Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru

Yn ein blog gwadd diweddaraf, Bob McClean, Prif Swyddog Masnachol, Kinsetsu, sy’n rhannu sut gall gwneud arbedion ariannol mewn gofal iechyd drwy ddefnyddio technolegau fel y Rhyngrwyd Pethau ysgogi arbedion effeithlonrwydd amgylcheddol hefyd.  

Kinsetu

A all arbed arian achub dynol-ryw ar y Ddaear? Mae'n gwestiwn diddorol, a heb feddwl yn rhy ddwfn, yr ateb cyflym y gallech ei roi yw “Na! Nid oes unrhyw swm o arian yn mynd i brynu planed newydd i ni.” Ar adeg pan rydyn ni’n gofyn i bobl gymryd cyfrifoldeb personol am eu hôl-troed amgylcheddol, mae’n werth edrych ychydig yn fanylach ar y cysylltiad rhwng darparu ein gwasanaethau iechyd a’r ymgyrch tuag at Sero Net.   

Diffinnir Sero Net fel targed o negyddu'n llwyr faint o nwyon tŷ gwydr a gynhyrchir gan weithgaredd dynol, i'w gyflawni drwy leihau allyriadau a gweithredu dulliau o amsugno carbon deuocsid o'r atmosffer.  Yn bersonol, mae’r darn olaf yn swnio braidd yn wyddonol,  ac yn fy mhen o leiaf, yn golygu sgrwbio’r aer a/neu blannu mwy o goed. Yn amlwg mae yna lawer mwy i’r peth na hynny, ond y darn am leihau rydw i'n meddwl amdano. 

Profiad diweddar gydag ymddiriedolaeth gofal iechyd ddaeth â’r peth yn amlwg i fi. Mae Kinsetsu yn darparu llu o wasanaethau amser real Rhyngrwyd Pethau (IoT) sy’n seiliedig ar leoliadau i nifer o ysbytai yng Nghymru. I'r rheini sydd ddim yn gwybod beth mae hynny'n ei olygu, mae IoT yn caniatáu rhyng-gysylltiad drwy'r rhyngrwyd o ddyfeisiau cyfrifiadurol sydd wedi'u hymgorffori mewn gwahanol wrthrychau, a’u galluogi i anfon a derbyn data. Drwy hyn, rydyn ni’n falch o deimlo ein bod yn gwneud gwahaniaeth i gost ac ansawdd y gofal iechyd a ddarperir. 

Mae ein hatebion yn golygu nad yw staff clinigol sydd wedi’u gorlethu yn gwastraffu amser yn ceisio dod o hyd i offer neu bethau sydd eu hangen arnyn nhw (pympiau, gyrwyr chwistrell, gwelyau, gweithfannau, samplau patholeg, troli, cadeiriau olwyn etc. – mae’r rhestr yn llythrennol bron yn ddiddiwedd). Mae gwastraffu llai o amser yn gyfystyr â gofal iechyd gwell, mwy darbodus. 

Fel cyflenwr gofal iechyd, rydyn ni’n naturiol yn canolbwyntio ar y niferoedd. Gallwn restru ffeithiau fel y GIG yng Nghymru yn gwario tua £6.9 biliwn yn flynyddol ar ysbytai, gwasanaethau cymunedol a gwasanaethau arbennig, ac os ydych chi’n tynnu costau cyflogaeth, mae bron i £2 biliwn ar “bethau”.  Ac fel darparwr IoT, mae’n ymwneud â’r pethau. Serch hynny, mae cyflenwi i’r sector cyhoeddus yn ymwneud â’r achos busnes a cheisio sicrhau eu bod yn cael gwerth am arian i’r pwrs cyhoeddus. Ni allwch ddadlau â hynny mewn gwirionedd - does neb eisiau gweld amser nac arian yn cael ei wastraffu. 

Wrth gwrs, mae’r rhan fwyaf o dendrau y sector cyhoeddus dyddiau yma hefyd yn gofyn am yr Amgylcheddol, Cymdeithasol a Llywodraethu, ac mae gan bawb bolisi ond a allwn ni wir gyfateb yr hyn rydyn ni’n arbed ein cwsmeriaid o safbwynt amser ac ariannol â chyfraniad at Sero Net?  Rwy'n credu y gallwn. Efallai na allwn roi rhif arno ar hyn o bryd, ond rydyn ni’n gwybod ein bod yn helpu. 

Gadewch i fi roi enghraifft syml i chi. Ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, gofynnwyd i ni ehangu'r defnydd o'n platfform i'w helpu i leoli ac olrhain eu holl silindrau nwy meddygol ar draws eu hystâd. Dim Sero Net? Anghywir. A dweud y gwir, roedd yr achos busnes yn cael ei lywio gan y ffaith nad oedden nhw wastad yn siŵr ble roedd y silindrau, roedd yn rhaid iddyn nhw brynu mwy nag oedd ei angen mewn gwirionedd. Felly ie, y fantais uniongyrchol oedd un ariannol. Ond meddyliwch am yr holl silindrau ychwanegol hynny a brynwyd. Meddyliwch am yr ynni a ddefnyddiwyd a'r allyriadau a grëwyd drwy fwyngloddio'r deunydd i wneud y dur, am y broses weithgynhyrchu i wneud y silindrau, am y peiriannau sydd eu hangen i'w llenwi â nwy a’r trenau, y llongau a'r lorïau sy'n cael eu defnyddio'n anochel i'w symud o gwmpas yn ystod eu cylchred oes.  

Fel y dywedodd John Harris, Pennaeth Fferylliaeth “O edrych yn gyflym, rydw i’n gallu gweld lleoliad y silindrau ac olrhain eu siwrnai. At hynny, rydw i’n gallu nodi pa silindr sydd ar fin dod i ben a'i leoliad hysbys diwethaf. Mae cael y wybodaeth hon yn ein helpu i reoli cyflenwad a lleihau risg yn ddi-dor”.  Mae gwastraff yn costio arian.  Ond mae hefyd yn costio carbon. 

Felly i ateb y cwestiwn a ofynnais ar ddechrau’r blog, ydy mae’n bosib cydbwyso arbedion cost a gwneud penderfyniadau sy'n gyfeillgar i'r amgylchedd. Oherwydd gall y ddau fod yn fwy effeithlon i sefydliad, sy'n bendant yn wir wrth ddefnyddio IoT. 

I ddysgu mwy ynglŷn â sut gallai Kinsetsu eich helpu i wneud arbedion hanfodol tra'n helpu i greu yfory gwyrddach, ewch i’w gwefan.