Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru

Fel Arbenigwr Cyllid Grant yn Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, a gyda phrofiad o weithio i sefydliad blaenllaw sy'n canolbwyntio ar gynaliadwyedd, rwy'n frwd dros yr economi gylchol ym maes gofal iechyd, lle mae'r potensial yn enfawr. 

People sitting and watching a presentation at the ABHI Sustainability Conference,

Yng Nghynhadledd Cynaliadwyedd ABHI yn ddiweddar, gwelais sut mae'r sector gofal iechyd a gwyddorau bywyd nid yn unig yn barod am newid, ond y ffordd mae’n siapio newid hefyd.

Daeth y gynhadledd ag arweinwyr meddwl, clinigwyr, llunwyr polisïau ac arbenigwyr yn y diwydiant at ei gilydd i drafod sut gallwn ymgorffori cynaliadwyedd ym mhob haen o ofal iechyd. Boed yn gaffael, yn llwybrau clinigol, yn theatrau llawfeddygol neu’n gadwyni cyflenwi, roedd neges y siaradwyr yn glir: rhaid i ni weithredu nawr i adeiladu system gofal iechyd sy’n fwy gwyrdd a chadarn.

Ailfeddwl am gaffael a defnyddio cynnyrch

Gosododd Joseph Burton o Ysbytai Coleg Prifysgol Llundain y naws drwy ein herio i ailfeddwl beth mae'r GIG yn ei brynu, a sut mae'n defnyddio'r cynhyrchion hynny. Tynnodd sylw at y brys i symud oddi wrth bolisïau sy'n dal i hyrwyddo eitemau untro. Roeddent yn arfer cael eu defnyddio er hwylustod ond nawr maent yn faith amgylcheddol sylweddol.

Pwysleisiodd Burton, er bod yr awydd am newid yn gryf ymysg staff y GIG, fod rhwystrau systemig yn dal i fodoli. Rhaid i arferion caffael esblygu i gefnogi egwyddorion economi gylchol, ac mae angen i systemau logisteg fod yn ddigon cadarn i ddelio â dewisiadau amgen cynaliadwy y gellir eu hailddefnyddio. Yn galonogol, mae'r awydd am newid yno, yn enwedig o ran lleihau gwastraff.

Atal a llwybrau mwy gwyrdd

Cyflwynodd Simon Lambracos y llwybrau Greener GIRFT (Getting It Right First Time), gan ddangos sut gall cynnal gwerthusiadau wedi'u targedu, a mynd ati i nodi’r mannau problemus o ran carbon, arwain at ostyngiadau ystyrlon mewn allyriadau. Roedd ei enghraifft o lwybr canser y bledren yn dangos nad yw cynaliadwyedd a gofal cleifion yn annibynnol ar ei gilydd, ond eu bod yn gallu gwella ei gilydd.

Fe wnaeth Lambracos ein hatgoffa hefyd mai atal yw un o'r dulliau mwyaf pwerus o leihau ôl troed carbon gofal iechyd. Drwy hybu ffyrdd iachach o fyw, rydym yn lleihau'r angen am ymyriadau meddygol sydd, yn ei dro, yn lleihau allyriadau. Newid syml, ond dwys, i feddylfryd y gall pawb gyfrannu ato.

Meddwl am gylch bywyd a thrawsnewid y farchnad

Siaradodd Keith Moore o'r Gynghrair Gofal Iechyd Cynaliadwy am bwysigrwydd Asesiadau Cylch Bywyd (LCA) wrth sbarduno arloesedd cynaliadwy. Tynnodd sylw at y momentwm byd-eang y tu ôl i gynaliadwyedd, gan nodi nad yw diwydiant bellach yn gweithredu mewn un farchnad yn unig. Golyga hyn fod cynnyrch cynaliadwy yn fwy deniadol ac yn fwy ymarferol, sy’n hanfodol wrth ddelio â phandemig byd-eang o’r fath. Yn ogystal â hyn, roedd ei ddealltwriaeth o ddatgarboneiddio treialon clinigol yn tanlinellu eto'r angen am gydweithio ar draws y gadwyn gyflenwi gyfan.

Tynnodd Moore sylw hefyd at y Fenter Marchnadoedd Cynaliadwy, a sefydlwyd gan y Brenin Charles III, sy'n cefnogi sefydliadau'r sector preifat wrth iddynt newid i fod yn gynaliadwy. 

Caffael fel catalydd i newid

Rhannodd Alexandra Hammond o Dîm Caffael Cynaliadwy GIG Lloegr ddiweddariadau o’r adolygiad Greener NHS, a chanolbwyntio ar osod targedau ac adrodd ar allyriadau Cwmpas 3. Bu hefyd yn cyflwyno’r Evergreen Sustainable Supplier Assessment, sef adnodd sy'n caniatáu i gyflenwyr ymgysylltu â'r GIG ar faterion sy’n ymwneud â chynaliadwyedd. Gyda dwy ran o dair o gyflenwyr MedTech eisoes yn cymryd rhan cyn y rheoliadau sydd ar y gweill, mae'n amlwg bod y momentwm yn cynyddu.

Cafodd y farn hon ei hategu gan Heidi Barnard o Gadwyn Gyflenwi'r GIG, sy’n eirioli dros newid mewn caffael: prynu llai, prynu'n well, prynu'n wahanol. Pwysleisiodd yr angen i wobrwyo cyflenwyr sy'n blaenoriaethu cynaliadwyedd, a thynnodd sylw at ISEP Guidance for Reporting Requirements, sy’n helpu cyflenwyr i lywio drwy'r gofynion cynyddol gymhleth.

Gwledydd datganoledig: unedig o ran pwrpas

Er bod llawer o'r gynhadledd yn canolbwyntio ar GIG Lloegr, mae'r gwledydd datganoledig yr un mor ymrwymedig i gynaliadwyedd, sy'n bwysig i ni yn Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru.

  • Bu Aled Guy o Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru yn trafod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru), sy’n sail i strategaeth cynaliadwyedd Cymru. Bu hefyd yn trafod ail ddrafft arfaethedig Cynllun Cyflenwi Strategol Datgarboneiddio GIG Cymru, sy'n adeiladu ar y 46 o fentrau sydd â'r nod o leihau allyriadau o'r drafft gwreiddiol.
  • Bu Abigail Heijgelaar a Saskia Quelleron o Wasanaethau Cenedlaethol GIG yr Alban yn pwysleisio pwysigrwydd cyfrifoldeb cymdeithasol; nid yn unig o ran y GIG, ond ei gyflenwyr hefyd.

Dylunio am oes a metrigau cylchol

Bu Michael Hopkinson o’r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn rhannu cynnydd y Design for Life Roadmap. Mae’r ddogfen yn cynnwys tua 30 o gamau gweithredu, a blwyddyn yn ddiweddarach mae hanner ohonynt eisoes ar waith. Pwysleisiodd bwysigrwydd datblygu dangosyddion perfformiad allweddol a metrigau cylchol i gofnodi ein gwelliannau'n gywir, ac i sicrhau bod cynaliadwyedd yn sbardun i fesur llwyddiant.

Mewnwelediadau ar lawr gwlad a safbwyntiau'r UE

Ymunodd Sigrid Linher o MedTech Europe yn rhithiol i drafod Bargen Werdd yr UE, a dogfen Omnibus I o safbwynt y Comisiwn Ewropeaidd. Tynnodd sylw hefyd at adroddiad gan MedTech Europe ar sut gall diwydiant gyfrannu at ddatgarboneiddio gofal iechyd wrth barhau i fod yn gystadleuol.

Dull strategol ac ewyllys wleidyddol

Daeth Martin Baxter o ISEP â’r digwyddiad i ben drwy fyfyrio ar y Seithfed Gyllideb Garbon, a gyhoeddwyd yn gynharach eleni. Nododd fod y sector gofal iechyd wedi mabwysiadu dull strategol o ymdrin â chynaliadwyedd, ond rhybuddiodd fod agweddau gwleidyddol tuag at newid yn yr hinsawdd yn mynd yn dameidiog. Fel hyrwyddwyr cynaliadwyedd, bu’n ailadrodd fod yn rhaid inni helpu pobl i ddeall y wyddoniaeth ac o bosibl ailddeddfu'r wybodaeth sydd eisoes ar gael i sicrhau cydweithrediad.

Roedd y gynhadledd yn bwysig i'n hatgoffa nad pryder arbenigol yw cynaliadwyedd ym maes gofal iechyd, ond rheidrwydd. Boed yn gaffael, yn atal, yn bolisïau neu’n arferion, mae gan bob rhan o'r system rôl i'w chwarae.

Drwy groesawu cynaliadwyedd, gallwn greu system gofal iechyd sy'n darparu gofal o ansawdd uchel ar yr un pryd â lleihau ei heffaith amgylcheddol, gan sicrhau cydnerthedd hirdymor i bobl ac i'r blaned.

Os oes gennych chi gynnyrch neu brosiect cynaliadwy arloesol, a’ch bod chi’n chwilio am gyllid, cysylltwch â'n Tîm Cyllido ar fundingsupport@lshubwales.com.