Mae Matthew Jones, Rheolwr Gyfarwyddwr LimestoneGrey, yn trafod y newidiadau sydd ar y gweill i ryddhad credyd treth ymchwil a datblygu, pam eu bod wedi cael eu rhoi ar waith a sut y byddant yn effeithio ar eich busnes.

Darnau arian

Os ydych chi’n gwmni sy’n datblygu technolegau newydd i wella canlyniadau i gleifion neu os yw eich busnes yn canolbwyntio ar fireinio cynnyrch neu wasanaeth presennol i wella effeithlonrwydd, mae’n debygol bod gennych hawl i gredydau treth ymchwil a datblygu.



Mae credyd treth ymchwil a datblygu yn caniatáu i gwmnïau yn y DU gael naill ai gostyngiadau treth gorfforaeth neu gredyd arian parod. Fodd bynnag, mae Llywodraeth y DU wedi cadarnhau cyfres o fesurau i ddiwygio credydau treth ymchwil a datblygu, sy’n cynnwys:

  •  Ehangu’r gwariant cymwys i gefnogi dulliau ymchwil modern
  • Ailgyfeirio’r gefnogaeth at arloesi sy’n digwydd yn y DU
  •  Targedu camdriniaeth a gwella cydymffurfiad 

Honnir y bydd y newidiadau hyn yn helpu i gadw’r DU yn lle cystadleuol ar gyfer ymchwil arloesol, gan sicrhau bod credydau treth ymchwil a datblygu yn dal yn addas i’r diben ac yn helpu i ddefnyddio arian trethdalwyr yn effeithiol i hybu arloesedd. 

Ond beth mae’r newidiadau hyn yn ei olygu’n ymarferol a sut byddant yn effeithio ar eich busnes? Gadewch i ni edrych ar y newidiadau arfaethedig.

Cynnwys costau data a chyfrifiadura yn y cwmwl

Ar hyn o bryd mae chwe chategori o wariant cymwys, gan gynnwys meddalwedd, sydd ond yn cynnwys meddalwedd y gellir ei lwytho i lawr ar gyfer gweithgareddau ymchwil a datblygu penodol.

Mae’r newidiadau hyn yn golygu bod costau data a chyfrifiadura yn y cwmwl wedi’u cynnwys erbyn hyn. Mae hyn yn helpu i gynyddu’r cymhelliant dros ddefnyddio’r rhyddhad ar gyfer dulliau ymchwil a datblygu arloesol sy’n dibynnu ar lawer iawn o ddata ac sy’n cael eu dadansoddi, eu prosesu a’u cynnal drwy’r cwmwl.

Bydd y costau isod yn cael eu cynnwys yn y cymysgedd gwariant cymwys:

  • Taliadau trwydded ar gyfer setiau data
  • Cyfrifiadura yn y cwmwl a meddalwedd

Mae hwn yn gam yn y cyfeiriad cywir i sicrhau bod y rhyddhad yn addas i’r diben ar gyfer technegau ymchwil a datblygu modern. Mae’r ffordd y mae cwmnïau’n cynnal ymchwil a datblygu wedi newid yn aruthrol ers cyflwyno’r cynllun yn 2000, felly mae'n iawn i’r rhyddhad esblygu hefyd. 

Ailffocysu arloesedd yn y DU

Mae'r Llywodraeth yn gwneud y newidiadau canlynol i ryddhad credyd treth ymchwil a datblygu i annog gweithgareddau ymchwil a datblygu yn y DU:

  • Cyfyngu ar yr opsiynau y gellir eu hawlio ar gyfer ymchwil a datblygu is-gontractiol
  • Cyfyngu ar yr opsiynau y gellir eu hawlio ar gyfer taliadau gweithwyr a ddarperir gan gwmni allanol

Mae hyn yn golygu na all cwmnïau sy’n is-gontractio tasgau ymchwil a datblygu i drydydd parti yn y dyfodol hawlio rhyddhad ar gyfer gwariant oni bai fod y trydydd parti yn gwneud y gwaith yn y DU. Ar gyfer taliadau gweithwyr a ddarperir gan gwmni allanol, dim ond os yw’r gweithwyr hynny’n cael eu talu drwy gyflogres yn y DU y gall cwmnïau hawlio rhyddhad ar wariant o’r fath.

Nid yw’n syndod bod y Llywodraeth wedi galw am newid yn y ffordd yr ymdrinnir ag ymchwil a datblygu sy’n cael eu his-gontractio dramor o ran rhyddhad credyd treth. Mae’r Canghellor wedi mynegi ei bryder dro ar ôl tro bod angen i’r DU gyfateb yn well i’r gystadleuaeth fyd-eang ym maes gwyddoniaeth ac arloesi, ac mae’r newid arfaethedig hwn yn ceisio cadw’r wybodaeth sy’n cael ei chreu o brosiectau ymchwil a datblygu yn y DU.  Fodd bynnag, bydd yn cosbi cwmnïau sydd angen arbenigedd nad yw’n bodoli yn y DU ac yn atal ymchwil a datblygu cydweithredol rhyngwladol.

Bydd angen i gwmnïau sy’n gwario ar weithgarwch is-gontractio dramor adolygu eu cynlluniau ymchwil a datblygu yn y dyfodol a chael cyngor gan arbenigwr credyd treth ymchwil a datblygu i sicrhau eu bod yn gwneud y penderfyniadau gorau ar gyfer eu busnes.

Mynd i’r afael â gweithgarwch twyllodrus a cham-drin

Mae gan weithwyr proffesiynol cymwysedig rywfaint o bryder ynghylch cam-drin a thwyll credydau treth ymchwil a datblygu gan leiafrif bach.

Mae dau faes allweddol y mae’r llywodraeth yn canolbwyntio arnynt i fynd i’r afael â hyn:

  1. Mae rhyddhad credyd treth ymchwil a datblygu yn cael ei hawlio gan gwmnïau ar eu ffurflen dreth gorfforaethol. Fodd bynnag, mae’r broses bresennol yn cyflwyno amrywiaeth o risgiau ar gyfer cam-drin. Er enghraifft, gall cwmnïau sy’n gwneud colled nad oes ganddynt drosiant/incwm barhau i dderbyn buddion arian taladwy, gan wneud hyn yn ddeniadol ar gyfer achosion posibl o gam-drin gan gwmnïau twyllodrus.
  2. Gwelwyd cynnydd yn nifer yr ymgynghorwyr ymchwil a datblygu nad ydynt yn aelodau o unrhyw gyrff proffesiynol yn y diwydiant. Gan nad oes gan yr ymgynghorwyr hyn y cymwysterau i gefnogi eu cynnig, mae patrwm wedi dod i’r amlwg lle maent yn defnyddio technegau marchnata a datblygu busnes clyfar i estyn allan at fusnesau bach a chanolig a gwerthu’r freuddwyd o hawlio symiau sylweddol o arian yn ôl drwy ryddhad credyd treth ymchwil a datblygu. Yn anffodus, gall unrhyw un wneud y gweithgareddau hyn, llawer ohonynt heb gefndir mewn treth ac o bosibl â chefndir gwerthu trawiadol. Ar gyfer busnesau bach a chanolig sy’n newydd i’r system ac yn anghyfarwydd â’r broses, mae’r tactegau hyn yn hynod bwerus.

Mae mesurau eisoes ar waith i frwydro yn erbyn gweithgarwch twyllodrus yn y diwydiant. Fodd bynnag, mae rheolau a rheoliadau pellach yn cael eu cyflwyno fel darparu rhagor o fanylion technegol, cyflwyno hawliadau’n ddigidol a sicrhau bod yr hawliad yn cael ei gymeradwyo gan uwch swyddog penodol yn y cwmni.

Newidiadau ychwanegol

Mae Llywodraeth y DU wedi ychwanegu prosesau ychwanegol ar gyfer unrhyw gredydau treth ymchwil a datblygu. Ar gyfer cyfnodau cyfrifyddu sy’n dechrau 1 Ebrill 2023, rhaid i unrhyw gwmni sy’n dymuno hawlio credydau treth ymchwil a datblygu roi gwybod i CThEM yn electronig o fewn 6 mis i ddiwedd y cyfnod cyfrifyddu. Ni all cwmni gyflwyno hawliad os yw wedi gwneud hynny yn unrhyw un o’r tri chyfnod blaenorol.

Mae hyn yn golygu, os bydd cwmni’n methu rhoi gwybod i CThEM o fewn y cyfnod hwn, ni fydd yn gallu gwneud hawliad am ryddhad treth ymchwil a datblygu, hyd yn oed os yw wedi cyflawni gweithgaredd ymchwil a datblygu. Bydd hyn yn cosbi unrhyw gwmni nad oes ganddo fynediad at gyngor da am ryddhad treth ymchwil a datblygu.  Bydd hefyd yn atal cwmnïau sy’n newydd i gredydau treth ymchwil a datblygu (ac nad ydynt felly wedi rhoi hysbysiad electronig i CThEM) rhag mynd yn ôl hyd at dair blynedd i hawlio rhyddhad ar weithgareddau ymchwil a datblygu blaenorol. Felly, mae’n hanfodol bod unrhyw gwmni a allai fod yn dymuno gwneud hawliad yn y dyfodol yn rhoi gwybod i CThEM o’i fwriad, hyd yn oed os yw’n penderfynu peidio â chyflwyno hawliad ar gyfer y cyfnod hwnnw yn nes ymlaen.

Beth yw’r camau nesaf?

Bydd y newidiadau hyn yn dod i rym o fis Ebrill 2023 ymlaen. Mae angen i gwmnïau ddeall goblygiadau’r newidiadau hyn a’r effaith y gallent ei chael ar eu hawliadau am ryddhad treth ymchwil a datblygu yn y dyfodol.  

Wrth symud ymlaen, bydd angen i gynrychiolydd penodedig ar gyfer y cwmni roi ei enw ar yr hawliad; felly, mae angen iddynt fod yn hyderus bod yr hawliad wedi cael ei baratoi’n gywir. Hefyd, gan y bydd angen enwi’r ymgynghoriaeth ymchwil a datblygu a ddefnyddiwyd, ni fydd ymgynghorwyr diegwyddor yn gallu cuddio y tu ôl i gyfrifydd eu cleientiaid sy’n gorfod ffeilio ar eu rhan yn aml.  Mae’n bwysig eich bod yn dewis ymgynghoriaeth reoledig ag ymgynghorwyr treth cymwys, gan y bydd CThEM yn gallu adnabod unrhyw hawliadau a baratoir gan gynghorwyr diegwyddor.



Os hoffech gael rhagor o arweiniad ar sut y gallai’r newidiadau hyn effeithio ar eich busnes, mae croeso i chi gysylltu â LimestoneGrey.

Os hoffech chi siarad am bwnc sy’n berthnasol i arloesi gwyddorau bywyd ar ein blog fel awdur gwadd, cysylltwch â ni drwy anfon e-bost at hello@lshubwales.com.

Mae LimestoneGrey yn gwmni ymgynghori arbenigol blaenllaw ym maes rhyddhad treth ymchwil a datblygu.  Fel practis rheoledig, rydym yn rhoi cyngor arbenigol i gwmnïau i sicrhau bod hawliadau ymchwil a datblygu yn cael eu paratoi’n gywir a’u bod yn cael eu hoptimeiddio’n llawn. Diolch i’n profiad helaeth o gredydau treth ymchwil a datblygu a’r dirwedd cyfrifyddu ehangach, rydym yn deall y ddeddfwriaeth dreth ac arferion CThEM, ynghyd â sut gall hawliad credyd treth ymchwil a datblygu effeithio ar rannau ehangach o’ch busnes. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i’n gwefan.