Fis Tachwedd diwethaf, fe wnaethom groesawu Palantir a Google ochr yn ochr ag arbenigwyr allweddol eraill yn y diwydiant data i Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru. Mewn cyfres o drafodaethau panel, buom yn edrych ar sut mae data’n dod yn fwyfwy hanfodol ar gyfer trawsnewid iechyd a gofal cymdeithasol a gwella canlyniadau cleifion. 

People sat around round tables facing a presentation on a projector. Two people are presenting.

Mae iechyd a gofal cymdeithasol yn esblygu’n barhaus ac yn addasu’n feiddgar i fyd sy’n newid. Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae ein Gwasanaeth Iechyd Gwladol wedi dangos gwytnwch yn wyneb digwyddiadau na welwyd eu tebyg o’r blaen. Fodd bynnag, dim ond yn sgil heriau mawr y mae atebion yn dod i’r amlwg, ac wrth wynebu adfyd, mae modd addasu. Mae chwyldro digidol gofal iechyd ar ein gwarthaf ac mae’n gyfle cyffrous i wella gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol i lefel newydd mewn ymateb i newidiadau ym mywydau dinasyddion y DU.

Yn Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, rydyn ni’n gwybod beth yw potensial arloesi digidol, ond sut beth yw hyn yn ymarferol? Ym mis Tachwedd 2022, fe wnaethom gynnal noson o drafodaethau panel gyda Google, Palantir, ac arweinwyr eraill yn y diwydiant. Arweiniodd hyn at sgyrsiau craff am y datblygiadau arloesol sy’n digwydd ar hyn o bryd, a gwell dealltwriaeth o’r manteision posibl i’n staff a’n dinasyddion. Roedd yn gyfle i ystyried yr heriau rydyn ni’n eu hwynebu, i ddeall sut mae integreiddio data yn rhan annatod o newid gwasanaethau, a sut mae cydweithio yn elfen hanfodol o drawsnewid digidol.

O rifau i naratifau: sut i gyfathrebu â chleifion am eu data  

Mae diogelwch data personol wedi dod yn fwy cadarn dros y blynyddoedd diwethaf, ond mae cwestiynau a phryderon o hyd ynghylch sut bydd yn cael ei ddefnyddio. Mae’n hanfodol meithrin ymddiriedaeth rhwng sectorau, a gyda defnyddwyr gwasanaethau, a gwreiddio arferion tryloyw wrth ddefnyddio data. Pwysleisiodd Justin Whatling, Cyfarwyddwr Iechyd Byd-eang gyda Palantir, yr angen i siarad yn glir â chleifion gan ddefnyddio iaith maen nhw’n ei deall, heb ddefnyddio jargon. Pan fydd cleifion yn cynnig eu data i gefnogi gwelliannau mewn gofal iechyd ac i helpu i ddiffinio polisïau ar gyfer y dyfodol, mae’n hanfodol eu bod yn gwybod beth yw’r diben ehangach y bydd yn ei gyflawni.

Wrth ystyried data o’r persbectif hwn, gallwn ei osod fel naratif. Mae ganddo’r pŵer i adrodd stori am yr hyn sy’n digwydd, pryd, ble, a gyda phwy. Mae modd adnabod tueddiadau allweddol, gellir rhagweld heriau, ac rydyn ni’n gweld effaith atebion yn cael eu rhoi ar waith. Mae’n hollbwysig bod cleifion yn gwybod hyn ac yn deall lle mae eu data wedi gwneud gwahaniaeth ar raddfa facro.  

Integreiddio data i gefnogi ymchwil 

Mae defnyddio data ar hyn o bryd yn heriol. Ar hyn o bryd, mae’r data mewn seilos ar draws sawl disgyblaeth iechyd gyda’r un data’n cael ei fwydo drwy wahanol sianeli. Does dim rhaid dweud bod casglu data i ddechrau ymchwil yn dasg gymhleth. Dywedodd Sid Rajgopalan, Arweinydd Partneriaethau Iechyd y DU yn Palantir, fod gwyddonwyr yn treulio 80% o’u hamser yn prosesu data ymlaen llaw. Mae’r ffaith nad oes ffordd safonol o gasglu data yn haen ychwanegol o gymhlethdod. Mae hyn yn arwain at ddyblygu gwaith yn ddiangen, a cholli amser gwerthfawr.

Integreiddio data yw’r ffordd ymlaen, ac mae Palantir yn gweithio’n galed i gasglu data o bob rhan o’r disgyblaethau gofal iechyd a’i roi mewn un dangosfwrdd i fod yn ‘un ffynhonnell o wirionedd’. Cyflwynir data wedyn fel delwedd ddi-dor o’r hyn sy’n digwydd ar hyn o bryd, gan nodi’r heriau a’r blaenoriaethau presennol, a chaniatáu i benderfyniadau gael eu gwneud yn effeithiol ac yn brydlon er budd cleifion ac ymarferwyr. 

Mae hyn yn arwain at waith ymchwil cyflymach ac yn caniatáu i fyrddau iechyd a gwasanaethau gofal cymdeithasol gael gafael ar ddata er mwyn nodi’n glir y setiau data gorau ar gyfer eu dangosyddion perfformiad allweddol a’u llifau gwaith. Mae Ysbyty Chelsea a Westminster eisoes wedi elwa ar fanteision hyn gyda gostyngiad o 28% yn y rhestrau aros i gleifion mewnol. 

Integreiddio data yn rhoi Cymru ar y map arloesi byd-eang 

Mae gweithio gyda data yn hanfodol os ydyn ni am gyflymu’r gwaith o drawsnewid ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Mae data’n rhoi cipolwg amhrisiadwy ar yr hyn sy’n digwydd ar hyn o bryd ac yn caniatáu i atebion gael eu rhoi ar waith yn gyflym. Dywedodd Erikjan Franssen, Pennaeth Mentrau Gwerthu AI yn Google fod gan atebion sy’n seiliedig ar ddata y potensial i gyflawni canlyniadau ystyrlon yn unol ag amserlenni cyflym. Mae’r dull hwn yn cyflwyno newid fesul cam ac yn lleihau’r llinell derfyn ar gyfer datrys problemau, sy’n golygu y bydd atebion a fyddai fel arfer yn cymryd misoedd lawer i ddatgelu canlyniadau pendant bellach ddim ond yn cymryd ychydig wythnosau. Mewn rhai achosion, gellir canfod canlyniadau ar unwaith.

Yr hyn sy’n fy nharo i’n fwyaf cyffrous yw sut mae cydweithio rhwng diwydiant, y byd academaidd ac iechyd yn sgil-gynnyrch naturiol o integreiddio data. Gyda’n gilydd, rydyn ni’n rhannu gwybodaeth sy’n dod i law, i ganfod yr heriau craidd a rhoi atebion hirdymor ar waith.  

Wrth i dechnoleg ddigidol barhau i lunio’r ffordd rydyn ni’n cael gafael ar wasanaethau ac yn eu diffinio, mae un peth yn dal i fod yn glir – mae cydweithio yn mynd i fod yn allwedd aur sy’n datgloi’r potensial diddiwedd y mae data digidol yn ei gynnig i’n systemau iechyd a gofal cymdeithasol. 

Os ydych chi’n gweithio yn y sector arloesi digidol ac yn awyddus i gael cymorth i ddatblygu a mabwysiadu hynny mewn gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, cysylltwch â helo@hwbgbcymru.com i weld sut gallwn ni eich helpu chi.