Ydych chi’n chwilio am bodlediad i brocio eich meddwl? P’un ai a ydych chi'n cymudo, yn y bath neu’n mynd i redeg, mae'r podlediadau hyn yn siŵr o roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am yr hyn sy’n digwydd ym myd gwyddoniaeth.
Pan fyddwch yn chwilio am ‘bodlediadau gwyddorau bywyd’, gall y canlyniadau eich llethu. Er mwyn arbed amser i chi, rydyn ni wedi llunio rhestr o’r ‘Podlediadau Gorau ym Maes Gwyddorau Bywyd’ i’ch helpu i ddechrau arni.
Podlediad Syniadau Iach
Mae Syniadau Iach yn bodlediad sy’n dod â’r prif feddylwyr ym meysydd iechyd a gofal ac arloesi at ei gilydd i gyflwyno safbwyntiau newydd. Mae’r gyfres, sy’n cael ei chreu gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, yn siarad ag arloeswyr, arweinwyr a dylanwadwyr allweddol yn y diwydiant, sydd wedi ymrwymo i drawsnewid gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol drwy atebion newydd ac arloesol.
Gallwch wrando ar y Podlediad Syniadau Iach.
Health Fact vs Fiction
Yn dilyn llwyddiant ei chyfres gyntaf o bodlediadau iechyd, mae'r cyflwynydd teledu, Anna Richardson, yn mynd dan groen materion yn ei chyfres ‘Health Fact vs Fiction’. Mae’r penodau hyn, sy’n para 20-30 munud, yn gymysgedd difyr a di-flewyn-ar-dafod o chwalu mythau a sgwrsio am bopeth sy’n ymwneud ag iechyd. Mae’n gofyn y cwestiynau y mae pobl eraill yn eu hosgoi, gan ddatgelu’r gwir y tu ôl i faterion meddygol bob dydd. Mae arbenigwyr blaenllaw o'r diwydiant yn ymuno ag Anna ym mhob pennod, ynghyd â gwesteion enwog sy’n rhannu eu profiadau eu hunain o fyw gyda gwahanol gyflyrau.
Gallwch wrando ar bodlediad Health Fact vs Fiction.
The Life Scientific
Rhaglen wyddoniaeth BBC Radio 4 yw The Life Scientific, a gyflwynir gan yr Athro Jim Al-Khalilia. Mae’r podlediad yn siarad â gwyddonwyr blaenllaw am eu bywyd a’u gwaith. Mae pob pennod yn canolbwyntio ar fywyd a gwaith un gwyddonydd byw, gan ddarganfod beth sy’n ei ysbrydoli a’i gymell, yn ogystal â gofyn beth allai ei ddarganfyddiadau ei olygu i ni yn y dyfodol. Os ydych chi eisiau gwybod beth mae gwyddonwyr mwyaf blaenllaw ein hoes yn ei wneud, neu'n chwilio am ychydig o ysbrydoliaeth, dyma'r podlediad i chi.
Gallwch wrando ar bodlediad The Life Scientific.
The Curious Cases of Rutherford and Fry
Dyma bodlediad sy’n ateb yr holl gwestiynau llosg sydd gennych chi. Os ydych chi’n aml yn crafu eich pen ac yn meddwl tybed sut gallai hyd yn oed gwyddoniaeth wneud synnwyr o rai o’r cysyniadau rhyfedd rydych chi’n eu clywed o bryd i’w gilydd – peidiwch ag ofni, mae’r ymchwilwyr gwyddoniaeth, Adam Rutherford a Hannah Fry, yma i helpu. Yn y penodau, mae gwrandawyr yn gofyn cwestiynau gwyddonol am fywyd bob dydd, wedyn mae'r ddau gyflwynydd yn ceisio ateb y cwestiynau gan drafod eu profiadau personol wrth wneud hynny. Ydych chi erioed wedi meddwl o ble mae’r lleuad yn dod, pam mae bwyd afiach yn blasu cystal, a sut ydyn ni’n chwilio am fywyd estron? Mae'r atebion i gyd yma. Mae’r podlediadau hyn, sy’n para 25 munud, yn wych er mwyn cael atebion i’r cwestiynau gwyddonol mwyaf syml nad oes neb yn gwybod yr atebion iddynt.
Gallwch wrando ar The Curious Cases of Rutherford and Fry.
Science Weekly
Mae podlediad Science Weekly, sydd wedi ennill gwobrau, yn lle gwych i ddysgu am y darganfyddiadau a’r dadleuon mawr ym meysydd bioleg, cemeg a ffiseg. Mae’r cyflwynwyr, Ian Sample, Hannah Devlin a Nicola Davis, yn cwrdd â gweithredwyr a meddylwyr gwych ym maes gwyddoniaeth a thechnoleg. Os ydych chi eisiau gwybod darganfod a yw cigoedd amgen yn well i ni, neu pam mae angen gwahanol fathau o gwsg ar bobl, bydd y podlediadau hyn, sy’n para 25 munud, yn siŵr o’ch bodloni chi.
Gallwch wrando ar bodlediad Science Weekly.