Mae poblogaeth hŷn Cymru yn tyfu’n gyflym, gan ddisgwyl cynnydd o 40% yn nifer y bobl 65 oed a hŷn erbyn 2041. Un o’r problemau iechyd dybryd sy’n wynebu’r demograffig hwn yw dysffagia’r oroffaryngeol, anhawster llyncu sy’n gallu arwain at ddiffyg maeth, heintiau, a hyd yn oed marwolaeth.

Er bod hon yn broblem ddifrifol, mae llwybrau gofal i ganfod ac i reoli dysffagia yn dal yn ddigyswllt, gan arwain at oedi mewn asesiadau, mwy nag un rhestr aros, a mynediad cyfyngedig at gymorth arbenigol, yn enwedig mewn cartrefi gofal. Roedd model gwasanaeth integredig newydd yn cynnwys Therapi Iaith a Lleferydd, Maeth a Deieteg, a Fferylliaeth yn defnyddio teleiechyd ac mae wedi dangos canlyniadau gwell. Fodd bynnag, mae effeithiolrwydd y dull hwn yn cael ei gyfyngu gan drosiant uchel staff cartrefi gofal a hyfforddiant anghyson ar driniaethau risg uchel fel asesiadau llyncu. Yn aml, nid oes gan staff yr hyder na’r sgiliau ymarferol i reoli’r digwyddiadau risg uchel hyn yn ystod ymgynghoriadau ar-lein.
Beth yw'r datrysiad?
Mae'r prosiect hwn yn cyflwyno dull dysgu hybrid, gan gyfuno hyfforddiant efelychu wyneb yn wyneb a realiti rhithwir. Mae’r system realiti rhithwir arloesol hon, a ddatblygwyd gan Goggleminds, yn rhoi senarios tebyg iawn i rai go iawn i staff gofal. Mae’r efelychiad realiti rhithwir yn galluogi staff gofal i adnabod arwyddion cynnar o ddysffagia, atal digwyddiadau, ac ymateb i argyfyngau fel tagu, heb risg i breswylwyr. Mae’n galluogi amgylchedd cyflymach a mwy effeithiol.
Nodau’r Prosiect
- Rhoi’r sgiliau i staff cartrefi gofal i ymateb yn hyderus ac yn effeithiol i ddigwyddiadau llyncu risg uchel
- Lleihau derbyniadau i’r ysbyty oherwydd rheoli dysffagia yn rhagweithiol
- Creu fframwaith cymhwysedd i staff gofal sy’n ymwneud ag ymgynghoriadau teleiechyd risg uchel
- Meithrin cydweithio cryfach rhwng therapyddion iaith a lleferydd, deietegwyr, fferyllwyr a thimau gofal cymdeithasol
Partneriaid/Ffynonellau cyllid/Bwrdd/byrddau Iechyd
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg
- Goggleminds
- Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr
- Cymunedau Digidol Cymru
- Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru
Diweddariadau i’r amserlen
- Cwmpasu’r prosiect – Mawrth 2024
- Cam Un – Cydweithio, grwpiau ffocws, ac adborth i lunio’r modiwlau hyfforddi
- Cam Dau – Datblygu’r modiwlau realiti rhithwir yn weithredol gyda Goggleminds, gan gynnwys byrddau stori a dylunio
- Cam Tri – Mireinio a chyflwyno’r modiwl, gan gynnwys hyfforddiant i staff gofal cartref a Chwm Taf
- Cyflwyno’r Hyfforddiant Realiti Rhithwir – Mawrth 2025
- Gwerthuso ac adrodd ar ganlyniadau - Gorffennaf 2025
Canlyniadau – a ragwelir
Disgwylir i’r prosiect yn arwain at fanteision sylweddol i ddefnyddwyr ac i’r system ofal. Drwy wella’r ffordd caiff dysffagia ei rheoli, ei nod yw lleihau achosion o ddiffyg maeth, heintiau a derbyniadau i ysbytai ymhlith preswylwyr cartrefi gofal. Bydd canfod anawsterau llyncu’n gynt a’u rheoli’n well yn helpu preswylwyr i fwynhau gwell iechyd yn gyffredinol, ac ansawdd bywyd gwell.
Bydd y prosiect hwn yn ceisio gwella hyfforddiant a rhoi hwb i hyder staff gofal cymdeithasol, gan eu grymuso i ddelio’n effeithiol â sefyllfaoedd risg uchel. Ar ben hynny, bydd hyn yn symleiddio llwybrau gofal, gan greu dull mwy cydlynol o reoli dysffagia a sicrhau gwell cydweithio ar draws timau gofal iechyd.
I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect Hyfforddiant Realiti Rhithwir, cysylltwch drwy anfon e-bost at helo@hwbgbcymru.com.