Trydydd parti

O'm safbwynt i ym maes patholeg, rwyf wedi gweld y budd sylweddol y gall Deallusrwydd Artiffisial ei gynnig i gleifion. Rwy'n hapus i rannu rhai enghreifftiau yma, yn ogystal â fy marn i am y strategaethau y mae angen i ni eu mabwysiadu er mwyn parhau i ddatblygu.

Muhammad with Eluned Morgan

Sut mae patholeg wedi bod yn arwain y gwaith o fabwysiadu Deallusrwydd Artiffisial

Yn ogystal â'm rôl fel meddyg ymgynghorol, rydw i’n arweinydd clinigol ar brosiect Patholeg Ddigidol a Deallusrwydd Artiffisial Cymru Gyfan, Gweithrediaeth y GIG. Yn y ffurf hon, rydw i wedi datblygu gwerthfawrogiad cryf o sut gall Deallusrwydd Artiffisial wella ein llwybrau i gleifion. Yn benodol, mae patholeg wedi bod ar flaen y gad ym maes mabwysiadu yng Nghymru.

Dyma bedwar ateb cyfredol sy'n defnyddio Deallusrwydd Artiffisial, neu rydyn ni’n gweithio arnyn nhw ar hyn o bryd:

Ibex Prostate, sy'n sganio samplau cyn y patholegydd, ac yn defnyddio system goleuadau traffig i raddio annormaleddau posibl. Yn ystod ein treial yng ngogledd Cymru, gwelwyd cynnydd o 13% o ran canfod canser, ac fe wnaethom symud yn gyflym i gyflwyno hyn yn genedlaethol gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru.

Fe wnaeth prosiect Deallusrwydd Artiffisial y fron Gogledd Cymru ddilyn yn gyflym, gan fynd i'r afael â chymhlethdodau diagnosis a thriniaeth canser y fron. Gall defnyddio adnodd Deallusrwydd Artiffisial i ragfynegi diagnosis a gofyn yn awtomatig am brofion pellach ar gyfer yr opsiynau triniaeth gorau leihau'r broses arferol o tua 1.5 diwrnod, gan sicrhau bod y claf yn cael cadarnhad cyflym o'i gynllun triniaeth gan y Tîm Canser Amlddisgyblaethol. Mae hyn hefyd wedi symud i gael ei gyflwyno'n genedlaethol, sydd ar waith ar hyn o bryd.

Mae gan y prosiect Deallusrwydd Artiffisial canser y llwybr gastroberfeddol uchaf nodau tebyg i brosiectau canser y prostad a chanser y fron, ond ar gyfer biopsïau’r stumog. Mae peilot y prosiect hwn wedi'i gwblhau ac mae'r data’n cael ei werthuso ar hyn o bryd.

Mae'r prosiect defnyddio Deallusrwydd Artiffisial ar draws canser yn ei gamau cynnar ond gallai arbed llawer o gleifion rhag cael oedi hir cyn cael diagnosis. Mae bron i 20% o'r atgyfeiriadau a ddosbarthwyd yn wreiddiol fel rhai 'nad ydynt yn rhai brys, nad ydynt yn ganser' yn troi allan i fod yn rhai malaen ar ôl archwiliad histolegol. Gall yr adnodd frysbennu samplau ar draws pob canser ac uwchraddio i lwybr canser brys pan y canfyddir annormaleddau.

Strategaethau ar gyfer llwyddiant

Mae nifer o strategaethau y mae'n rhaid i ni eu mabwysiadu yng Nghymru os yw'r cyfleoedd i Ddeallusrwydd Artiffisial wella'r ddarpariaeth iechyd a gofal cymdeithasol am dyfu.

Caffael patholeg ddigidol yn genedlaethol

Mae'r llwyddiant o ran mabwysiadu Deallusrwydd Artiffisial mewn patholeg yn dod er gwaethaf rhwystr difrifol. Nid yw patholeg mor ddatblygiedig o ran digideiddio o gymharu â meysydd eraill. Mae 80% o'n llwyth gwaith yn dal i ddefnyddio microsgopeg wydr – person sy'n dadansoddi sleid wydr ffisegol – heb ddigideiddio'r cyfoeth o ddata y gallai'r sampl ei gynnig. Bydd yn amhosibl mabwysiadu adnodd Deallusrwydd Artiffisial heb fwrw ymlaen â'r achos busnes dros gaffael system patholeg ddigidol yn genedlaethol. Ond, y newyddion da yw ein bod yn mynd i'r cyfeiriad cywir ac yn gobeithio cymeradwyo achos busnes yn gynt. Bydd ffynhonnell ganolog o gyllid, wrth gwrs, yn hanfodol ar gyfer hyn.

Llif gwaith digidol cyson

Ar draws sawl maes – ac yn arbennig o berthnasol mewn patholeg – ceir cymysgedd o lifoedd gwaith analog a digidol. Mewn llawer o achosion, mae p'un a yw achos claf yn cael ei ddigideiddio (ac ar ba gam o'r broses y mae hyn yn digwydd) yn seiliedig ar gyfuniad o leoliad a darpariaeth gwasanaeth. Gall newid yn ôl ac ymlaen rhwng gwahanol lifoedd gwaith arwain at wallau, hepgoriadau ac aneffeithlonrwydd.

Bydd llifoedd gwaith digidol cyson yn caniatáu i ni ddefnyddio Deallusrwydd Artiffisial, yn ogystal ag adnodd algorithmig mwy sylfaenol sy'n gallu canfod gwallau a hepgoriadau mewn set o samplau.

Mabwysiadu dull o gydsynio i ddefnyddio data

Ni ellir datblygu adnodd Deallusrwydd Artiffisial heb ddata. Ac er mwyn datblygu adnodd sy'n mynd i'r afael yn briodol ag anghenion ein poblogaeth, dylid eu hyfforddi ar ddata gan ein cleifion ein hunain. Fodd bynnag, fel y mae ar hyn o bryd, nid oes gennym ddull derbyniol o gydsynio i ddefnyddio data dienw claf i hyfforddi Deallusrwydd Artiffisial. Mae hyn yn golygu ein bod yn dibynnu ar gyflenwyr sy'n datblygu adnoddau hyfforddi gan ddefnyddio poblogaethau eraill.

Drwy ddatblygu canllawiau a phrosesau clir a thryloyw ar gyfer cael cydsyniad, gallwn hyfforddi adnoddau newydd ac archwilio adnoddau presennol, er mwyn darparu gwell gofal i'n cleifion.   

Codi ymwybyddiaeth ac ymgysylltiad â chlinigwyr a'r cyhoedd

Mae fy mhrofiad o weld Deallusrwydd Artiffisial yn cael ei ddefnyddio mewn patholeg yn dangos pa mor gyflym mae clinigwyr yn derbyn adnodd pan gyflwynir tystiolaeth o'r manteision iddynt. Roedd cydweithwyr yn gwerthfawrogi gallu Deallusrwydd Artiffisial yn syth i ategu gwaith patholegydd a manteisio i'r eithaf ar y deunydd sydd ar gael i gleifion. Gellir dyblygu'r lefel uchel hon o dderbyniad ar draws meysydd eraill, wrth i ymwybyddiaeth o'r manteision posibl y gall Deallusrwydd Artiffisial eu cynnig gynyddu.

Yn yr un modd, pan fydd cleifion yn gweld y diagnosis cyflymach rydyn ni wedi'i gael o ganser y prostad, maen nhw’n derbyn yr adnodd yn gryf.

Bydd gweithgorau amlddisgyblaethol ac ymgysylltu agored a thryloyw â chleifion yn hanfodol er mwyn mabwysiadu'n ehangach.

Gwelliannau seilwaith

Mae mynediad at ryngrwyd cyflym yn hanfodol i gefnogi'r defnydd o adnodd Deallusrwydd Artiffisial. Ar hyn o bryd, argymhellir cyflymder o 25 megabit yr eiliad o leiaf a bydd hyn ond yn cynyddu wrth i dechnoleg ddatblygu. Mewn rhai ardaloedd, mae canolfannau'n ei chael hi'n anodd dal i fyny â'r defnydd presennol, felly mae angen cryfhau seilwaith rhwydwaith TG i sicrhau bod pawb yn cael mynediad cyfartal.

Ein blaenoriaethau

Rydw i wedi canolbwyntio'n bennaf ar batholeg yma, nid yn unig oherwydd mai dyma fy maes arbenigedd, ond oherwydd bod patholeg mor hanfodol i ofal iechyd. Heb batholeg, ni allwn wneud diagnosis, a heb ddiagnosis ni allwn drin.

Mae patholeg hefyd yn faes lle gall Deallusrwydd Artiffisial fod ar ei ennill yn gyflym iawn. Mae adnabod patrymau mewn delweddau wedi bod yn un o'r meysydd Deallusrwydd Artiffisial sy'n datblygu gyflymaf, felly mae sail y rhan fwyaf o'n gwaith ym maes patholeg yn un o'r prif resymau dros gael cymorth gan Ddeallusrwydd Artiffisial.

Yn ogystal â hyn, mae'r potensial i ddatblygu a hyfforddi adnodd newydd ar gyfer patholeg yn enfawr. Mae un sleid arferol yn cyfateb i tua 5-6GB o ddata. Fel y gwyddom, mae Deallusrwydd Artiffisial yn ffynnu ar ddata, felly os gallwn ddefnyddio'r data rydyn ni’n ei gasglu mewn patholeg i hyfforddi adnoddau, gallwn ni elwa'n sydyn ac yn sylweddol.

I gyflawni hyn, bydd proses ddigidol 100% yn allweddol ac mae gen i uchelgais bersonol y byddwn yn cyflawni hyn erbyn 2026.

I ddysgu mwy am yr atebion arloesol sy'n cael eu defnyddio i ganfod canser, cysylltwch â Muhammad ar muhammad.aslam3@wales.nhs.uk.