Mae Meddygaeth Fanwl yn ddull o ymdrin â gofal meddygol sy’n defnyddio gwybodaeth bersonol am enynnau, yr amgylchedd, a ffordd o fyw unigolion er mwyn atal, gwneud diagnosis a thrin afiechydon. Mae’n faes sy’n tyfu’n gyflym ac mae potensial iddo chwyldroi’r ffordd rydym yn meddwl am iechyd a gofal iechyd.
Cyn lansio Heriau Meddygaeth Fanwl Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, rydyn ni wedi nodi hanes byr meddygaeth fanwl a’r rhagolygon i’r dyfodol. Mae’r blog hwn hefyd yn edrych ar sut mae meddygaeth fanwl yn newid y strwythur talu ar gyfer cwmnïau fferyllol ac effaith genomeg ar y maes hwn. Yn olaf, byddwn yn edrych ar rai o fanteision iechyd ac economaidd meddygaeth fanwl.
Mae’r heriau sy’n wynebu gwasanaethau iechyd heddiw yn mynd yn fwy a mwy cymhleth. Ar yr un pryd, mae ein gwybodaeth am fioleg ddynol wedi cynyddu fwyfwy yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mewn ymateb i hyn, mae dull newydd o ymdrin â meddygaeth wedi dod i’r amlwg: meddygaeth fanwl.
Beth rydym yn ei olygu wrth sôn am feddygaeth fanwl?
Mae Meddygaeth Fanwl yn fodel meddygol sy’n dod i’r amlwg ac yn ystyried amrywioldeb unigol mewn genynnau, amgylchedd a ffordd o fyw pob unigolyn. Yn hytrach na dibynnu ar feddyginiaethau generig, sy’n aml yn effeithiol mewn 30-50% yn unig o gleifion, mae meddygaeth fanwl yn defnyddio diagnosteg uwch i ganfod beth sy’n achosi cyflwr unigolyn. Defnyddir y wybodaeth hon wedyn i ddatblygu triniaethau pwrpasol wedi’u targedu sy’n llawer mwy effeithiol. Yn ogystal â datblygu triniaethau pwrpasol, gallai meddygaeth fanwl wella meddygaeth ataliol yn sylweddol hefyd. Drwy nodi achosion penodol cyflwr person o safbwynt genetig, amgylcheddol a ffordd o fyw, efallai y bydd yn bosibl atal y cyflwr rhag datblygu o gwbl.
Er bod modd dadlau ei bod yn dal yn ddyddiau cynnar, mae meddygaeth fanwl eisoes yn cael effaith sylweddol ar y dirwedd gwyddorau bywyd. Mae’n newid y ffordd mae cwmnïau fferyllol yn datblygu ac yn marchnata cyffuriau newydd oherwydd ffactorau fel gorfod talu am therapïau uwch drud gyda demograffeg cleifion llai.
Effaith meddygaeth fanwl
Wrth i feddygaeth fanwl ddod yn fwy cyffredin, mae’n debygol o gael effaith sylweddol ar gostau gofal iechyd. Yn y tymor byr, gallai gynyddu costau gofal iechyd oherwydd cost dilyniannu genomig a phrofion angenrheidiol eraill. Fodd bynnag, yn y tymor hir, gallai arbed costau mawr drwy atal neu ohirio datblygiad clefydau sydd ar hyn o bryd yn rhoi baich economaidd uchel ar y system gofal iechyd.
Yn ogystal â newid y ffordd rydym yn trin clefydau, mae meddygaeth fanwl hefyd yn effeithio ar y ffordd rydym yn meddwl am iechyd ac atal clefydau. Yn y dyfodol, bydd genomeg ac offer meddygaeth fanwl eraill yn ein galluogi i adnabod unigolion sydd mewn perygl o glefydau cyn iddynt ddatblygu symptomau. Bydd y wybodaeth hon yn ein helpu i ddatblygu ymyriadau wedi’u targedu i atal neu i osgoi clefydau – gan gefnogi dull seiliedig ar werth o ymdrin â gofal iechyd.
Er bod llawer o fanteision posibl i feddygaeth fanwl, rhaid inni hefyd fod yn ymwybodol o’r heriau sy’n gysylltiedig â’i rhoi ar waith. Mae hyn yn cynnwys yr angen i setiau data mawr hyfforddi modelau rhagfynegi, diffyg safoni ar draws gwahanol lwyfannau a systemau, ac ystyriaethau moesegol fel preifatrwydd data.
Y safbwynt Cymreig
Mae’r sector meddygaeth fanwl yng Nghymru’n tyfu’n gyflym ac mae eisoes yn gartref i nifer o gwmnïau a thimau academaidd sydd gyda’r gorau yn y byd. Er mwyn manteisio i’r eithaf ar hyn, mae angen i ni sicrhau bod gan ein gweithlu’r sgiliau a’r hyfforddiant angenrheidiol. Mae angen i ni hefyd greu amgylchedd sy’n addas ar gyfer arloesi a buddsoddi.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gefnogi’r gwaith o ddatblygu meddygaeth fanwl yng Nghymru ac mae ein sefydliad yn gweithio’n agos gyda rhanddeiliaid allweddol i ddatblygu dull cydlynol o ddeall blaenoriaethau meddygaeth fanwl yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys edrych am gyfleoedd mewn genomeg a diagnosteg gynnar, yn ogystal â chefnogi datblygiad therapïau uwch.
Gallai meddygaeth fanwl ddod â manteision iechyd ac economaidd sylweddol i Gymru. Rydyn ni wedi ymrwymo i weithio gyda’n partneriaid ar draws y llywodraeth, y byd academaidd a’r diwydiant i wireddu’r potensial hwn.
Helpu ni i wireddu potensial meddygaeth fanwl
Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn lansio cyfres o heriau ar gyfer blaenoriaethau penodol ym maes meddygaeth fanwl y mae angen rhoi sylw iddynt yng Nghymru dros y flwyddyn nesaf. Ymunwch â ni yn ein digwyddiad nesaf ar 16 Mehefin i glywed gan siaradwyr, gan gynnwys Dr Siân Morgan (Gwasanaeth Genomau Meddygol Cymru Gyfan), Dr Tom Wilkinson (Prifysgol Abertawe), a Dr Jonathan Morgan (Medicines Discovery Catapult) yn trafod meddygaeth fanwl yng Nghymru a sut y gallwn ddod o hyd i atebion ar gyfer unrhyw heriau. Cofrestrwch ar gyfer y digwyddiad a dysgu mwy amdano ar ein tudalen gofrestru.
Beth yw eich barn chi am feddygaeth fanwl neu flaenoriaethau ar gyfer gwella’r sector yng Nghymru? Os hoffech chi rannu eich barn a bod yn awdur gwadd ar flog am feddygaeth fanwl, cysylltwch â hello@lshubwales.com.