Trydydd parti

Gan wynebu'r pwysau cynyddol ar wasanaethau llawfeddygol dewisol, mae Byrddau Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a Hywel Dda wedi mabwysiadu dull rhagweithiol dan arweiniad clinigol o archwilio arloesedd.  

Surgeons in surgery

Fel rhan o'u hymrwymiad ar y cyd i ddarparu gofal o ansawdd uchel sy'n canolbwyntio ar y claf i bobl Cymru, arweiniodd y ddau Fwrdd Iechyd brosiect peilot ar y cyd i asesu gwerth posibl OpenPredictor, adnodd haenu risgiau sy'n cael ei yrru gan ddeallusrwydd artiffisial, o fewn llwybrau llawdriniaethau orthopaedig cymalau newydd. 

Ar y cyd ag OPCI, partner yn y diwydiant, mae'r cynllun peilot yn cynrychioli dechrau taith gyffrous tuag at fodel mwy deallus, teg a chynaliadwy o ddarparu gofal iechyd, gan roi De-orllewin Cymru ar flaen y gad o ran archwilio ailgynllunio llwybrau sydd wedi'u galluogi'n ddigidol yn GIG Cymru. 

Partneriaid a chyllid 

  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
  • OPCI LTD
  • Llywodraeth Cymru 

Nodau’r project

Mae'r prosiect hwn yn cynrychioli cydweithrediad rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, ac OPCI, gan weithio gyda'i gilydd i archwilio ffyrdd newydd o gryfhau llwybrau gofal llawfeddygol dewisol. 

Y nod yw dangos ymrwymiad y ddau Fwrdd Iechyd i wella gofal i bobl Cymru yn barhaus, hyd yn oed yng nghanol y pwysau sylweddol sydd ar wasanaethau a gofynion cymhleth y system. Mae'n canolbwyntio ar sut mae timau rheng flaen y GIG yn arwain trawsnewid mewn ffordd sy'n seiliedig ar werthoedd, sy'n canolbwyntio ar y claf, ac sy'n cyd-fynd ag anghenion gwasanaethau lleol ac uchelgeisiau strategol cenedlaethol. 

Er bod y cynllun peilot yn cynnwys defnyddio OpenPredictor, adnodd deallusrwydd artiffisial a ddarperir gan OPCI, partner yn y DU, mae'r astudiaeth achos hon yn cael ei harwain yn fwriadol iawn gan iechyd, nid gan gynnyrch. Mae'r dechnoleg yn cael ei chyflwyno fel elfen gefnogol yn y naratif ehangach, a'r prif nodau o hyd yw arweinyddiaeth, arloesedd a gweledigaeth a ddangosir gan dimau GIG Cymru. 

Heriau a Chyfleoedd 

Fel llawer o sefydliadau'r GIG, mae Byrddau Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a Hywel Dda yn wynebu heriau sylweddol: cynnydd mewn ôl-groniadau o driniaethau dewisol, capasiti cyfyngedig, a'r rheidrwydd i amddiffyn diogelwch cleifion ar yr un pryd â sicrhau mynediad teg ac amserol at ofal.  Gall iechyd cleifion ddirywio wrth aros, gan gynyddu'r risg wrth gael llawdriniaeth a'r tebygolrwydd o orfod canslo, yn enwedig mewn gwasanaethau mawr fel orthopaedeg. 

Roedd y ddau Fwrdd Iechyd yn cydnabod, er eu bod yn cynnal yr egwyddor bwysig o drin cleifion yn nhrefn dyddiadau lle bynnag y bo hynny'n glinigol briodol, bod angen gwella sut mae rhestrau aros llawfeddygol yn cael eu rheoli, drwy ystyried iechyd cleifion a’r risg glinigol. Gyda'i gilydd, gwelsant gyfle i archwilio dulliau newydd a allai gryfhau diogelwch cleifion, cefnogi ymyrraeth gynnar lle bo hynny'n briodol, a sicrhau bod gwasanaethau'n parhau i fod yn deg, yn ymatebol ac wedi'u personoli i anghenion cleifion unigol. 

Cynhaliodd clinigwyr ac arweinwyr gweithredol o Fyrddau Iechyd Bae Abertawe a Hywel Dda gynllun peilot ar y cyd ar OpenPredictor, a gynlluniwyd i archwilio sut gallai haenu sy'n cael ei yrru gan ddeallusrwydd artiffisial gefnogi gwell rheolaeth ar lwybrau dewisol. 

Yn bwysig, cafodd y cynllun peilot ei lunio a'i lywodraethu gan dimau'r GIG eu hunain, gan sicrhau bod y dechnoleg yn cael ei defnyddio'n feddylgar i ategu barn glinigol broffesiynol, nid ei newid. 

Canolbwyntiodd y cynllun peilot ar y canlynol: 

  • Archwilio'r gwaith rhagweithiol o ganfod cleifion risg uchel ar gyfer optimeiddio wedi'i dargedu neu adolygiad arbenigol
  • Deall sut y gellid blaenoriaethu cleifion risg is yn ddiogel ar gyfer triniaeth gynharach mewn unedau trwybwn uchel neu lai cymhleth (High Volume Low Complexity)
  • Gwerthuso dulliau deinamig o reoli rhestrau aros o fewn fframweithiau llywodraethu
  • Profi i ganfod dirywiadau nad ydynt yn amlwg er mwyn gwella tegwch iechyd
  • Cryfhau'r broses o wneud penderfyniadau ar y cyd rhwng clinigwyr a chleifion drwy well dealltwriaeth o risg a chanlyniadau 

Canlyniadau'r Prosiect 

Mae canfyddiadau a mewnwelediadau cychwynnol y cynllun peilot yn awgrymu bod cryn gyfle i gefnogi gofal mwy diogel, mwy effeithlon, sy'n canolbwyntio ar y claf: 

  • Mae llwyddo i ganfon dirywiad cynnar cleifion yn rhoi cyfleoedd i ymyrryd yn amserol neu addasu cynlluniau triniaeth
  • Tynnwyd sylw at gleifion risg is ar gyfer llwybrau symlach posibl, gan leihau oedi a chadw safonau llawfeddygol
  • Roedd trosolwg byw o risgiau clinigol yn cryfhau trafodaethau'r tîm amlddisgyblaethol a rheoli rhestrau aros
  • Mae gwneud penderfyniadau gwell ar y cyd yn cefnogi sgyrsiau mwy tryloyw gyda chleifion am risgiau a manteision parhau â llawdriniaethau 

Mae'r mewnwelediadau cynnar hyn yn dangos sut y gall arloesedd digidol cyfrifol, sy'n cael ei yrru gan arweinyddiaeth glinigol, helpu i fynd i'r afael â rhai o'r heriau mwyaf dybryd ym maes gofal dewisol. 

Sbarduno Arloesedd: Timau wedi ymrwymo i Ofal Gwell  

Mae llwyddiant y cynllun peilot hwn yn adlewyrchu’r diwylliant rhagorol o arweinyddiaeth, cydweithio a gwelliant parhaus ym Myrddau Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a Hywel Dda. Dangosodd timau clinigol, rheolwyr gweithredol, dadansoddwyr a staff cefnogi ar draws y ddau sefydliad ymrwymiad rhyfeddol i gydbwyso arloesedd â phwysau parhaus i ddarparu gwasanaethau. 

Mae eu penderfyniad ar y cyd i archwilio cyfleoedd ar gyfer gofal mwy diogel, teg a mwy effeithlon, er gwaethaf heriau gweithredol, yn dangos yr arweinyddiaeth sy'n seiliedig ar werthoedd sydd wrth galon GIG Cymru. 

Partneriaeth a Gweledigaeth Genedlaethol 

Mae'r prosiect hwn yn enghraifft bwerus o'r hyn y gellir ei gyflawni drwy bartneriaeth wirioneddol rhwng y GIG a diwydiant, yn seiliedig ar arweinyddiaeth leol, trylwyredd clinigol, a gwerthoedd cyffredin. 

Rhaid cydnabod gweledigaeth Llywodraeth Cymru o ran cefnogi arloesedd digidol a thrawsnewid iechyd sy'n cael ei arwain gan ddata hefyd. Mae eu hymrwymiad i adferiad dewisol a gwella gwasanaethau'n gynaliadwy wedi creu'r amgylchedd lle gall cynlluniau peilot fel hyn ffynnu. 

Yn fwy na dim, mae'r gwaith hwn yn atgyfnerthu bod yn rhaid i arloesedd yn y GIG bob amser ymwneud â gwella gofal cleifion, nid technoleg er ei mwyn ei hun, ond technoleg fel adnodd ar gyfer gofal iechyd gwell a mwy diogel, wedi'i hategu gan oruchwyliaeth glinigol i sicrhau nad yw byth yn cael ei ddefnyddio ar ei ben ei hun. 

Dywedodd yr Athro Mike Reed, Sylfaenydd OPCI a Llawfeddyg Orthopaedig Ymgynghorol:  

“Mae'r ymgysylltu clinigol gan Fae Abertawe a Hywel Dda wedi bod yn rhagorol. Aeth eu timau ati i gynnal y cynllun peilot hwn gyda phwrpas clir, chwilfrydedd ac ymdeimlad dwfn o gyfrifoldeb tuag at ein cleifion. Mae wedi bod yn fraint cyfrannu o safbwynt ymchwil ac arloesi clinigol, a chefnogi'r Byrddau Iechyd wrth iddynt archwilio sut y gallai offer digidol ategu barn broffesiynol. Mae hon wedi bod yn ymdrech wirioneddol gydweithredol, wedi'i seilio ar ddysgu ar y cyd a pharch at ein gilydd."  

Dywedodd Dr Justin Green, Sylfaenydd OPCI a Llawfeddyg Orthopaedig:  

“Mae hi wedi bod yn fraint gweithio ochr yn ochr â'r timau ym Myrddau Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a Hywel Dda. Mae eu natur agored, eu harweinyddiaeth a'u hymrwymiad i ddefnyddio technoleg i gefnogi'r gwaith o wella gwasanaethau wedi siapio'r prosiect hwn o'r cychwyn cyntaf. Mae cleifion a blaenoriaethau clinigol wedi aros yn ganolog drwy gydol y broses. Rydym ni wedi gwerthfawrogi'n fawr y cydweithio a'r ysbryd cyffredin o arloesi ar draws y Byrddau Iechyd a'r Llywodraeth, sy'n enghraifft gref o sut gall gofal iechyd a thechnoleg weithio gyda'i gilydd yn barchus i archwilio dulliau newydd o ymdrin â gofal." 

Y camau nesaf  

Mae Byrddau Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a Hywel Dda bellach yn ystyried y ffordd orau o adeiladu ar yr wybodaeth a gafwyd o'r cynllun peilot mewn gwasanaethau orthopaedig. Mae'r ffocws cyntaf ar werthuso'r posibilrwydd o fabwysiadu'r dull hwn ar draws llawdriniaethau orthopaedig cymalau newydd, gan mai dyma'r maes sy'n dod o dan drwydded reoleiddio OpenPredictor ar hyn o bryd. Mae sicrhau bod yr adnodd yn cael ei wreiddio'n ddiogel ac yn effeithiol i lwybrau llawdriniaethau cymalau orthopaedig newydd yn gam cyntaf angenrheidiol.  

Mae'r dechnoleg yn gallu cefnogi arbenigeddau llawfeddygol eraill, a'r bwriad hirdymor, gan weithio'n agos gyda'r Byrddau Iechyd, yw dilysu a datblygu ei defnydd yn ehangach fel rhan o ddull ehangach, sy'n cael ei lywodraethu'n glinigol, o drawsnewid llwybrau llawfeddygol. 

Mae'r cynllun peilot hefyd yn cyfrannu at fyfyrdodau ar sut gallai haenu risgiau digidol gefnogi strategaethau cenedlaethol ar gyfer adferiad dewisol, trawsnewid gwasanaethau, a thegwch iechyd yng Nghymru. Drwy ddysgu o'r cynllun peilot ac ystyried y buddsoddiad a wnaed, mae'r Byrddau Iechyd yn helpu i lywio syniadau yn y dyfodol am y potensial ar gyfer arloesi digidol ehangach ar draws GIG Cymru. 

Mae Bae Abertawe a Hywel Dda yn dangos bod cyfle go iawn, gyda'r arweinyddiaeth, yr ymgysylltu clinigol a'r bartneriaeth iawn, i lunio dyfodol mwy clyfar a theg ar gyfer gwasanaethau gofal wedi'u cynllunio ledled Cymru. Ewch i https://bipba.gig.cymru/ / https://biphdd.gig.cymru/  i gael rhagor o wybodaeth. 

Cydnabyddiaethau

Hoffai Byrddau Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a Hywel Dda ddiolch o galon i'r timau niferus ar draws y ddau sefydliad a gyfrannodd at y gwaith hwn. Mae llwyddiant y cynllun peilot yn adlewyrchu ymroddiad ac arbenigedd cydweithwyr clinigol, gweithredol, digidol ac ymchwil, sydd i gyd yn gweithio gyda'i gilydd o dan y pwysau sylweddol sydd ar wasanaethau i archwilio ffyrdd newydd o wella gofal. 

Rydym ni hefyd yn cydnabod cyfraniadau gwerthfawr partneriaid academaidd, gan gynnwys yr Athro David Beard (Prifysgol Rhydychen), Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Northumbria, ac Ysgol Fusnes Prifysgol Abertawe. Mae eu mewnbwn cynnar a'u cydweithrediad parhaus wedi helpu i lunio a llywio'r cynllun peilot, gan gryfhau ei sylfaen academaidd a'i berthnasedd clinigol. 

Mae hon wedi bod yn ymdrech wirioneddol gydweithredol ar draws lleoliadau iechyd ac academaidd, ac rydym ni’n ddiolchgar i bawb a gefnogodd y gwaith hwn i geisio gofal mwy diogel, clyfar a chynaliadwy i gleifion.