Profodd Uwchgynhadledd Med-Tech World 2023 i fod yn gynulliad anhygoel o 1,500 o fynychwyr, o 50 o wledydd gyda dros 200 o siaradwyr arbenigol. Arweinydd y rhaglen, Delyth James sy’n rhannu rhai argraffiadau a’r hyn a ddysgwyd o Uwchgynhadledd Med-Tech World ym Malta ym mis Hydref.  

Argraffiadau o Med Tech World 2023

Fe ges i’r fraint yn ddiweddar o fynychu digwyddiad Med Tech World 2023 yng nghanol Valletta, Malta, ac roedd yn brofiad anhygoel. Wedi'i gynnal yn lleoliad hardd Canolfan Gynadledda Môr y Canoldir, roedd y digwyddiad hwn yn llwyfan heb ei ail lle roedd syniadau arloesol yn cwrdd â chymwysiadau’r byd go iawn. Roedd yr awyrgylch yn fwrlwm o gyffro a disgwyliadau, a'r awyrgylch yn drwch o ysbryd arloesol. 

Roeddwn yn awyddus i feithrin cysylltiadau gwerthfawr ag arweinwyr diwydiant, cyfnewid syniadau arloesol a chadw i fyny â thechnolegau blaengar, ac roeddwn yn bendant yn y lle iawn. Ysgogwyd fy mhresenoldeb yn y gynhadledd gan yr awydd i feithrin cydweithredu a fyddai nid yn unig yn gwella ein hecosystem iechyd digidol yng Nghymru ond hefyd yn cyfrannu at y ddeialog fyd-eang ar arloesi ym maes gofal iechyd. 

Roedd digwyddiad Med Tech World 2023 nid yn unig yn ffordd o arddangos technoleg flaengar; roedd yn bair o syniadau a dulliau cydweithredol. Un o'r uchafbwyntiau mwyaf arwyddocaol oedd yr ystod amrywiol o fynychwyr. Busnesau newydd, diwydiannau sydd wedi hen ennill eu plwyf, clinigwyr a lleisiau’r dyfodol—myfyrwyr a newydd-ddyfodiaid i’r diwydiant technoleg feddygol — i gyd yn dod at ei gilydd o dan yr un to. Roedd y cyfleoedd rhwydweithio heb eu tebyg, gan greu amgylchedd lle roedd partneriaethau newydd yn cael eu ffurfio, a phrosiectau arloesol yn cael eu creu. 

DHEW MedTech

 

Chwifio’r faner dros Gymru 

Nid fi oedd yr unig un o bell ffordd i hyrwyddo datblygiadau ein cenedl ym maes technoleg feddygol.   Ymddangosodd Dr. Huw Williams o Brifysgol Caerdydd ar y llwyfan, a thrafododd ddyfodol addysg feddygol yn huawdl, gan daflu goleuni ar lwybrau tuag at weithlu gofal iechyd mwy gwybodus a medrus. Yn ogystal, cyflwynodd Dr. Mohid Khan, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, weledigaeth rymus o sut gall technolegau digidol adfywio treialon clinigol, gan ddod ag  effeithlonrwydd a chywirdeb at wraidd ymchwil feddygol. 

Dywedodd Dr Huw Williams, Ymgynghorydd Meddygaeth Frys (yn Ysbyty’r Tywysog Siarl a Chyfarwyddwr Rhaglen ym Mhrifysgol Caerdydd:   

“Gwnaethpwyd cysylltiadau gwych yn y digwyddiad Med Tech yn Valletta, gyda syniadau arloesol a llwybrau y byddaf yn sicr yn mynd â nhw’n ôl at y GIG a’r Brifysgol. O offer archwilio ar gyfer ein myfyrwyr/staff i dechnoleg adolygu clwyfau i’w defnyddio wrth y drws ffrynt, rwy’n edrych ymlaen at weld i ble fydd hyn yn arwain.” 

Fel cynrychiolydd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, roeddwn wrth law ar ein stondin, yn ymgysylltu â meddyliau chwilfrydig a oedd yn awyddus i archwilio’r dirwedd arloesi yng Nghymru. Braf oedd cyfeirio mynychwyr tuag at Rhiannon Evans o Lywodraeth Cymru, ffynhonnell o wybodaeth ar fewnforio cyfleoedd i'r arena gwyddorau bywyd yng Nghymru. Roedd y synergedd rhwng y byd academaidd, llywodraeth a diwydiant yn amlwg, gan greu darlun bywiog o gydweithio a nodau cyffredin. 

Dywedodd Rhiannon Evans, Uwch Reolwr Masnach a Buddsoddi, Llywodraeth Cymru:  

“Roedd hi’n bleser codi proffil ein Sector Gwyddorau Bywyd yng Nghymru ynghyd â Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn Med Tech World ym Malta. Roedd hi’n wych gweld diddordeb go iawn yng Nghymru ac ecosystem Cymru, dau ddiwrnod amhrisiadwy yn cysylltu â chwmnïau ledled Ewrop a thu hwnt.” 

Dywedodd Dr Mohid Khan, Ymgynghorydd Tiwmorau Gastroenteroleg a Niwroendocrin, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro/ Arweinydd Clinigol, Gwasanaeth Canser Niwroendocrin De Cymru / Darlithydd Anrhydeddus, Prifysgol Caerdydd / Ymgynghorydd Technoleg Iechyd Digidol:

"Braf oedd cael cwrdd â phobl o’r un anian o wahanol ardaloedd o’r byd technoleg iechyd digidol yn y digwyddiad Med Tech ym Malta. Gobeithio y bydd y cysylltiadau a wnaethpwyd yn rhoi cyfleoedd i ddod ag atebion digidol arloesol i’r GIG yng Nghymru, Ymchwil Glinigol a Thechnoleg Iechyd Cymru, gyda bwriad go iawn i ddatrys problemau clinigol a chynhyrchu tystiolaeth sy’n seiliedig ar werth.”

Del, Huw, Rhiannon and Mohid pictured

Yng nghanol y llu o gyfleoedd i rwydweithio, ces i’r fraint o fod yn rhan o ginio mawreddog a drefnwyd gan Enterprise Malta. Roedd hwn yn gyfle delfrydol i gyfnewid syniadau gyda Kurt Farrugia, Prif Swyddog Gweithredol Enterprise Malta, arloeswr go iawn sy’n siapio dyfodol busnes. 

At hynny, drannoeth cefais y fraint o gael fy nghyflwyno i’r Anrhydeddus Ddoctor Miriam Dalli, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Menter yn Llywodraeth Malta, arweinydd anhygoel sy’n ysgogi newid ar y groesffordd amgylchedd, ynni a menter. Roedd y sgyrsiau a gafwyd, y wybodaeth a rannwyd a'r cysylltiadau a wnaed yn ystod y digwyddiad hwn yn ddim llai na thrawsnewidiol, ac rwy’n edrych ymlaen at weld sut maen nhw’n datblygu a’u heffaith ar ein sefydliad a’r ecosystem arloesi ehangach yng Nghymru. 

Roedd pob trafodaeth, boed yn neuaddau'r gynhadledd neu o dan y sêr ym Malta, yn sbardun i arloesi ym mhob un ohonom. Yn y maes technoleg feddygol, atgyfnerthodd y gred mai nid dewis yn unig yw cydweithio, ond anghenraid, ac mae digwyddiadau fel Med Tech World yn sbardun er mwyn i’r cydweithio hwnnw ffynnu.  

Argraffiadau o Med Tech World 2023 

Wrth gnoi cil ar brofiadau Med Tech World 2023, rydw i’n ddiolchgar iawn am y cyfle i gynrychioli Cymru, i rannu’r hyn rydyn ni wedi’i gyflawni ac i ddysgu wrth gymuned fyd-eang o arloeswyr. Mae trefnwyr y digwyddiad, o dan arweiniad deinamig Dylan Attard a Gavin Schranz, a’r tîm cyfan, yn haeddu pob clod am guradu profiad a ragorodd ar yr holl ddisgwyliadau. 

Mae'r digwyddiad yn dyst i botensial diddiwedd  dyfeisgarwch dynol a chyd-ymdrech. I’r dyfodol, lle bydd ein cyd-ymdrechion heb os yn ailddiffinio’r dirwedd gofal iechyd, un cam arloesol ar y tro. 

Mae Med-Tech yn galw am siaradwyr ar gyfer yr uwchgynhadledd nesaf yn 2024! Unwaith eto, bydd  

Med Tech yn agor y drysau i siaradwyr ysbrydoledig sydd eisiau helpu i siapio dyfodol y diwydiant Technoleg Feddygol. Oes gennych chi fewnwelediad, profiadau neu syniadau arloesol i'w rhannu? Mae Med-Tech yn eich gwahodd i fod yn rhan o ddigwyddiad 2024.  Gwnewch gais heddiw i fod yn siaradwr.