Yn ystod y pandemig coronafeirws rydym wedi gweld caredigrwydd mewn pobl a chymunedau fel erioed o'r blaen. Rydym wedi gweld gweithwyr allweddol yn mynd y tu hwnt i'w dyletswydd i ofalu am y rhai sâl a bregus. Rydym hefyd wedi gweld arwyr cudd eraill sydd wedi derbyn yr her o ddatblygu arloesedd yn gyflym, mewn ymgais i helpu i frwydro yn erbyn y pandemig yng Nghymru a ledled y byd.

Image of M-SParc building

Nid yn unig yw'r pandemig coronafeirws wedi effeithio ar yr economi fyd-eang, ond hefyd ar ein hiechyd a'n lles ar raddfa sylweddol. Heb os nac oni bai, dyma'r argyfwng iechyd cyhoeddus mwyaf ers degawdau, ond nid yw popeth yn ddu. Mae cwmnïau arloesol yng ngogledd Cymru wedi llwyddo i ffynnu yn ystod y cyfnod anodd hwn.

Mae Parc Gwyddoniaeth Menai (M-SParc) ar Ynys Môn yn canolbwyntio ar creu gyrfaoedd sy'n talu'n dda yn yr ardal leol a magu busnesau o had. Yn ystod y pandemig coronafeirws, roedd y ffocws ar gyfer M-SParc yn ymwneud â chefnogi ardaloedd o angen critigol GIG Cymru a helpu i atal y feirws rhag lledu.

Newidiodd ein meddylfryd yn M-SParc o sut yr ydym yn arloesi ac yn rhoi hwb i economi leol Gogledd Cymru i'r ffordd yr ydym yn arloesi i gefnogi GIG Cymru mewn cyfnod o argyfwng.

Cymru vs Covid-19

Cynhaliwyd Hac Iechyd ar-lein cyntaf y DU a gynhaliwyd gan Gomisiwn Bevan, Elusen Awyr Las a Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru ar 20 Mai 2020.

Denodd y digwyddiad dros 100 o fynychwyr, a dyfarnwyd £13,000 i brosiectau arloesol gan chwe thîm gwahanol. Nod pob datrysiad oedd helpu i frwydro yn erbyn materion perthnasol Covid-19 o fewn y GIG.

Roedd y digwyddiad Cymru gyfan yn gwahodd gweithwyr iechyd a gofal i gyflwyno materion perthnasol i'r maes hwn i gynulleidfa o ddylunwyr cynnyrch, arbenigwyr technoleg, busnesau, gweithgynhyrchwyr, arbenigwyr yn y diwydiant, academyddion a chydweithwyr yn y GIG.

Roedd y materion yn amrywio o brinder PPE, i wasanaethau na allent redeg mwyach oherwydd cyfyngiadau cloi. Mewn un wythnos, ffurfiwyd 13 o dimau a gosod eu syniadau ar dîm o 'ddreigiau .

Y tîm a gymerodd y brif wobr o £8,000 ar y diwrnod oedd MaskComms. Ymatebodd MaskComms i un o sawl her a wynebwyd o ganlyniad i Covid-19, ar ôl i'r GIG nodi bod y defnydd ehangach o fygydau wyneb o fewn amgylchedd yr ysbyty yn lleihau'r gallu i gyfathrebu'n effeithiol.

Mae'r cynllun arloesol hwn yn cynnwys microffon sy'n ddigon bach i ffitio mewn masg wyneb. Mae'n trosglwyddo'r llais drwy dechnoleg ddi-wifr i uchelseinydd Gwisgadwy i helpu staff y GIG i gyfathrebu'n effeithiol â chleifion.

Virustatic Shields

Mae Virustatic Shield yn gynnyrch amddiffynnol newydd sbon ar gyfer y teulu cyfan wedi'i ddylunio a'i gynhyrchu yng Ngogledd Cymru. Mae'r cot protein gwrthfeirysol unigryw, Viruferrin™, wedi cael ei brofi'n wyddonol yn erbyn y firws sy'n achosi Covid-19.

Mae'r tîm yn Virustatic Shield wedi tyfu'n aruthrol, o un arloeswr unigol yn ôl ym mis Ionawr i dîm o 18 ym mis Mai. Mae hyn wedi dod â swyddi newydd i ogledd Cymru ar adeg o ddirywiad economaidd aruthrol ac ansicrwydd o ran swyddi.

Virustatic Shield yw'r cwmni sy'n tyfu gyflymaf erioed i gynnal eu busnes ar PayPal.

Uchelgais Paul Hope, sylfaenydd Virustatig Shield, mewn bywyd yw i helpu'r frwydr yn erbyn pandemigau ar ol iddo ganfod fod ei hen daid wedi colli ei fywyd i bandemig y ffliw o 1918-1919. Allwn ni ddim helpu ond meddwl bod Paul yn gweld ei uchelgais yn dod yn fyw nawr!

Arloesi yn ystod pandemig

Mae Covid-19 wedi gorfodi busnesau i fod yn fwy ystwyth ac archwilio ffyrdd newydd o ennill incwm. Rydym wedi gweld busnesau yn addasu, datblygu a chynhyrchu er mwyn cael eu cynnyrch i'r farchnad ymhen ychydig wythnosau, gan gadw staff ac osgoi colli swyddi.  Mae hyn yn gyflawniad sylweddol ac yn un y gall llawer o fusnesau ymfalchïo ynddo.

Mae busnesau wedi cael eu cefnogi gan sefydliadau gan gynnwys Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Llywodraeth Cymru i gyflenwi cynhyrchion ardystiedig i GIG Cymru yn gyflym. Cyn y pandemig coronafeirws gallai hyn fod wedi cymryd misoedd os nad yn hirach mewn rhai achosion.

Mae'r gefnogaeth i fusnesau arloesol newydd yn ystod y cyfnod hwn wedi bod yn amhrisiadwy ac rydym yn ddiolchgar am y gefnogaeth.

Fy ngobeithion am Gymru ôl-Covid yw ein bod yn cadw'r ysbryd a'r egni arloesol yr ydym wedi eu gweld, a bod Cymru yn parhau i dyfu fel cenedl arloesol gyda system iechyd o'r radd flaenaf.

I gael gwybod mwy am waith M-SParc gwrandewch ar y podlediad Syniadau Iach isod.

Os oes gennych syniad arloesol i helpu GIG Cymru ar hyn o bryd, gallwch ei gyflwyno drwy borth arloesi Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru.