyntaf sicrhaodd Bond gontractau gwerth £700,000 ac ennill gwobrau clodwiw'r diwydiant. Yn y flwyddyn ariannol hon mae’r cwmni wedi derbyn prisiad o £5 miliwn, mae cysylltiadau wedi datblygu yma a thramor, Grant Innovate UK gydag offer gwisgadwy arbenigol ar gyfer cleifion COPD a’r cyfraniad cyntaf o rownd fuddsoddi £1 filiwn. Maent bellach yn arwain consortia er mwyn ysgogi newidiadau mewn meysydd eraill yn ogystal â COPD.
O'r diwrnod cyntaf un, roedd bod gyda'r Hwb yn rhoi llawer o fanteision i ni nad ydynt ar gael i fusnesau bach a chanolig eu maint eraill. Cawsom ein cymryd o ddifrif fel rhan o'r gymuned Gwyddorau Bywyd; roedd yn rhoi rhywfaint o barch i ni. Mynediad at gysylltiadau yn y diwydiant, cynghorwyr, rhywun i gael paned o goffi a sgwrs gyda hwy, mae'r holl bethau hyn wedi rhoi'r hyder i ni fwrw ati, yn arbennig ar y dechrau pan oedd yn gyfnod caled. Wrth I ni dyfu a dechrau sefydlu ein hunain gallem fod wedi gwneud llawer o gamgymeriadau, ond cawsom gymorth gan ein rheolwr cyfrifon. Ydyn, rydyn ni'n llwyddiannus, ac rwy'n gwybod na fyddem wedi bod mor llwyddiannus oni bai am ein lle yn yr Hwb, y lleoliad gorau yng Nghymru ar gyfer swyddfeydd."
Ian Bond, cyd-sylfaenydd Bond Digital Health
Manteision i'r gwasanaeth iechyd, cleifion a'r economi
Drwy gefnogaeth yr amgylchedd arloesol agored a gynigiwn, mae Bond Digital Health wedi gallu datblygu cynnyrch a fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau’r gymuned COPD; i staff meddygol a chleifion fel ei gilydd. Mae cleifion yn cael eu grymuso i reoli eu cyflyrau yn well, a gallu gweithio’n fwy effeithiol yr un pryd gyda’u meddygon a’u timau cefnogaeth glinigol.
Mae’r Athro Keir Lewis yn arbenigwr blaenllaw ym maes meddygaeth yr ysgyfaint ac yn Gyfarwyddwr Ymchwil a Datblygu Bwrdd Iechyd Hywel Dda. Roedd yn cydnabod potensial llwyfan Bond yn darparu gofal iechyd darbodus ac, yn 2017, fe gynigiodd y byddai’n gweithio fel Arweinydd Clinigol i Bond Digital Health ac fe ymunodd â’r bwrdd fel Cyfarwyddwr Anweithredol.
Er y gellir mesur ‘arbedion’ mewn punnoedd, mae arbedion gwirioneddol yn cael eu cyflawni hefyd i amser meddygon ac arbenigwyr, rhestrau aros, gwelyau ysbytai ac ansawdd bywyd gwell i gleifion a’u teuluoedd.
Yn ogystal, drwy dwf y busnes gwirioneddol, mae Bond Digital Health yn cefnogi’r economi leol, yn darparu swyddi ac yn cynyddu busnes yn y gadwyn gyflenwi drwyddi draw.
Rwy'n falch iawn o fael gweithio fel rhan o Bond Digital Health. Mae dealltwriaeth ac egni'r tîm cyfan yn rhyfeddol. Mae eu hethos o ddod â chleifion a meddygon at ei gilydd i gydweithio - datblygu technoleg yn uniongyrchiol er mwyn gwasanaethau anghenion clinigol ac ateb problemau gwirioneddol y byd - yn cyd-fynd yn agos â'n hagenda iechyd ddarbodus. Mae'r effaith a'r potensial ar gyfer rheoli clefydau'r ysgyfaint, yn arbennig COPD, yn aruthrol.
Yr Athro Keir Lewis, Professor of Respiratory Medicine, Prifysgol Abertawe ac Cyfarwyddwr Y&D o Bwrdd Iechyd Hywel Dda.