Trydydd parti

Sut gallwn ni helpu i ddiogelu ein GIG yng Nghymru at y dyfodol? Mae Dr Rob Orford, Prif Gynghorydd Gwyddonol dros Iechyd yn Llywodraeth Cymru, yn trafod ei bapur cyngor newydd a’r ffordd orau o drefnu’r adnoddau sydd ar gael i gael yr effaith fwyaf bosibl a goresgyn y pwysau niferus y mae’n eu hwynebu.  

Blociau adeiladu fertigol gyda llun o fwlb golau ar y gwaelod, cogiau yn y canol a tharged ar y brig

Rwyf wedi cyhoeddi papur cyngor yn ddiweddar i Lywodraeth Cymru i gefnogi’r gwaith o feddwl am y GIG yng Nghymru yn y dyfodol. Mae ein sefydliad nodedig bellach yn 75 oed ac yn wynebu llawer o bwysau: o boblogaeth sy’n tyfu ac yn heneiddio sy’n cynyddu’r galw am wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, i bandemig byd-eang diweddar, rydym yn dal i ymadfer ohono. 

Felly, mae nawr yn gyfnod amserol i adolygu’r sylfaen dystiolaeth i lywio ein ffordd o feddwl yn feirniadol. Beth yw’r ffordd orau i ni drefnu’r adnoddau sydd ar gael i gynyddu eu heffaith ar iechyd a lles cenedlaethau’r dyfodol?

Beth mae’r papur yn ei archwilio? 

Bydd y papur cyngor hwn yn gyfle i ystyried mabwysiadu dull trawsnewidiol o gynllunio’r GIG yng Nghymru. Rwy’n gweld pedair thema allweddol:

  • Yn gyntaf, gyda phoblogaeth sy’n heneiddio, mae rhywfaint o’r hyn sydd ar y gweill yn anochel; wrth i bobl fyw’n hirach, bydd nifer yr achosion o gyflyrau penodol yn cynyddu. Mae angen i’r system addasu i ymdopi â’r anghenion rhagamcanol hyn, gan newid pwyslais i becyn gofal mwy personol ac integredig. 
  • Yn ail, gellir atal llawer o gyflyrau hirdymor. Felly, dylem roi mwy o bwyslais ar weithio gyda’r cyhoedd i gefnogi hunanreolaeth ragweithiol dros eu hiechyd eu hunain. Ond hefyd cydgysylltu hyn â chamau gweithredu ehangach i fynd i’r afael â phenderfynyddion ehangach iechyd drwy bolisi sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Ni allwn ddisgwyl i’r cyhoedd wneud yr holl waith. 
  • Yn drydydd, bydd mynd i’r afael â thlodi ac anghydraddoldebau iechyd yn hanfodol er mwyn i ymyriadau iechyd cyhoeddus eraill lwyddo. Ni allwn anwybyddu’r ffaith y rhagwelir y bydd nifer yr achosion o gyflyrau hirdymor yn effeithio’n anghymesur ar ein grwpiau poblogaeth mwyaf difreintiedig. Mae angen i ni feddwl y tu hwnt i’r GIG wrth ystyried iechyd er mwyn gwneud newidiadau sylweddol i ganlyniadau iechyd. 
  • Yn olaf, mae angen inni gynhyrchu gwerth. Bydd arbedion effeithlonrwydd ar draws y GIG yn deillio o fynd ar drywydd gwerth drwy dechnoleg sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Ond mae angen i ni hefyd archwilio llwybrau eraill ac nid dim ond llif ysbytai i wella effeithlonrwydd. Dylai hyn gynnwys meddwl am y GIG fel pwerdy economaidd i Gymru.  

Pa bynnag gamau rydyn ni’n penderfynu eu cymryd, mae angen i ni ddechrau gwneud hynny’n gynt yn hytrach nag yn hwyrach er mwyn diogelu’r GIG ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol a gwneud yn siŵr ein bod ni i gyd yn gallu byw bywydau arloesol, hapus, iach a gwerth chweil. Ac wrth wneud hynny, mae angen i ni fynd â’r cyhoedd a gweithlu’r GIG ar y daith honno gyda ni.  

Mae’r papur cyngor hwn, a gasglwyd gan fy nhîm Cyngor ar Wyddoniaeth a Thystiolaeth, wedi cael ei lywio’n helaeth gan amcanestyniadau llenyddiaeth. Yn bennaf o fap tystiolaeth cyflym a luniwyd gan Ganolfan Dystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a hefyd modelu clefydau a gwasanaethau penodol gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Wrth gyflwyno’r papur cyngor hwn, rydym yn cydnabod bod hwn yn bwnc helaeth gyda sylfaen dystiolaeth sy’n esblygu – yn enwedig o ran datblygiadau technolegol – a’r cynnwys a gyflwynwyd yw’r hyn a oedd ar gael adeg casglu’r adroddiad. 

Mae’n bwysig nodi nad yw’r adroddiad yn gynhwysfawr; mae’n ystyried rhai clefydau sy’n brif achosion morbidrwydd a marwoldeb ond mae llawer o glefydau eraill y gellid eu hystyried ymhellach a ffactorau risg eraill y gellid eu harchwilio’n fanwl. Mae cwmpas yr adroddiad wedi’i gyfyngu i ffactorau sy’n ymwneud â’r gwasanaeth iechyd, ond rydym wrth gwrs yn gwybod bod canlyniadau iechyd yn cael eu pennu gan ystod eang o benderfynyddion.   

Beth mae ein partneriaid yn ei ddweud? 

Mae syniadau tebyg gan eraill yng Nghymru a ledled y DU yn y maes hwn. Rydym wedi cynnwys rhagamcanion ar ddiabetes a gwelyau ysbyty’r GIG gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, ond dim ond un rhan yw’r rhain o bortffolio o amcanestyniadau o fynychder clefydau hyd at 2035 y mae cydweithwyr yn Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio arnynt. Mae'r gwaith ehangach hwn ar gael yn ddiweddarach eleni a bydd hefyd yn edrych ar glefyd cardiofasgwlaidd, iechyd meddwl, anhwylderau cyhyrysgerbydol a gordewdra ymhlith cyflyrau eraill. 

Cyhoeddodd y Sefydliad Iechyd bapur ym mis Gorffennaf sy’n edrych ar y patrymau salwch a ragwelir yn Lloegr hyd at 2040 ac mae’n cyflwyno canfyddiadau tebyg yn gyffredinol i’n hadroddiad lle mae’r un amodau wedi cael eu harchwilio, er bod hynny drwy ddulliau dadansoddi gwahanol. Mae’r gwaith hwn yn edrych ar ystod ehangach o ffactorau risg sy’n cynnwys yfed alcohol a gweithgarwch corfforol a fydd yn ddefnyddiol i lunwyr polisïau. 

Yn 2016, galwodd Academi'r Gwyddorau Meddygol ar bawb sy'n gweithio mewn meysydd sy'n effeithio ar iechyd dynol i ddod at ei gilydd a gweithio gyda'r cyhoedd i wella iechyd y boblogaeth yn sylweddol erbyn 2040. Yn ddiweddar, cyhoeddodd yr Academi feysydd blaenoriaeth wedi’u diweddaru ar gyfer gweithredu yng ngoleuni newidiadau i strwythurau iechyd y cyhoedd yn y DU a heriau cymhleth sydd wedi dod i’r amlwg. Mae’r rhain yn cynnwys cynyddu anghydraddoldebau, clefydau heintus sy’n dod i’r amlwg a’r argyfwng hinsawdd. Felly, bydd amcangyfrifon a thystiolaeth arall ar y galw rhagamcanol am y GIG ar gael a gallai’r rhain arwain at ganlyniadau gwahanol i adroddiad yr SEA, ond mae’r cyfan yn ychwanegu at ddarparu tapestri cyfoethog o dystiolaeth i gefnogi’r gwaith o lunio polisïau sy’n seiliedig ar wyddoniaeth rwyf yn ei hyrwyddo’n llwyr.  

Diolch o galon i’m holl gydweithwyr sydd wedi helpu i lunio’r papur hwn a sicrhau fy mod yn gallu rhannu’r cyngor hwn. Rwy’n gobeithio y bydd yn ysgogi trafodaeth a meddwl ymlaen llaw i fynd i’r afael â’r dirwedd heriol sydd ohoni a’r blynyddoedd i ddod. 

I ddarllen y papur yn llawn, ewch i wefan Llywodraeth Cymru

Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau, cysylltwch â HSSG.SEA@gov.wales  

Dr Rob Orford yw’r arweinydd proffesiynol ar gyfer gwyddonwyr gofal iechyd yn GIG Cymru. Mae’n darparu cyngor technegol a gwyddonol arbenigol ar iechyd ar draws amrywiaeth o feysydd gwyddorau iechyd a diogelu iechyd. Mae’n aelod o’r Bwrdd Diagnosteg Cenedlaethol, Bwrdd Cynghori Genom a Gwyddor Bywyd y DU.