Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru

Yn ddiweddar, fe wnaethon ni fynychu Cynhadledd Flynyddol Cydffederasiwn y GIG yng Nghymru. Beth wnaethon ni ddysgu? Mae fy mlog diweddaraf yn egluro’r cyfan… 

(left to right) Chris Martin, Cari-Anne Quinn and Lily Stubley-Adje sat around a table at Welsh NHS Confed Annual Conference

Fe wnaeth sgwrs agored a gonest am ein GIG ddominyddu’r trafod yn ystod y digwyddiad. I fod yn blwmp ac yn blaen, mae gofal iechyd, nid yn unig yng Nghymru ond yn y DU, yn wynebu’r hyn a alwodd Emma Woollett, Cadeirydd Cydffederasiwn y GIG yng Nghymru yn “storm berffaith”. 

Nid yw'r heriau hyn yn ddieithr i'r rhai sy'n gweithio o fewn y GIG neu wrth ei ymyl, ac unrhyw un sy’n gorfod cael mynediad i’w wasanaethau fel claf. Cafodd rhestrau aros hir, prinder gweithlu, pwysau ariannol sy’n waeth oherwydd chwyddiant cynyddol a phoblogaeth sy’n byw’n hirach gyda chydafiachedd, eu crybwyll ym mhob un o’r trafodaethau bron iawn fel pwysau sylweddol. 

Tynnodd y gynhadledd sylw at sut y gallwn greu atebion drwy beidio ag osgoi'r heriau hyn a’u taclo’n agored. Serch hynny, mae angen i’r atebion hyn fod yn feiddgar ac ar lefel system gyfan ac ar lawr gwlad i fynd i’r afael â maint y pwysau. 

Rhoi dulliau atal wrth wraidd popeth 

Drwy dynnu sylw at bwysigrwydd dulliau atal, dywedodd Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, “oni bai ein bod yn gwneud hyn, nid yw gofal iechyd yn gynaliadwy.” 

A dilynodd sgyrsiau’r dydd yr un trywydd. Archwiliodd y drafodaeth banel o dan gadeiryddiaeth Judith Paget, Prif Weithredwr GIG Cymru, effaith cymorth ataliol eilaidd. Mae’r elfennau allweddol hyn yn cynnwys canfod cynnar, gwneud yn siŵr bod pobl yn cymryd meddyginiaeth bob dydd os oes angen, sgrinio’r boblogaeth a deiet ac ymarfer corff. 

Amlygodd Dr Sally Lewis, Cyfarwyddwr Clinigol Cenedlaethol ar gyfer Gofal sy’n Seiliedig ar Werth,  sut mae ei wreiddio yn ein system gofal iechyd yn hollbwysig ar gyfer gwneud arbedion cost hanfodol. Gall cymorth ataliol eilaidd roi enillion byr dymor a chyflymach ar fuddsoddiad, gan nad oes angen i bobl sy’n ymwneud â’r system gael mynediad at ofal drutach mor aml. Gwelwyd hyn gyda chleifion diabetes â chanlyniadau llai difrifol, fel llai o drychiadau. Mae gwasanaethau cyswllt torri esgyrn hefyd yn atal cwympiadau a'r gofal dilynol sydd ei angen. 

Cynigiodd Paul Mears, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf, bersbectif pwysig Byrddau Iechyd ar ddulliau atal. Gall canolbwyntio ar ddulliau atal fod yn heriol oherwydd y pwysau gweithredol sy’n bodoli ar hyn o bryd. Serch hynny, mae defnyddio data yn effeithiol yn hysbysu arweinwyr yn fanwl o ran ble i ganolbwyntio ymdrechion gyda’r effeithlonrwydd mwyaf – gan dargedu ymyriadau at y rhai sydd ei angen fwyaf. 

Gall arloesi digidol hefyd gefnogi dulliau atal ar lefel unigol – rhywbeth rydyn ni fel sefydliad wedi’i nodi drwy ein gwaith yn cefnogi prosiectau monitro o bell. Siaradodd Matthew Taylor, Prif Weithredwr Cydffederasiwn y GIG, am sut mae datblygiadau diagnosteg a thechnoleg y gellir ei gwisgo yn golygu na fydd angen i bobl aros am symptomau am gymorth meddygol yn y dyfodol. Fodd bynnag, rhaid i hyn fod yn ariannol gynaliadwy a hygyrch i bawb er mwyn atal anghydraddoldebau rhag ehangu hyd yn oed ymhellach. 

Effaith arloesi ar effeithlonrwydd 

Clywsom fod arloesi hefyd yn gyfle hanfodol i wella effeithlonrwydd a chapasiti. Fe wnaeth Rhidian Hurle, Prif Swyddog Gwybodaeth Glinigol yn Iechyd a Gofal Digidol Cymru, gadeirio sesiwn ar yr ymgyrch i ddefnyddio cofnod iechyd electronig ar draws Cymru.  

Mae’r manteision yn cynnwys cynyddu capasit, oherwydd gall atgyfeiriadau fynd drwy lwybr sy’n fwy llyfn a chyrraedd y derbynnydd clinigol arfaethedig yn gyflymach. Mae symud o ddulliau sy’n  seiliedig ar bapur i fod yn electronig yn safoni ac yn cyflymu prosesau, yn cyfyngu ar wastraff papur ac yn symleiddio'r system atgyfeirio i sicrhau bod y derbynnydd clinigol arfaethedig yn cael y wybodaeth sydd ei hangen arnyn nhw’n gyflym. 

Tynnwyd sylw hefyd at gynaliadwyedd yn ein GIG. Mae Eich Meddyginiaethau, Eich Iechyd yn brosiect sy'n annog pobl i gadw at eu meddyginiaeth ac yn cyfyngu ar wastraff meddyginiaeth costus. Mae cost ariannol ac amgylcheddol i bobl nad ydyn nhw’n cymryd y feddyginiaeth sydd ei hangen arnyn nhw, a gall hefyd arwain at ddirywiad ymhlith cleifion, sy’n lleihau annibyniaeth, ac yn ei dro, yn rhoi mwy o straen ar gapasiti ein system iechyd a gofal cymdeithasol. 

Tanlinellodd yr ymgyrch sut y gall annog newid ymddygiad drwy ymgyrchoedd wedi'u targedu annog pobl i gadw at eu meddyginiaeth. Rydyn ni wedi gweld drwy ein cefnogaeth ein hunain ar werthusiad YourMeds sut y gall defnyddio arloesi digidol yn y gymuned leihau gwastraff meddyginiaeth. Yma, mae teclyn rheoli meddyginiaethau digidol yn atgoffa pobl i gymryd eu presgripsiynau. 

Mae sgwrs yn gweithio’r ddwy ffordd 

Rhaid adeiladu systemau o amgylch y cyhoedd yn hytrach na bod y cyhoedd yn gorfod addasu i gael mynediad atyn nhw. Ac yn lle dweud wrth bobl bod yn rhaid iddyn nhw newid eu hymddygiad, mae angen newid y ddeialog: gan fynd o roi gorchmynion i sgwrs agored, ddwy ffordd. Roedd y rhain yn ddau o’r prif bwyntiau a wnaed ynglŷn â gwella ymgysylltiad â chleifion – thema allweddol arall a amlygwyd ar draws y trafodaethau. 

Gall creu diwylliant ym maes iechyd a gofal cymdeithasol sy’n rhoi lle blaenllaw i rymuso helpu i ysgogi'r ymgysylltu hwn. Siaradodd y sesiwn banel ar ‘ddatgelu lleisiau cudd yn y gymuned’ am yr angen am ymgysylltiad ar lawr gwlad o dan arweiniad pobl â phrofiadau bywyd o fewn y cymunedau dan sylw y mae angen i ni eu cyrraedd. 

Daeth sgwrs am y Wigan Deal â’r rhaglen o ddigwyddiadau i ben ar nodyn positif ac ysbrydoledig. Dangosodd sut y gallai ymddiried mewn cymunedau i helpu i lywio buddsoddiadau drawsnewid canlyniadau i bobl sy'n byw yno. Arweiniodd yr agwedd hon tuag at iechyd a gofal, o dan arweiniad dinasyddion, at gynnydd mewn disgwyliad oes yn rhai o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig. Drwy rymuso pobl yn y gymuned a gwrando ar eu hanghenion, gallwn greu gwasanaethau cymunedol y maen nhw eisiau cael mynediad atyn nhw - a’u helpu i fyw bywydau hirach ac iachach. 

Thema’r dydd oedd ‘gofal iechyd ar y dibyn’. Er na ellir gorbwysleisio’r pwysau, roedd y digwyddiad yn gyfle calonogol i archwilio sut y gallwn ddod yn ôl o'r dibyn hwn. Gall adeiladu system gefnogol sy’n cael ei harwain gan lais cleifion, sy’n rhoi lle canolog i ddulliau atal, arloesi a chydweithio, ein helpu i greu Cymru iachach, mwy ffyniannus.  

Os na gawsoch chi gyfle i’n gweld ni yn y gynhadledd, ond yr hoffech ddysgu sut y gallwn eich helpu i chwarae rhan hanfodol yn hyn drwy lywio eich arloesedd yn rheng flaen iechyd a gofal cymdeithasol, cysylltwch a ni