Anaml iawn y bydd diwrnod yn mynd heibio heb newyddion ynghylch cynnyrch gwyddorau bywyd newydd, neu hyd yn oed ffordd newydd o weithio sydd â’r potensial i drawsnewid ein ffordd o fyw. Ac mae hyn yn cael ei ddylanwadu gan ba mor gyflym y gall y tirwedd economaidd, gwleidyddol a chymdeithasol newid ar raddfa genedlaethol a byd-eang. 

Gwybodaeth y sector

Anaml iawn y bydd diwrnod yn mynd heibio heb newyddion ynghylch cynnyrch gwyddorau bywyd newydd, neu hyd yn oed ffordd newydd o weithio sydd â’r potensial i drawsnewid ein ffordd o fyw. Ac mae hyn yn cael ei ddylanwadu gan ba mor gyflym y gall y tirwedd economaidd, gwleidyddol a chymdeithasol newid ar raddfa genedlaethol a byd-eang. 

Gall fod yn anodd cadw llygad ar yr holl wybodaeth hon, ac yn bwysig iawn, gwerthuso’r hyn sy’n berthnasol a’r hyn nad yw’n berthnasol i’ch prosiect(au) a’ch cyfeiriad strategol chi. Gall gwybodaeth y sector helpu i ddidoli’r wybodaeth hon – gan roi cipolwg ar y dirwedd sy’n berthnasol i chi a’ch cynulleidfaoedd targed. 

Beth yw gwybodaeth y sector? 

Mae gwybodaeth y sector (cyfeirir ato hefyd fel gwybodaeth y farchnad) yn casglu ac yn dadansoddi gwybodaeth am dueddiadau, marchnadoedd, cystadleuwyr a chwsmeriaid. Defnyddir data ansoddol a meintiol a gwybodaeth o sawl ffynhonnell i greu darlun cyffredinol a chefndir o’r sector y mae cwmni’n gweithredu ynddo. 

Gall casglu gwybodaeth o’r fath am y sector helpu i lywio eich cyfeiriad strategol os oes gennych gynnyrch neu wasanaeth arloesol – gan nodi risgiau posibl a chyfleoedd i ehangu. Gall hyn helpu wrth greu cynllun busnes, law yn llaw â chael gafael ar gyllid, a chreu llwybr tuag at ddatblygu. 

Gall gwybodaeth y sector hefyd helpu’r rheini sy’n gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol sy’n wynebu heriau i chwilio am atebion, a hynny trwy ymchwilio i dueddiadau, cwmnïau a datblygiadau arloesol sy’n dod i’r amlwg er mwyn cael y cymorth gorau.  

Sut gallwn ni eich cefnogi 

Gall fod yn anodd gwybod lle i ddechrau wrth gasglu gwybodaeth y sector o’ch dewis. Gall Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru gefnogi hyn trwy’r gwasanaethau a gynigir gan ein tîm gwybodaeth y sector pwrpasol. Mae hyn yn cynnwys: 

1. Sganio’r gorwel a chwilota am arloesedd 

Rydyn ni’n cyfuno ein harbenigedd eang a’n gallu i gael gafael ar asedau gwybodaeth marchnad berchnogol, sy’n cefnogi’r gwaith o chwilio am gynnyrch a thechnegau arloesol mewn ymateb i heriau gofal iechyd penodol. Rydyn ni hefyd yn gweithio gyda gweithwyr proffesiynol ym maes arloesi o bob rhan o’r maes iechyd a gofal cymdeithasol i nodi a blaenoriaethu technolegau newydd sydd â photensial cryf yn y farchnad.  

2. Dadansoddi’r farchnad 

Gall ein tîm helpu i ddadansoddi deinameg y farchnad gofal iechyd yng Nghymru, yn y DU ac yn rhyngwladol. Mae cael gwybodaeth eang ar yr agweddau hyn yn helpu i ganfod cryfderau neu fylchau yn y farchnad, yn ogystal ag unrhyw gyfleoedd sy’n dod i’r amlwg yn y sector 

3. Canllawiau technegol 

Rydyn ni’n cyfuno ein harbenigedd a’n perthnasoedd mewnol ag ymgynghorwyr arbenigol i helpu gydag amrywiaeth o heriau penodol. Mae hyn yn cynnwys cymorth gyda diogelu ac erlyn eiddo deallusol, canllawiau ynglŷn â llwybrau rheoleiddio clinigol a modelu economaidd ym maes iechyd. 

4. Cynnal grwpiau rhanddeiliaid 

Mae ein cysylltiadau sy’n cwmpasu iechyd, gofal cymdeithasol, y llywodraeth, diwydiant a’r byd academaidd yn golygu ein bod mewn sefyllfa dda i weithredu fel brocer niwtral wrth gynnull grwpiau amrywiol o randdeiliaid. Gall hyn eich helpu i fynd i’r afael â heriau arloesi clinigol. 

5. Cymorth cyllido 

Gallwn eich cyfeirio at gynlluniau cyllido priodol ar gyfer prosiectau arloesi ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Ar ôl i chi nodi un cynllun sy’n berthnasol i nodau ac amcanion eich prosiect, gallwn gynnig cymorth i ysgrifennu bidiau, yn ogystal ag ymarfer cyflwyniadau a chyfweliadau. Mae ein cysylltiadau agos â’r gymuned cyfalaf menter hefyd yn ein galluogi i roi arweiniad i BBaChau ac arloeswyr ar barodrwydd i fuddsoddi, cynllunio busnes a rhoi cyflwyniadau er mwyn ceisio sicrhau buddsoddiad. 

6. Paratoi achosion busnes 

Wrth gyfuno’r holl alluoedd a amlinellir uchod, gallwn ddarparu cefnogaeth helaeth i baratoi achosion busnes safonol sydd wedi’u hanelu at sbarduno prosiectau arloesi ar hyd y llwybr datblygu tuag at fabwysiadu clinigol eang. 

Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am sut gall ein tîm gwybodaeth y sector ddefnyddio eu harbenigedd i gefnogi eich prosiectau, cysylltwch â ni trwy anfon e-bost at hello@lshubwales.com