Trwy hwyluso partneriaeth rhwng y gwasanaeth iechyd, diwydiant a’r byd academaidd a chreu canolfan beirianneg ddigidol bwrpasol, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn gwella gwasanaethau ac yn cefnogi cydweithio yn ehangach o fewn GIG Cymru.
Yr her
Drwy gydol y pandemig, roedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, fel llawer o Fyrddau Iechyd ledled y wlad, yn cael anhawster i ddod o hyd i ystod o offer a chyflenwadau ysbyty, o offer rheoli gwelyau a dalwyr samplau labordy i gefnogi cydweithwyr yn y Brifysgol i ddatblygu offer profi Covid. Roedd hyn am fod yr achosion wedi rhoi pwysau ar y diwydiant cyflenwi yn dilyn cynnydd yn y galw am gynnyrch.
Yn ogystal ag wynebu anawsterau o ran cael gafael ar adnoddau o’r fath, roedd gan y pandemig ei heriau ei hun hefyd gan fod yn rhaid i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Morgannwg addasu a chreu offer a gweithdrefnau newydd i leihau lledaeniad yr haint a diogelu staff a chleifion. Ar yr un pryd, tynnodd yr argyfwng sylw hefyd at ddiffygion o fewn cynhyrchion a gwasanaethau presennol a'r angen i arloesi er mwyn mynd i'r afael â hwy.
Fodd bynnag, heb gysylltiadau uniongyrchol â diwydiant, ac yn wynebu nifer o rwystrau gweithredol, rheoleiddiol ac ymarferol, gall dod o hyd i offer a sgiliau allanol fod yn broses anodd i Fyrddau Iechyd ac nid oedd yn ateb digon amserol.
Yr ateb
Er mwyn hwyluso datblygiad syniadau arloesol a chynhyrchu offer yr oedd mawr ei angen, sefydlodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yr Hwb Peirianneg Ddigidol a Ffisegol Uwch (ADPE) yn Ysbyty’r Tywysog Siarl yn 2020 gyda chymorth Accelerate Cymru a Chyflymydd Arloesedd Data Caerdydd ym Mhrifysgol Caerdydd. Gan ail-bwrpasu rhan o labordy Deintyddol y Genau a'r Wyneb a'i alluoedd argraffu 3D, mae'r Hwb yn darparu gofod i ddod â staff, cleifion, academyddion a phartneriaid yn y diwydiant ynghyd i greu atebion ymarferol i faterion ar y cyd.
Gyda'i gilydd, llwyddodd y tîm, a arweiniwyd gan Jason Ingham, Uwch Brif Dechnegydd a’r Rheolwr Labordy Deintyddol, i greu prototeip a dyfeisio syniadau'n gyflym, gan ddefnyddio profiad a gwybodaeth y diwydiant i ddod o hyd i’r atebion gorau yn gyflym.
Gan ddefnyddio argraffwyr a sganwyr 3D y cyfleuster, gan gynnwys argraffwyr a fenthycodd ysgolion lleol i'r bwrdd iechyd, crëwyd nifer o eitemau gan gynnwys dyfeisiau agor drysau di-gyffwrdd er mwyn lleihau trosglwyddiad y feirws trwy leihau cyswllt, yn ogystal â bathodynnau staff, a ddefnyddiwyd i adnabod graddau gwahanol a rolau gwahanol y staff wedi’i gosod ar gortynnau gwddf na ellid eu gwisgo mwyach mewn mannau clinigol oherwydd rheoli heintiau. Hefyd, helpodd yr argraffwyr 3D ni i fynd i’r afael â’r prinder byd-eang mewn cydrannau sbâr ar gyfer rhai dyfeisiau, gan alluogi ysbytai’r GIG i argraffu eu rhannau addas eu hunain yn gyflym, gan lwyddo i ddod ag offer cymorth yn ôl i wasanaeth yn gynt o lawer ac yn y broses, arbed miloedd o bunnoedd i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.
Rhan allweddol o’r prosiect oedd partneriaeth agos rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a chwmni dylunio a gweithgynhyrchu o Ben-y-bont ar Ogwr, Innotech Engineering, sy’n bartner busnes arweiniol i Accelerate. Rhannodd Andrew Walch, cyfarwyddwr Innotech, ei arbenigedd gweithgynhyrchu i gefnogi’r Bwrdd Iechyd i ddylunio ac argraffu amrywiaeth o gynhyrchion meddygol mewn 3D gan gynnwys:
Clipiau Gwely
Gan fod gwelyau ysbyty yn cael eu symud yn aml oherwydd trefniadau glanhau a throsglwyddo cleifion rhwng wardiau, roedd llusgo ceblau peiriannau meddygol cysylltiedig yn gallu achosi perygl baglu sylweddol ac arwain at ddifrod i'r ceblau trydanol oni bai eu bod yn cael eu gosod yn gywir. I helpu gyda hyn, dyluniodd Hwb ADPE glip gwely a allai liniaru'r broblem. Mae profion cynnyrch bellach wedi’u cwblhau ac mae ysbytai ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi archebu dros 2,500 o’r clipiau, sydd hefyd ar gael ledled GIG Cymru.
Dalwyr Samplau Labordai Patholeg
Nodwyd bod dalwyr samplau a ddefnyddir yn adran y corffdy yn anaddas i’r diben o ystyried bod archwiliad post-mortem nodweddiadol yn cynnwys dau diwb sampl a chwe ffiol gwaed, tra mai dim ond dau diwb sampl yn unig oedd dalwyr samplau gwreiddiol yn gallu eu dal. Golyga hyn bod y staff angen daliwr arall ar gyfer y gweddill. Yn ogystal, nid oedd y ffiolau mwy newydd a brynodd GIG Cymru bellach yn ffitio’r dalwyr ffiolau cyfredol. Golyga hyn bod y ffiolau’n cael eu storio, ynghyd a gwaith papur y claf, mewn bag plastig oedd yn gwbl amhriodol. Aeth Hwb ADPE ati i greu dewis swyddogaethol amgen, a allai storio'r holl ffiolau ynghyd â dogfennaeth cleifion. Hefyd, roedd cost y dyluniad newydd yn llawer is ac wedi'i weithgynhyrchu'n lleol yn Ne Cymru. Ar y cyd ag Innotech, llwyddodd yr Hwb i drawsnewid y prototeip yn gyflym i ddyluniad a oedd yn addas ar gyfer torri laser o un darn o blastig.
Samplau o swabiau o’r trwyn LAMP Covid
Datblygodd academyddion ym Mhrifysgol De Cymru (PDC) ddyfais pwynt gofal profi Covid mewn ymateb i'r pandemig. Yn flaenorol, roedd Dr Emma Hayhurst a Dr Jeroen Nieuwland wedi creu dull canfod moleciwlaidd newydd i ganfod y feirws yn uniongyrchol ond roedd angen cymorth prototeipio cyflym arnynt i ddatblygu swabiau trwynol uniongyrchol. Archwiliodd tîm ADPE nifer o wahanol ddulliau a deunyddiau sydd wedi'u profi'n llwyddiannus. Deilliodd hyn o Brifysgol De Cymru fel Llusern Scientific ac ynghyd â diogelu cyllid ar y cyd gan Lywodraeth Cymru, enillodd Llusern wobr MediWales Innovation Start am eu gwaith arloesol.
Y canlyniadau
Drwy wneud y mwyaf o fanteision argraffu 3D, a thrwy hwyluso cydweithrediadau rhwng amrywiaeth o bartneriaid gwahanol ar draws diwydiant, y byd academaidd a’r gwasanaeth iechyd, mae Hwb ADPE wedi galluogi Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg i fynd i’r afael yn gyflym â nifer o feysydd problemus allweddol. Mae’r Hwb newydd wedi darparu cyfleusterau argraffu a sganio 3D o’r radd flaenaf yng Nghwm Taf Morgannwg, gan ddarparu man gweithio dynodedig ar gyfer diwydiant a’r byd academaidd i gefnogi Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg i ddatblygu a mabwysiadu technolegau newydd yn gyflym.
Dywedodd Dr Tom Powell, Pennaeth Arloesedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg: “Mae ein Hwb ADPE wedi creu cymuned o arloesi rhwng peirianwyr clinigol, meddygon, nyrsys, sefydliadau academaidd a busnesau. Mae'n cefnogi’r gwaith o ddatblygu’n ddiogel technolegau argraffu 3D o fewn gofal iechyd ac mae'n galluogi ysbytai i argraffu dyfeisiau meddygol, rhannau a modelau anatomegol yn gyflym i ateb y galw a gwella ein gofal.
“Mae’r prosiect hefyd wedi galluogi busnesau Cymru i weithio gyda’r GIG ac wedi cefnogi’r defnydd o ddeunyddiau wedi’u hailgylchu, gan gyfrannu at gynllun cynaliadwyedd ehangach Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.”
Yn dilyn llwyddiant y prosiect, mae nifer o’r cynhyrchion a ddatblygwyd drwy’r Hwb wedi’u mabwysiadu gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg i’w defnyddio ar draws y Bwrdd Iechyd, gyda rhai cynhyrchion eisoes wedi’u masnacheiddio ac ar gael i’w prynu’n uniongyrchol gan Innotech Engineering. Yn ogystal â chreu manteision gweithredol a diogelwch cleifion, mae’r Hwb wedi helpu i greu arbedion ariannol i’r Bwrdd Iechyd drwy leihau costau gweithgynhyrchu a chreu cyfleoedd masnacheiddio.
Dysgu mwy
I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect, e-bostiwch Lauren Ware, arweinydd y Prosiect a Rheolwr Cymorth Busnes ar gyfer Arloesedd CTMUHB - Lauren.Ware@wales.nhs.uk
Mae'r prosiect hwn yn rhan o raglen Accelerate a ariennir yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, trwy Lywodraeth Cymru.