Trydydd parti

O angen cynnar heb ei ddiwallu, dylunio, prototeipio a threialon clinigol i werthusiadau clinigol y byd go iawn, mae'r GIG yn dod â chyfle newydd i gwmnïau technoleg feddygol drwy Sefydliad TriTech.

TriTech team

Mae Sefydliad TriTech yn cefnogi datblygu datrysiadau gofal iechyd ar lefel leol, genedlaethol, a byd-eang sy'n cynnig un mynediad i’r GIG i ddylunwyr a gweithgynhyrchwyr trwy ddull cydweithredol ac ystwyth. Mae'r tîm yn cynnwys peirianwyr, gwyddonwyr, ymchwilwyr, technolegwyr digidol a chlinigwyr sy'n ei gwneud hi'n haws i ddatblygu, profi, a gwerthuso technolegau arloesol i wella eu hyfywedd, gan gynnwys eu cyfraniad at ganlyniadau cleifion, a chefnogi cwmnïau i ffynnu a chreu twf a swyddi o ansawdd uchel.

Dwedodd Dr Manish Patel, Prif Swyddog Gweithredol Jiva.AI: "Yma yn Jiva rydym yn ymfalchïo'n fawr yn ein cydweithrediad parhaus â Tritech a Menter Canser Moondance o dan stiwardiaeth gyson yr Athro Chris Hopkins. Drwy gymysgedd o arbenigedd clinigol, rheoleiddiol, technegol ac academaidd – ymysg eraill – mae Tritech wedi galluogi tîm Jiva i ddatblygu profion diagnostig i glinigol wedi’i arwain gan ddeallusrwydd artiffisial, gan ein cysylltu â'r unigolion cywir yn ecosystem iechyd Cymru a hwyluso cynnydd ein huchelgeisiau masnachol."

Yn ddiweddar, ymunodd yr Athro Chris Hopkins, Pennaeth Sefydliad TriTech, â Delyth James o Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru a'r tîm ym Med-Tech World ym Malta i drafod sut mae’r DU yn denu rhagoriaeth mewn iechyd. Gyda’i gydweithwyr Dr Linda Magee OBE o'r Adran Masnach Ryngwladol ac Ian Newington o NIHR buont yn trafod y system iechyd o fewn y DU, cyfleoedd ariannu, yr ecosystemau sy'n cefnogi datblygwyr technoleg feddygol o fewn y DU ac arloesedd technoleg feddygol cyfredol a allai newid y maes gofal iechyd dros y blynyddoedd nesaf. Mae'r drafodaeth ar gael yma: https://youtu.be/2nxSu8hu170

Dwedodd Marcus Ineson, NGPOD: "Y prif beth sy’n wahanol am Tritech o’i gymharu â sefydliadau eraill y mae NGPOD wedi gweithio gyda nhw yw nad ydyn nhw ond yn eich cyfeirio at ddrws ac yn disgwyl i chi gerdded drwyddo a gwneud yr holl waith. Yn hytrach, maen nhw'n cerdded drwy'r drws gyda chi, yn eich cyflwyno i'r bobl a'r sefydliadau cywir ac yna'n ysgogi'r broses. Un o'r pethau mwyaf trawiadol yw'r rhwydwaith helaeth sydd gan Tritech yng Nghymru a thu hwnt, ac maen nhw'n manteisio arno i gychwyn prosiect a’i ddatblygu hyd at ei gwblhau."

Mae Sefydliad TriTech yn gweithio gyda'i gilydd, fel rhan o’r Bwrdd Iechyd Prifysgol, i:

  • Gefnogi gwerthusiadau ac ymchwiliadau clinigol o dechnolegau meddygol arloesol, gan arwain at well gofal i gleifion;
  • Darparu un mynediad at wasanaethau clinigol i ddylunwyr a gweithgynhyrchwyr technoleg feddygol;
  • Cyfuno sgiliau dylunio clinigol ac ymchwil gyda phrofiad peirianneg dechnegol i reoli'r llwybr arloesi cyfan, o angen cynnar na ddiwallwyd, dylunio cysyniad, prototeipio, a phrofi clinigol hyd at sefydlu gwerthusiadau clinigol gan ddefnyddio dull gofal iechyd sy'n seiliedig ar werth;
  • Cyflwyno a phrofi cynhyrchion mwy sefydledig a thechnolegau meddygol arloesol i systemau clinigol go iawn;
  • Darparu cyngor rheoleiddio a gwaith cynllunio’r llwybr i'r farchnad; a
  • Chefnogi twf economaidd a buddsoddiad rhanbarthol/DU.

Mae Sefydliad TriTech yn bartneriaid gyda:

Y Ganolfan Arloesi Technolegau Cynorthwyol (ATiC), Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.

Mae'r Ganolfan Arloesi Technolegau Cynorthwyol (ATiC) yn bartneriaid balch i Sefydliad TriTech, sy'n cael eu pweru gan dîm amlddisgyblaethol o artistiaid, dylunwyr, peirianwyr a gwyddonwyr. Mae labordy ATiC UX yn cynnig ystod unigryw a chynhwysfawr o ddulliau biomecanegol, biometreg, seicoffisiolegol ac ymddygiadol o fesur a dadansoddi ffactorau defnyddioldeb a phrofiad defnyddwyr. Mae ystod o ddatrysiadau meddalwedd a sganio 3D o safon y diwydiant yn cefnogi cofnodi yn gywir y corff dynol, gwrthrychau, ac amgylcheddau gofodol gyda'r gallu i ddefnyddio'r wybodaeth hon i fodelu, argraffu 3D, dadansoddi a gwerthuso mewn efelychiadau real a realiti rhithwir.

Canolfan Technoleg Gofal Iechyd, Prifysgol Abertawe.

Mae'r Ganolfan Technoleg Gofal Iechyd o fewn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe yn gweithio fel rhan o'r tîm TriTech, gan gefnogi trosi syniadau addawol o'r sectorau gwyddor bywyd, iechyd, a gofal yng Nghymru i gynnyrch, prosesau, a gwasanaethau newydd er mwyn sicrhau gwerth economaidd hirhoedlog a buddion cymdeithasol ehangach. Gyda thîm ymroddedig o dechnolegwyr ôl-ddoethurol, arbenigwyr ym maes arloesedd a gwyddor bywyd, technegwyr, a rheolwyr prosiect, ochr yn ochr â'n cyfleusterau labordy diweddaraf, maent ar flaen y gad o ran y llif prosiectau o ddatblygiadau technolegol a’u mabwysiadu yng Nghymru.

Dwedodd Dr Paul Buss, Cyfarwyddwr Strategaeth Glinigol, Bwrdd Iechyd Powys: "Eich gwaith yn TriTech yw'r fenter arloesi fwyaf cyffrous ym maes gofal iechyd y DU."

Ydych chi'n arweinydd gofal iechyd byd-eang sy'n chwilio am gyfle i gydweithio? Mae croeso i chi gysylltu â ni heddiw trwy wefan TriTech: https://tritech.nhs.wales