Mae'r flwyddyn ddiwethaf wedi cael effaith ddigynsail ar bob maes diwydiant ac iechyd a gofal cymdeithasol. Yma, mae Cari-Anne Quinn yn trafod ein dysgu a'n meddyliau am y dyfodol yn 2020.

Concept art of a digital brain

Mae’r wythnosau cyntaf o unrhyw flwyddyn newydd yn gyfle gwych i fyfyrio a chynllunio ar gyfer y dyfodol. Wrth gwrs, mae mis Ionawr eleni rhywfaint yn wahanol. Efallai nad ydym eisiau pendroni’n ormodol dros 2020, blwyddyn a chafodd ei llethu gan Covid-19 – ond yn anffodus mae’n debyg o barhau am ran helaeth o 2021 hefyd, sy’n golygu bod cymhwyso’r hyn rydym wedi ei ddysgu llynedd yn bwysig.  

Mae hyn yn arbennig o allweddol i ni yn Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru. Roedd gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol eisoes yn wynebu pwysau sylweddol i ddiwallu anghenion hirdymor ein poblogaeth sy’n heneiddio. Ymhelaethodd y pandemig ar heriau systematig o’r fath. Fodd bynnag, dangosodd hefyd sut y gall dull cydweithredol a chwim helpu i fynd i’r afael â nhw drwy arloesi ar gyflymder a graddfa. 

Gall busnesau yng Nghymru ymfalchïo yn eu hymateb i’r pandemig. Yn 2020, gwelsom o lygad y ffynnon sut y bu diwydiant ac iechyd a gofal cymdeithasol yn cydweithio i hyrwyddo datblygiad a thrawsnewid wrth wynebu Covid-19. Wrth edrych ymlaen at y flwyddyn newydd, byddwn yn gweithredu ar y dull hwn er mwyn parhau â’r ymateb i’r pandemig, yn ogystal â diwallu anghenion gofal iechyd esblygol ehangach ein poblogaeth. 

Cipolwg o’r hyn sy’n bosib 

Roedd ymdeimlad enfawr o frys i’r sawl oedd ar flaen y gad yn ymateb i don gyntaf pandemig Covid-19. Mewn rhai achosion, gostyngodd amserlenni o flynyddoedd a misoedd lawr i wythnosau a diwrnodau i ddarparu atebion brys ar draws y maes iechyd a gofal cymdeithasol a diwydiant.  

Yma yn Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, gweithiom i gefnogi sefydliadau i gyfrannu at yr ymateb hwn. Roedd hyn yn cynnwys gweithio law yn llaw â myrdd o sefydliadau gan gynnwys TEC Cymru, SMART Cymru a Technoleg Iechyd Cymru. Cawsom hefyd ein penodi gan Lywodraeth Cymru fel rhyngwyneb rhwng diwydiant a GIG Cymru mewn ymateb i’r pandemig. Fe weithredom fel pwynt cyswllt cyntaf gan gyfeirio busnesau ymlaen at Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru. 

Cawsom gyfle unigryw yn sgil ein swyddi i ddeall y wers a ddysgwyd o’r ymateb cychwynnol i’r pandemig. Gwelsom sut cafodd rhwystrau i arloesi eu chwalu drwy gydol y flwyddyn er mwyn darparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol sefydledig a newydd ar frys. Dangosodd sut y gallai system gaffael chwim, yn ogystal â rhwydwaith cyd-ddibynnol o bartneriaid sy’n cydweithio’n agos, ddarparu atebion yn gyflym. 

Un fantais allweddol oedd sut y llwyddodd sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol i fabwysiadu cynnyrch a gwasanaethau newydd yn gyflym, megis addasu’n brydlon i dechnolegau digidol. Roedd digideiddio o’r fath yn mynd i’r afael â gofynion uniongyrchol yn wyneb rheolau cadw pellter cymdeithasol newydd, megis y galw am ymgynghoriadau ar-lein rhwng darparwyr gwasanaeth a’r cleifion.  

Gall hyn hefyd weithio fel sbardun i gyflawni trawsnewidiad digidol ehangach. Gall fod o gymorth i greu system fwy integredig, cysylltiedig a fyddai’n sbarduno datblygiad ac yn meithrin arloesedd, gan hefyd wella hygyrchedd ac effeithlonrwydd gwasanaethau. 

Newid at fod yn ragweithiol 

Yn Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, fe wnaethom ymateb yn sylweddol ar unwaith i’r pandemig. Mae hyn yn adlewyrchu’r ymateb adweithiol ehangach o ddiwydiant ac iechyd a gofal cymdeithasol. Rydym yn cydnabod, wrth symud ymlaen, fod pob sector angen ailadrodd yr ystwythder a’r hyblygrwydd a geir yn yr ymateb hwn i feysydd eraill o’n darpariad gwasanaeth – gan ganiatáu i iechyd a gofal cymdeithasol ddod yn wirioneddol ragweithiol.  

Mae rhan helaeth o hyn i wneud gyda gweld iechyd fel buddsoddiad, yn hytrach na chost. Dylai diagnosis a thriniaeth buan o afiechydon drwy dechnolegau datblygedig, ynghyd â meddyginiaeth ataliol a Gofal Iechyd sy’n Seiliedig ar Werth, fod yn flaenoriaeth i bob sefydliad perthnasol yng Nghymru a thu hwnt. Bydd y dull aml-estynedig hwn, fel ei wireddir ar draws ein pum ardal effaith, yn helpu Cymru i ddod yn le delfrydol ar gyfer arloesi iechyd, gofal a lles. 

Gwthio arloesedd ar draws 2021 

Mae gymaint o straeon arbennig yn tynnu sylw at y rhan anhygoel mae ein cenedl wedi’i chwarae mewn ymateb i Covid-19 drwy gydol 2020. Mae hyn yn cynnwys sefydlu Labordy Goleudy yng Nghasnewydd,t gweithgynhyrchu’r brechlyn AstraZeneca Rhydychen yn Wrecsam, yn ogystal â llu o gwmnïau diagnostig a gweithgynhyrchu arloesol yn cefnogi iechyd a gofal cymdeithasol.  

Fodd bynnag, mae’r heriau a wynebwyd ar draws y meysydd gwyddorau bywyd ac iechyd a gofal cymdeithasol llynedd yn dal i fodoli. Mae’r rhain yn cynnwys y pwysau o gynnal ymateb sydyn, parhau i gydweithio i’r eithaf, sicrhau bod caffael yn darparu gwerth cynaliadwy, a galluogi ‘lledaeniad a graddfa’ arloesedd yn effeithiol.  

A ninnau yn wythnosau cyntaf mis Ionawr, mae pandemig Covid-19 ymhell o fod ar ben. Offer diagnostig, triniaethau a brechlynnau yw prif ffocws rhanddeiliaid allweddol ledled diwydiant ac iechyd a gofal cymdeithasol. Mae angen i ni hefyd gadw golwg ar y nifer sylweddol o weithdrefnau arferol nad oedd modd i ddarparwyr eu cyflawni yn 2020.  

Nid Covid-19 yn unig a fydd yn parhau i gael effaith sylweddol. Mae’n rhaid i ni hefyd ystyried yr ansicrwydd ynghylch Brexit. Fodd bynnag, bydd y gwyddorau bywyd yn chwarae rhan wrth greu swyddi a gwthio tyfiant economaidd. Gall parhau i fuddsoddi yn ein hiechyd weithredu fel ysgogiad pwysig a’n helpu i oresgyn unrhyw her ansicr.  

Rydym yn camu i mewn i 2021 gyda’r profiad i barhau i fynd i’r afael â’r pandemig a gyda’r penderfyniad i feithrin newid systematig a chynaliadwy trwy ddull hirdymor. O fewn Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, ac iechyd a gofal cymdeithasol a diwydiant yn ehangach, gallwn wynebu’r flwyddyn hon yn fwy digidol, yn fwy hyblyg ac yn fwy gwybodus.  

Dysgwch fwy am sut bydd ein pum maes effaith yn cefnogi gwell iechyd a lles yng Nghymru yn 2021 a thu hwnt.