Mae cwmni Cymreig wedi bron â dyblu maint ei weithlu sefydlog i 127 aelod o staff mewn pedwar mis, ar ôl newid rhan o'i weithrediadau i gynhyrchu cyfarpar diogelu personol mewn ymateb i bandemig Covid-19.
Mae cwmni Transcend Packaging, sydd wedi'i leoli yn Ystrad Mynach, yn arbenigo mewn darparu deunydd pecynnu cynaliadwy i fwytai gwasanaeth cyflym fel McDonalds a Starbucks. Drwy newid rhai o'i linellau cynhyrchu, a gyda chymorth gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, mae'r cwmni wedi gallu cyflenwi dros 15 miliwn o amddiffynwyr wyneb i'r gwasanaeth iechyd ac i Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol llywodraeth y Deyrnas Unedig ers mis Ebrill.
Mae'r newid yma wedi llwyddo i ddiogelu swyddi 70 o weithwyr yn dilyn gostyngiad mewn archebion gan y sector lletygarwch yn ystod y cyfnod clo. Wrth i fwytai ddechrau ailagor ac wrth i archebion o'r diwydiant godi unwaith yn rhagor, mae'r cwmni wedi dechrau ar broses recriwtio, ac wedi cyflogi 54 aelod o staff parhaol ychwanegol a 30 o weithwyr asiantaeth i ateb y galw byd-eang am ddeunydd pecynnu a chyfarpar diogelu personol.
Daw'r newyddion wrth i Transcend sicrhau buddsoddiad o dros £10 miliwn, dan arweiniad IW Capital, i hwyluso twf y busnes. Mae'n bwriadu defnyddio'r buddsoddiad i ymestyn ei ystod o gynnyrch pecynnu papur er mwyn lleihau dibyniaeth y diwydiant gwasanaeth bwyd cyflym ar blastig untro ymhellach.
Fodd bynnag, yr ardal leol fydd yn gweld budd cyntaf y buddsoddiad wrth i'r gwaith o ddatblygu'r cwmni i ateb y galw byd-eang greu swyddi newydd yn y de-ddwyrain.
Bydd y cwmni'n parhau i gynhyrchu cyfarpar diogelu personol dros yr hirdymor, ochr yn ochr â'i gynnyrch pecynnu cynaliadwy, er mwyn cefnogi ymdrechion Cymru wrth i ni ddod allan o'r cyfnod clo drwy ddarparu cyfarpar diogelu i staff mewn amrywiaeth o sectorau.
Meddai Lorenzo Angelucci, Prif Swyddog Gweithredol Transcend Packaging:
"Arweiniodd y cyfnod clo at gwymp sylweddol yn y galw am ein cynnyrch pecynnu, felly roedd addasu ein gwaith yn hanfodol i ddiogelu'r busnes. Ers i fwytai ailagor, rydyn ni wedi gweld cynnydd mewn archebion unwaith eto, sy'n golygu ein bod yn gallu dychwelyd at gynhyrchu deunydd ar gyfer y sector.
"Er hyn, rydyn ni'n bwriadu parhau i gynhyrchu amddiffynwyr wyneb a gorchuddion wyneb er mwyn helpu i amddiffyn gweithwyr rheng flaen, a darparu offer amddiffyn y mae galw mawr amdano i staff y diwydiant manwerthu, lletygarwch ac mewn swyddfeydd wrth iddyn nhw ddychwelyd i'w gweithleoedd.
"Mae'n ymddangos y bydd trefniadau cadw pellter cymdeithasol gyda ni am beth amser, felly ein nod yw bod yn rhan o'r datrysiad hirdymor drwy wneud cyfres o gynnyrch cyfarpar diogelu personol y gall gweithwyr ei defnyddio mewn safleoedd gwahanol, yn ogystal â'r cyhoedd. Bydd datblygu ein gweithlu'n hanfodol er mwyn cyflawni hyn, ac rydyn ni'n falch ein bod yn gallu cynnig cyfleoedd gwaith i bobl yr ardal."
Ar hyn o bryd, mae cwmni Transcend yn cynhyrchu dros filiwn o amddiffynwyr wyneb yr wythnos, gyda'r gallu i ddyblu hynny i ddwy filiwn os bydd angen. Yn ogystal â chyflenwi cynnyrch i wledydd eraill ym Mhrydain, mae'r amddiffynwyr wyneb hefyd wedi cael eu dosbarthu'n fyd-eang i Ewrop, Japan a'r Unol Daleithiau.
Roedd amddiffynwyr wyneb cyntaf y cwmni yn cael eu creu gyda'r bwriad o gael eu defnyddio unwaith a'u hailgylchu, ac wedi'u gwneud o fyrddau papur wedi'u hatgyfnerthu a deunydd wedi'i ailgylchu. Ers hynny, mae'r cwmni wedi cynhyrchu fersiwn newydd heb blastig, y gellir ei gompostio, sydd wedi bod yn boblogaidd iawn ac mae galw cynyddol amdanyn nhw.
Newidiodd Transcend ei drefniadau cynhyrchu ar ôl i'r cwmni gysylltu â Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru i ofyn am arweiniad ar y gofynion ardystio y byddai eu hangen ar ei gynnyrch er mwyn gallu eu cynnig i Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru.
Bu Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru - a benodwyd gan Lywodraeth Cymru i ddelio â'r holl ymholiadau a chynigion o gymorth cychwynnol gan fusnesau ar ran GIG Cymru - yn gweithio'n agos gyda Transcend i helpu'r cwmni i addasu ei linell gynhyrchu, ac i sicrhau bod yr amddiffynwyr wyneb yn cyrraedd y safonau angenrheidiol, gan gynnwys ardystiad CE hanfodol.
Meddai Cari-Anne Quinn, Prif Swyddog Gweithredol Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru:
"Ledled Cymru, rydyn ni wedi gweld busnesau'n gweithio'n galed, yn addasu ac yn arloesi er mwyn cynnig cymorth i'r frwydr genedlaethol yn erbyn Covid-19. Mae cwmni Transcend yn enghraifft amlwg o'r gwaith ysbrydoledig yma ac rydyn ni'n falch o fod wedi gweithio gyda nhw i helpu'r cwmni i gael ardystiad i gynhyrchu cyfarpar diogelu personol hanfodol.
"Mae cynnyrch Transcend wedi helpu i amddiffyn gweithwyr allweddol ledled y wlad ac mae eu hymdrechion i helpu'r rheng flaen yn ganmoladwy. Yn ogystal â chefnogi GIG Cymru a gweithwyr iechyd ym mhob cwr o'r byd, mae ymdrechion y tîm i addasu ac arloesi yn creu hwb economaidd a chyfleoedd gwaith ar adeg hanfodol i Gymru."
Ychwanegodd Lee Waters, Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth:
"Mae'r ffordd mae cwmni Transcend wedi addasu ei gynhyrchion yn ystod y pandemig yn arwydd o wydnwch a hyblygrwydd y cwmni.
"Nid yn unig mae'r cwmni wedi goroesi ond mae wedi ffynnu o ganlyniad, ac mae'n ein helpu ni yn ein hymdrechion i amddiffyn pobl. Mae'r ffaith bod swyddi newydd wedi cael eu creu ar gyfer pobl leol ar adeg sy'n parhau i fod yn gyfnod heriol iawn i'n heconomi yn newyddion gwych.
"Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru wedi bod yn hanfodol i'n helpu ni i gyflawni hyn, ac mae eu hymdrechion nhw a chwmni Transcend Packaging yn dangos yr hyn sydd wir yn bosib pan fydd angenrheidrwydd a chydweithio'n cael eu cyfuno."
Dylai unrhyw fusnes sydd am gyflwyno cynigion o gymorth yn y frwydr yn erbyn y coronafeirws wneud hynny drwy borthol Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru.