Mae gennych chi ateb newydd posib i broblem gofal iechyd. Beth sy’n eich rhwystro chi rhag ei roi ar y farchnad yn gyflym?

Visual description of the Accelerate process

Yn aml iawn cael prawf bod eich syniad yn gweithio, ac yn cynnig ateb gwerthfawr, sy’n eich rhwystro rhag gwneud hynny.  Yna mae angen iddo gael ei fabwysiadu yn y farchnad i ddechrau, a gallwch ddefnyddio hynny i ddatblygu ymhellach.  Mae gan lawer o berchnogion busnes arloesol deimlad greddfol y bydd eu syniad yn helpu cleifion ac yn gwella effeithlonrwydd. Mae llawer yn methu sicrhau neu neilltuo adnoddau i brofi'r cysyniad neu i ddatblygu cynnyrch. Mae help ar gael gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru. Mae Busnesau yng Nghymru yn gallu Cyflymu pethau.

Cael y cynnyrch ar y farchnad yn gyflym

Mae arloesi yn weithgarwch entrepreneuraidd sy’n helpu busnesau i ddatblygu mewn marchnadoedd newydd a rhai sydd wedi’u hen sefydlu. Ym maes gwyddorau bywyd, mae’r budd y mae cynnyrch newydd yn ei gynnig i gleifion wrth iddo gyrraedd y farchnad yn un mesur allweddol o gynnyrch llwyddiannus. Ond, mae cael cynnyrch a gwasanaethau ar y farchnad yn daith gymhleth ac anodd. Mae llawer o rwystrau rhag llwyddiant masnachol, yn enwedig rhwystrau clinigol, rheoleiddiol ac ariannol.  Mae Cyflymu yn rhaglen sy’n helpu busnesau yng Nghymru i chwalu rhai o’r rhwystrau hyn, gan wella lefelau parodrwydd technoleg a chyflymu’r broses o gael syniadau newydd ar y farchnad.

“Mae arloesi yn arwain at ddatblygiadau blaengar – o ddyfeisiau meddygol i therapïau newydd, ac arferion gwaith mwy effeithlon. Mae’r broses o drawsnewid syniadau yn atebion ymarferol yn gofyn am lawer o arbenigedd ac adnoddau nad ydynt ar gael yn rhwydd i fusnesau. Efallai fod busnesau’n rhy fach i gael hynny, neu fod eu defnydd yn rhy gyfyngedig i wneud achos busnes dros fuddsoddiad tymor byr. Mae Cyflymu yn rhoi hyder i fusnesau bod potensial i’w syniad, ac yn cynnig arbenigedd ac offer o’r radd flaenaf i fusnesau – na fyddent yn gallu eu fforddio fel arfer – i ddatblygu’r syniad,” meddai Gwyn Tudor, Cyfarwyddwr Mabwysiadu ac Arloesedd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru.

Mae Cyflymu eisoes yn gweithio ar 19 o brosiectau gan gwmnïau. Mae 42 o brosiectau eraill gan fusnesau eisoes ar y ffordd. “Mae busnesau o bob maint yng Nghymru yn gymwys i gymryd rhan. Mae pob math o brosiectau ar y gweill ar hyn o bryd. Gall busnesau fod yn gweithredu’n barod yn y sector gwyddorau bywyd, neu fod mewn sector gwahanol, sy’n cynnig syniadau a dulliau newydd ar gyfer gofal iechyd. Dyma rai enghreifftiau o brosiectau presennol y rhaglen Cyflymu: gwella cynllun theatrau llawdriniaethau, er mwyn lleihau'r costau rhedeg a’r effaith ar yr amgylchedd; gwell proses sgrinio ar gyfer cyffuriau canser, a defnyddio technoleg ddigidol i leihau rhestrau aros yn sylweddol ar gyfer gofal llygaid,” meddai Gwyn.

Rhaglen hwylus

Mae Cyflymu yn cynnig gwasanaeth cymorth unigryw i fusnesau sydd am arloesi yn y sector gofal iechyd a gwyddorau bywyd. Mae’n hawdd ei ddefnyddio. Bydd galwad gychwynnol i Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn help i gael gwybod a oes rhinwedd i’ch syniad. Mae gan arbenigwyr Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru wybodaeth fanwl am y gwasanaeth iechyd a’r system gofal cymdeithasol yng Nghymru. Maen nhw’n gallu asesu’ch syniad yn gyfrinachol, yng nghyd-destun eu dealltwriaeth o’r heriau a wynebir yn y dirwedd gymhleth hon.  Gallant drafod y gefnogaeth y mae ei hangen ar eich busnes er mwyn datblygu'ch syniad i’w roi ar y farchnad.

Mae busnesau’n cydweithio â’r rhaglen Cyflymu ar nifer o gamau yng nghylch oes datblygiad y cynnyrch, y broses neu’r gwasanaeth. Mae rhai ar y camau asesu cynnar, ac eraill yn chwilio am help i ddatblygu. Mae prosiectau Cyflymu yn gydweithrediadau rhwng busnesau a phartneriaid Cyflymu. Mae'r rhaglen Cyflymu yn cael cefnogaeth ariannol gan Lywodraeth Cymru, felly does dim angen gwariant uniongyrchol gan y busnes. Mae’r cwmnïau sy’n cymryd rhan yn cyfrannu amser staff, adnoddau ac arbenigedd mewnol at y prosiect cydweithredol. Mae’r prosiect yn bartneriaeth go iawn, gyda phob parti â pherchnogaeth drosto.  Mae arloesi yn weithgarwch entrepreneuraidd sy’n cynhyrchu eiddo deallusol.  Mae Cyflymu yn deall yr angen masnachol i fusnesau warchod eiddo deallusol. Cyn dechrau ar y prosiect, bydd y cwmnïau sy’n rhan ohono yn trafod eiddo deallusol.  Nid yw’r prosiect yn effeithio ar unrhyw eiddo deallusol cefndirol. Bydd unrhyw eiddo deallusol a allai gael ei greu yn ystod y prosiect cydweithredol yn cael ei drafod, a bydd angen dod i gytundeb ynghylch ei berchnogaeth. 

Defnyddio cyfleusterau ac arbenigedd prifysgolion Cymru

Pa adnoddau sydd ar gael drwy’r rhaglen Cyflymu sy’n temtio busnesau i gymryd rhan? Mae Cyflymu yn cynnig ffynhonnell barod o arbenigedd drwy fanteisio ar allu datblygu ac ymchwil tair o brifysgolion blaenllaw Cymru. Mae Sophie Lacey, Rheolwr Prosiect y Rhaglen Cyflymu, yn pwyso a mesur eu gallu arbenigol.

Mae Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe yn gartref i'r Ganolfan Technoleg Iechyd. “Mae gan y Ganolfan dechnolegwyr arloesi ac academyddion sy’n rhoi pwyslais ar fusnes, ynghyd â chyfuniad pwerus o wybodaeth dechnegol a diwylliant sy’n canolbwyntio ar fusnes. Drwy ddefnyddio hynny, gallwn lunio rhaglenni datblygu a phrofi sy’n gallu datblygu a dangos effeithiolrwydd cynnyrch. Mae tîm y Ganolfan Technoleg Iechyd yn cynnwys amrywiaeth eang o ddisgyblaethau – o fioleg celloedd i ddadansoddi data,” meddai Sophie.

Mae’r Ganolfan Technoleg Iechyd wedi helpu busnesau heb allu yn fewnol i greu prototeipiau. Erbyn hyn, mae llawer ohonynt yn gynnyrch ar farchnad dorfol sydd wedi datblygu’n gyflym. Yn ddiweddar, mae’r Ganolfan wedi bod yn gweithio ar ddeall biocemeg moleciwlau sy’n arwain at well imiwnedd yn erbyn canser. Mae arbenigwyr eraill wedi bod yn helpu busnesau i ddatblygu rhaglenni TG pwrpasol.

Mae’r Ganolfan Arloesi Technolegau Cynorthwyol wedi’i lleoli ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Mae gan y Ganolfan Arloesi arbenigedd mewn dylunio cynnyrch sy’n ymwneud yn benodol â thechnolegau cynorthwyol.  “Mae gan y Ganolfan bob math o gyfleusterau datblygedig sy’n eu galluogi i weld sut byddai cynnyrch posib yn cael ei ddefnyddio’n ymarferol, ac i brofi hyn gyda phrototeip. Mae gallu’r Ganolfan i gofnodi symudiadau a data 3D yn gallu dangos sut i wella cynnyrch technoleg gynorthwyol, neu roi gwybodaeth werthfawr ynghylch dyluniad gwreiddiol y cynnyrch. Gall hyn wneud cynnyrch yn fwy effeithiol, a chynyddu’r posibilrwydd y bydd yn cael ei fabwysiadu’n gyflym gan y sector iechyd,” eglurodd Sophie.

Mae Cyflymydd Arloesedd Clinigol (CIA) Prifysgol Caerdydd, sydd wedi’i leoli ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, yn rhoi cysylltiadau gwerthfawr i fusnesau â’r ecosystem gofal iechyd. Mae ganddo gyfoeth o gysylltiadau â meddygon, ysbytai, cleifion ac ymchwilwyr meddygol. “Maen nhw mewn sefyllfa dda i helpu busnesau i asesu gwasanaethau a chynnyrch newydd drwy dreialon cleifion, treialon cyn y cam clinigol, a threialon clinigol. Mae eu cysylltiadau gofal iechyd hefyd yn helpu busnesau i greu timau cydweithredol sy’n cynnwys arbenigedd academaidd a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, o optometryddion i ymgynghorwyr.  Ar hyn o bryd, maen nhw’n gweithio gyda busnesau i gefnogi ymchwil fasnachol arloesol ym maes datblygu cyffuriau, cynhyrchu biofarcwyr, ac elfennau eraill o feddygaeth fanwl,” meddai Sophie.

Mae'n bryd Cyflymu'ch busness

Rydym yn annog mwy o fusnesau i ystyried beth gall y rhaglen Cyflymu ei gynnig iddyn nhw. “Nod Cyflymu yw gweithio gyda busnesau sydd â syniadau arloesol ym maes gofal iechyd, a fydd yn cyfrannu at economi Cymru. Gallwch fod yn gwmni sydd wedi cofrestru yng Nghymru, sydd â chanolfan yng Nghymru, sy’n gweithio gyda chwmni o Gymru, neu'n sefydlu cwmni yng Nghymru. Gallwn weithio gyda chwmni o unrhyw faint sy’n awyddus i ddatblygu cynnyrch ar gyfer y sector gofal iechyd. Gall Cyflymu helpu i greu tîm amlddisgyblaethol sy’n ychwanegu at eich gallu presennol, a'ch helpu i weld eich busnesau yng Nghymru yn ffynnu,” meddai Gwyn.

Mae'r rhaglen Cyflymu yn cael ei hariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, drwy Lywodraeth Cymru. Mae’n helpu i sicrhau bod Cymru yn ganolfan ragoriaeth ar gyfer arloesi ym maes gofal iechyd, ac yn lle delfrydol i fusnesau. Gallai’ch prosiect fod ar waith ymhen dim o dro – rhwng mis a thri mis – gan ddibynnu ar ba mor gymhleth yw’r prosiect, a nifer y partneriaid sy’n rhan ohono.  Os oes gennych chi syniad arloesol ar gyfer gofal iechyd, os ydych eisiau cryfhau’ch tîm datblygu a gwella’ch siawns o gael llwyddiant masnachol yn y farchnad gymhleth hon, dewch i gael sgwrs â thîm Cyflymu. Mae’r tîm yn awyddus i helpu busnesau yng Nghymru i ffynnu yn y farchnad technoleg iechyd.

Gallwch gysylltu â thîm Cyflymu yn Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru drwy ffonio 029 2046 7030 (rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg), neu anfon e-bost i accelerate@lshubwales.com, i drafod eich syniad arloesol diweddaraf ynghylch gofal iechyd.