Mae Allan Wardhaugh yn Ddwysegydd Pediatreg a Phrif Swyddog Gwybodaeth Glinigol (CCIO) ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, ac yn arweinydd clinigol (gofal eilaidd) ar gyfer y Rhaglen Ymgynghoriadau Fideo Genedlaethol.

Ysgrifennwyd y blog hwn gan Allan ar gyfer Cydffederasiwn y GIG.

consulting

Pe byddech wedi dweud wrthyf yr amser hwn flwyddyn yn ôl y byddai'r GIG yng Nghymru yn cynnal tua 3,000 o ymgynghoriadau fideo (VC) yr wythnos ar draws yr holl fyrddau iechyd ac ymddiriedolaethau, mewn gofal sylfaenol a gofal eilaidd ac yn ei gyflwyno i fferyllfeydd cymunedol, optometryddion a phractisau deintyddol, byddwn wedi eich cyhuddo o'r math o or-ddweud poblogaidd sy’n mynd dan groen y rhan fwyaf ohonom. Ond dyma beth sydd wedi digwydd.

Mae wyth deg pump y cant o ddefnyddwyr (clinigwyr a chleifion) yn ystyried bod y gwasanaeth yn dda, yn dda iawn neu'n rhagorol (mae’r ffigur ar gyfer cleifion yn unig yn 93 y cant). Mae dros 500 o ymgynghoriadau fideo bellach wedi cael eu cynnal yn y gwasanaethau meddygon teulu y tu allan i oriau. Mae treialon eisoes ar y gweill i alluogi cartrefi gofal i ddefnyddio ymgynghoriadau fideo a gyda chymorth Cymunedau Digidol Cymru, mae gan dros 500 o gartrefi gofal yng Nghymru bellach ddyfeisiau sy'n galluogi VC gyda hyfforddiant i ddefnyddwyr yn cynyddu'n gyflym. Yn hytrach nag adrodd ystadegau'r rhestr, bydd ymweliad â gwefan TEC Cymru yn dangos i chi beth sy'n digwydd.

Rwyf wedi bod yn ymwneud â'r maes gofal iechyd digidol yng Nghymru ers bron i bum mlynedd bellach, ac mae'r camau gweithredu hyn wedi bod yn rhyfeddol. Heb os, mae amgylchiadau'n bwysig - mae rheidrwydd yn esgor ar ddyfeisgarwch. Yn nyddiau’r cyfyngiadau symud, roedd yn ddigon hawdd gwerthu’r syniad o fabwysiadu technoleg a fyddai'n galluogi clinigwyr i ddarparu gofal (o'u cartrefi yn aml) i gleifion yn eu cartrefi eu hunain. Ond dim ond 6 mis sydd wedi bod ers y dechrau. Rwy'n pinsio fy hun. I fod yn ddi-flewyn-ar-dafod, fel arfer, byddem wedi gorfod cael misoedd o ymryson dros gynnyrch 'Unwaith i Gymru', gohirio penderfyniadau cyllido, cynlluniau peilot fyddai byth yn dod i ben... Af i ddim ymlaen - rydw i eisiau cadw'r naws gadarnhaol mae’r rhaglen hon yn ei haeddu. Dyma rai o’m harsylwadau.

Yn gyntaf, gwnaed penderfyniad cynnar i brynu cynnyrch cymharol aeddfed: roedd Attend Anywhere wedi'i sefydlu yn Awstralia a'r Alban ac felly roedd rhywfaint o hyder. Ar ôl bod yn gyfrifol am beilot ym Mwrdd Iechyd Aneurin Bevan, cafodd TEC Cymru eu hymddiried i arwain gweithredu a gwerthuso gan weithio mewn partneriaeth â'r Byrddau Iechyd, Ymddiriedolaethau, Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru, Llywodraeth Cymru a Chymunedau Digidol Cymru. Mae'r llythrennau italig yn bwysig – mae hon wedi bod yn broses gydweithredol, alluogol, nid yn un o gyfarwyddo eraill. Mae timau lleol wedi'u grymuso i ffurfio eu datrysiadau sy’n dangos gwybodaeth leol ac sy'n briodol i'r sefyllfa, gyda naws cryf o arweiniad clinigol. Yn yr un modd â'r mwyafrif o gyflwyniadau technoleg, mae'n llai am y dechnoleg a llawer mwy am y bobl a chaniatáu iddynt ddefnyddio'r dechnoleg mewn ffyrdd mai dim ond y rheini sydd â’u trwyn ar y maen fyddai’n gallu dychmygu.

Yn ail, cafwyd agwedd aeddfed gan gydweithwyr yn Llywodraeth Cymru. O wrando ar y lleisiau clinigol yn gynnar, cytunwyd mai’r swyddogaeth a ddylai fod yn ‘Unwaith i Gymru’ ac nid o reidrwydd yr un cynnyrch ar gyfer pob lle bob amser. Datblygwyd cyd-ddealltwriaeth ac rydym yn dechrau dysgu am VC gyda’n gilydd - ble a phryd y mae'n gweithio, ble a phryd nad yw'n gweithio, beth yw'r anfanteision yn ogystal â'r manteision a beth yw'r achosion defnydd sy’n amlwg ar raddfa leol na fyddent fyth yn medru cael eu nodi yn ganolog. Mae'n bosibl (yn debygol efallai) na fydd un cynnyrch yn medru ymdrin â phob sefyllfa ac y dylid ystyried eraill ar gyfer achosion ymylol fel y'u gelwir. Wedi dweud hynny, os yw gwerthuso cynnyrch penodol yn gadarnhaol ar draws pob sefydliad, ni fydd angen cyhoeddi gorchymyn ‘Unwaith i Gymru.

Yn drydydd, gan adeiladu ar y pwynt olaf hwn, mae'r gwerthusiad hwn yn defnyddio metrigau ansoddol, nid dadansoddi meintiol gwaelodlin yn unig. Bu tystiolaeth gynyddol ers blynyddoedd bod hyn yn hanfodol er mwyn sicrhau nad yw technoleg dda yn cael ei thaflu o’r neilltu cyn iddi sicrhau budd ariannol (darllenwch am y ‘paradocs cynhyrchiant’ yn llyfr Bob Wachter, The Digital Doctor). Derbyniwyd mai dechrau’r daith oedd hyn, ac ni allwn benderfynu ymlaen llaw ar ben y daith. Yn rhy aml, rwyf wedi gweld prosiectau'n cael eu sefydlu fel pe baent yn deithiau car y gellir eu rhagnodi gan set o gyfarwyddiadau manwl a gyhoeddir gan sat-nav. Mewn gwirionedd maent yn debycach i fordeithiau sy'n gofyn am gwmpawd, rhagolwg tywydd a'r gallu i newid cwrs fel sy'n ofynnol yn ôl yr elfennau. Nid ydym yn gwybod beth yw’r nifer ‘iawn’ o offer VC fel cyfran o’r holl ymgynghoriadau - mae’n debyg ei bod yn rhy gynnar i osod targedau. Ni fydd yn iawn i bawb trwy'r amser, a bydd y cyd-destun hefyd yn bwysig (cyflwr y pandemig a’r cyfyngiadau symud).

Hyd yn hyn – da iawn. Rwy'n credu ein bod wedi cyrraedd y pwynt lle gallwn nodi templed ar gyfer cyflwyno technoleg ar raddfa. Nid yw’n fêl i gyd wrth gwrs. Ni ellir tanddatgan pwysigrwydd cyfathrebu parchus a gweithio mewn partneriaeth, ac mae wedi bod yn hanfodol i’r cynnydd mewn VC hyd yn hyn. Mae'r canlyniadau'n amrywiol ac nid ydynt bob amser yn hawdd eu mesur. Mae’r gweithredu’n llithrig ac addasol. Ond mae’n newid diwylliant. Mae’n drist gen i ddweud nad dyna fu fy mhrofiad i bob amser. Yn rhy aml mae system o ‘orchymyn a rheolaeth’ yn dod i’r fei - ac mae hynny’n gofyn am fetrigau gor-syml a golwg ‘du a gwyn’ yn hytrach nag ‘arlliwiau o lwyd’. Rwy'n gobeithio bod y llanw wedi troi yn erbyn y ffordd honno o feddwl am iechyd a gofal digidol yng Nghymru.