Gyda dyfodiad COVID-19 yng Nghymru, daeth ansicrwydd i bob rhan o’r gymdeithas. Daeth cwestiynau i’r wyneb yn gyflym; sut a lle’r oedd y feirws yn lledaenu? Pa effaith fyddai’n ei gael ar iechyd cyhoeddus? Sut fyddai ein gwasanaethau iechyd a gofal yn ymdrin â’r pwysau ychwanegol? A pha effeithiau tymor byr a hirdymor fydd y pandemig yn ei gael ar ein hiechyd a’n ffordd o fyw?

SAIL databank

Wrth gydnabod maint y dasg mewn llaw, roedd yn hanfodol sefydlu dull cydweithredol, ehangach tuag at gynhyrchu gwybodaeth ac ymchwil. Yn y blog hwn, ceisiaf ddisgrifio sut y ffurfiwyd dull Cymru’n Un tuag at COVID-19.

Beth yw Banc Data SAIL?

Wedi’i leoli yn Ysgol Feddygol Prifysgol Abertawe, mae’r Banc Data Diogel ar gyfer Cysylltiadau Gwybodaeth Ddienw (SAIL) yn dod â data dienw ar lefel yr unigolyn a data lefel y cyfeiriad ynghyd o amrywiaeth o ffynonellau data ar raddfa’r boblogaeth, gan ddarparu hyn fel adnodd drwy borth diogel sy’n cael ei adnabod fel Amgylchedd Ymchwil Dibynadwy neu AYD.

Mae Banc Data SAIL yn stori o lwyddiant yng Nghymru, sy’n ganlyniad i ddegawd o arloesi sy’n arwain y byd gan dîm bychan o wyddonwyr data, arbenigwyr llywodraethu gwybodaeth a gweithwyr proffesiynol TG ym Mhrifysgol Abertawe, a gyllidir yn rhannol gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Eu cenhadaeth nhw oedd creu platfform diogel sy’n gwarchod preifatrwydd ac sy’n darparu’r mynediad ehangaf posibl at ddata cysylltiedig heb beryglu diogelu data a phreifatrwydd.

Ers hynny, mae Banc Data SAIL wedi sefydlu ei hun fel un o’r banciau data sydd wedi’i nodweddu orau yn unrhyw le yn y byd. Ymysg ei chyfoeth o ffynonellau data, mae’n cynnwys cwmpas 100% o ofal eilaidd ac 80% o ofal sylfaenol ar gyfer y boblogaeth yng Nghymru, sy’n cael ei gyflawni drwy bartneriaeth â Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru (GGGC).

Dull ‘Cymru’n Un’

Ffurfiwyd tîm a oedd yn tynnu ar yr arbenigedd angenrheidiol i arwain gwneud penderfyniadau ynglŷn â pholisïau. Mae dod â chydweithwyr drwy Gymru a’r DU at ei gilydd, gan gynnwys Ymchwil Data Iechyd y DU (YDI’r DU), Ymchwil Data Gweinyddol Cymru (YDG Cymru), Banc Data SAIL, Platfform Data Iechyd Meddwl y Glasoed (PDG), Hyb Ymchwil Data Iechyd BREATHE, Llywodraeth Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC), Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru (GGGC) ac eraill, wedi arwain at ddull ystwyth ac ymatebol i ymdrin â dadansoddi data a chynhyrchu gwybodaeth yn seiliedig ar y blaenoriaethau cyson a’r blaenoriaethau sy’n datblygu o’r newydd ar gyfer ymdrin â COVID-19.

Rydw i wedi bod yn Uwch Reolwr Ymchwil a Gwyddonydd Data yn gweithio gyda Banc Data SAIL am dros ddeng mlynedd, ac fel rhan o YDI’r DU, rydw i’n rheoli tîm o Ymchwilwyr a Gwyddonwyr Data sy’n gweithio fel arfer ar brosiectau ymchwil y gallan nhw ambell waith gymryd blynyddoedd i’w cwblhau.

Mae gennym ni staff i weithio ar gyfran gynlluniedig o ymchwil ar unrhyw bryd. Mae ein tîm ni yn defnyddio egwyddorion ac ymarferion ystwyth ar gyfer rheoli prosiectau, ac felly maen nhw wedi hen arfer â bod yn hyblyg o ran gofynion ymchwil, ond drwy fod mor ymarferol wrth ymateb i COVID-19 rydym wedi gweld cynnydd sylweddol yn ein gwaith ac mae’r amser ymateb i gael gwybodaeth wedi lleihau.

Mae ein dull wedi bod yn drefnus ac rydym wedi clustnodi rhai aelodau o’r staff ar brosiectau ymchwil cyfredol, sydd ag amserlenni sefydlog i gwblhau eu canlyniadau, ond mae gweddill y tîm yn canolbwyntio yn gyfan gwbl ar ymateb i’r heriau a wynebir gan COVID-19 a darparu gwneuthurwyr penderfyniadau â’r wybodaeth y maen nhw ei hangen. Ar y cyfan, rydym wedi osgoi cymryd gwyliau blynyddol ac mae nifer ohonyn nhw’n gweithio llawer mwy o oriau nag sy’n ofynnol iddyn nhw eu gwneud oherwydd y pandemig, ond rydym yn eithriadol o falch bod yn rhan o hyn ac rydym wedi gwneud hynny’n wirfoddol, gyda chefnogaeth system gefnogi gref er mwyn diogelu iechyd corfforol ac iechyd meddwl ein timau.

Gyda’r datblygiadau diweddar, mae dadansoddiad amser real newydd sy’n dangos lledaeniad COVID-19 yng Nghymru, drwy ddefnyddio data geo-ofodol, wedi llywio polisi ac ymyriadau’r llywodraeth yn uniongyrchol.

Mae’r prosiect yn defnyddio data o’r profion COVID-19 a dderbynnir bob dydd, er mwyn cadarnhau cyfraddau a chynnydd mewn heintiau COVID-19 yng Nghymru, drwy ddefnyddio canlyniadau positif a’r dyddiadau y cymerwyd y profion. Fel gyda’r holl ddata ym Manc Data SAIL, mae’r wybodaeth hon yn ddienw ac yn ddiogel, gyda mynediad drwy’r porth diogelu preifatrwydd, a data o’r profion yn gysylltiedig â ffynonellau data geo-ofodol er mwyn modelu’r lledaeniad a’r trosglwyddiad dros amser a thrwy Gymru.

Pam mae Banc Data SAIL yn bwysig ar gyfer ymchwil COVID-19?

Gall Banc Data SAIL fonitro effaith amrediad eang iawn o gysylltiadau a chanlyniadau ar y boblogaeth gyfan drwy ddefnyddio data gyda’r manylion personol wedi’u tynnu ymaith yn gadarn. Mae’n bosibl dilyn datblygiad cyflyrau iechyd mewn unigolion sydd mewn cartrefi a chartrefi amlfeddiannaeth, fel cartrefi gofal, yn ogystal â lleoliadau trefnus fel ysgolion, monitro datblygiad a lledaeniad y clefydau, ynghyd â gwerthuso effaith cysylltiadau ac effeithiau’r triniaethau ar ganlyniadau.

Yn ogystal â chael amrediad eang o ffynonellau data arferol sy’n bodoli, mae ymdrech anferth wedi cael ei gwneud fel rhan o bandemig COVID-19 er mwyn bod ymysg amrediad o ffynonellau data newydd a gwahanol, yn ychwanegol at gynyddu amlder y ffynonellau data mewn rhai achosion o flynyddol i fisol, os nad wythnosol neu ddyddiol. Mae’r llifau data ychwanegol a chynyddol hyn mewn gwirionedd yn cynorthwyo â natur ac anghenion amser real cynhyrchu gwybodaeth ynglŷn â COVID-19.

Er mwyn i ymchwil a gwybodaeth fod yn effeithiol, mae angen ystyried cymeradwyaethau yn gyflym. Mae tîm Banc Data SAIL yn gallu sicrhau bod data ar gael mor gyflym â 48 awr, tra’n cynnal ei gyfres ddiffiniedig o brotocolau llywodraethu. Digwydd hyn mewn cyfnod pan mae’r tîm yn gweld cymaint o geisiadau mynediad at ddata gan ymchwilwyr mewn un wythnos ag y bydden nhw yn eu gweld fel arfer mewn un mis nodweddiadol.

Sut mae Banc Data SAIL yn cyfrannu tuag at ymchwil COVID-19?

Wedi’i sbarduno gan fodolaeth cydweithrediad ag Ymchwil Data Iechyd (YDI) y DU, consortiwm sydd wedi cael ei sefydlu er mwyn uno data iechyd y DU a sicrhau ei fod ar gael ar gyfer ymchwil, mae rhwydweithiau ymchwil data iechyd eang wedi cael eu haddasu i alluogi AYD pob gwlad gartref i ddarparu mynediad at ddata ar gyfer nifer fawr o astudiaethau ymchwil COVID-19.

Mae swyddogaeth Banc Data SAIL yn helpu i lywio a darparu gwybodaeth ar gyfer ymateb COVID Grŵp Cynghori Tactegol (GCT) Llywodraeth Cymru, sy’n bwydo wedyn i SAGE y DU (Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau). Mewn diweddariad i SAGE ar ddechrau Mehefin 2020, cydnabu YDI’r DU bod Banc Data SAIL yn un a oedd yn “arwain y ffordd ar draws pob dimensiwn, gan dynnu sylw at y buddion o feddu ar isadeiledd aeddfed o’r cychwyn cyntaf.”

Mae SAIL yn galluogi ymchwilio i’r meysydd canlynol:

  • Cynllunio ymateb argyfwng y Llywodraeth a’r GIG
  • Asesiadau o effaith y pandemig ar iechyd meddwl
  • Treialon clinigol sy’n cymharu llwybrau triniaeth
  • Ymchwiliadau i’r cyswllt rhwng ethnigrwydd a difrifoldeb COVID-19
  • Cysylltu data â rhaglenni profi COVID-19
  • Effeithiau ar grwpiau mwyaf bregus y gymdeithas Beth sydd nesaf ar gyfer

Banc Data SAIL ac ymateb Cymru’n Un i COVID-19?

Mae’r tîm cydweithredol drwy Gymru a’r DU yn parhau i ddatblygu ac ehangu, gyda phobl a grwpiau newydd yn ymuno drwy’r amser gyda’r arbenigedd a’r profiad perthnasol o ddefnyddio data ar raddfa fawr, gan ddod at ei gilydd i gynhyrchu’r wybodaeth sydd ei hangen gan y GCT a SAGE. Os oes diddordeb gennych chi mewn ymuno â’r ymateb, cysylltwch os gwelwch yn dda i drafod a gweld sut y gall eich ymdrechion a’ch gwaith chi gydweddu â blaenoriaethau cenedlaethol y GCT a sut y gallwch chi gefnogi ymateb Cymru i bandemig y COVID-19.