Dyma flog gwadd gan Derek Walker, Prif Weithredwr, Canolfan Cydweithredol Cymru ac Yr Athro Hamish Laing, Athro Arloesedd, Ymgysylltu a Deilliannau Uwch, Prifysgol Abertawe a Chadeirydd Cynghrair Cynhwysiant Digidol Cymru.
Mae’n gyfnod pryderus, yn enwedig i bobl sy’n agored i niwed, yn yr ysbyty neu mewn gofal. Mae llawer o bobl yn wynebu gorfod hunanynysu neu warchod eu hunain am wythnosau. Nid yw’n sefyllfa y mae’r un ohonom wedi’i wynebu o’r blaen.
I lawer o bobl, diolch byth, gall technoleg ddigidol roi rhywfaint o gysur. Mae’n golygu eu bod yn gallu parhau i weld ffrindiau a theulu, siopa am nwyddau, dod o hyd i wybodaeth iechyd a chymryd rhan mewn gweithgareddau i gadw’u hunain yn brysur.
I 1 o bob 10 ohonom, fodd bynnag, nid dyma’r achos. Ac i bobl hŷn, mae’r gyfran sydd wedi’u hallgáu’n ddigidol yn uwch o lawer na hynny. Bydd llawer o bobl, yn enwedig y rhai sy’n oedrannus neu’n agored i newid, yn unig ac ar eu pen eu hunain. Mae cael at wasanaethau arbenigol, fel eu meddyg teulu neu arbenigwr yn yr ysbyty, bellach yn her enfawr.
Diolch i gyllid gan Lywodraeth Cymru, mae Canolfan Cydweithredol Cymru yn falch o helpu gwneud bywyd ychydig yn haws i rai o’r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas. Rydym yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a GIG Cymru i helpu i ddosbarthu llechi ar frys i leoliadau iechyd a gofal ledled Cymru i helpu cysylltu pobl.
Mae Llywodraeth Cymru’n darparu cyllid i brynu dros fil o lechi newydd i’w dosbarthu drwy’r cynllun newydd hwn sy’n benthyca dyfeisiadau. Fe’i cyflwynir fel rhan o fenter Cymunedau Digidol Cymru, rhaglen dan arweiniad Canolfan Cydweithredol Cymru.
Mae galw brys am lechi fel y gall pobl siarad â’u meddyg teulu yn ystod y pandemig ofnadwy hwn.
Bydd y llechi yn ategu gwasanaeth ymgynghoriadau fideo GIG Cymru, sy’n cael ei gyflwyno ar frys ar draws GIG Cymru. Mae hyn yn galluogi pobl i gael apwyntiadau iechyd a gofal o’u cartref, neu lle bynnag sy’n gyfleus. Bydd yn golygu y bydd preswylwyr a chleifion yn gallu cael ymgynghoriadau o bell gyda’u meddyg teulu a darparwyr gofal iechyd eraill, y byddai wedi bod yn anodd neu’n amhosibl fel arall.
Anfonir y dyfeisiau i gartrefi gofal, hosbisau a wardiau dros yr wythnosau nesaf. Bydd tîm profiadol o Gymunedau Digidol Cymru yn rhoi hyfforddiant a chymorth o bell i weithwyr allweddol ar sut i ddefnyddio a gweithredu’r dechnoleg gyda phobl dan eu gofal.
Cytunir ar ddosbarthiad y dyfeisiau mewn partneriaeth â byrddau iechyd sy’n gwybod ymhle y mae angen y dyfeisiau yn eu hardal. Ni allwn ymateb yn uniongyrchol i geisiadau gan bobl a sefydliadau oherwydd, ar hyn o bryd, rhaid i ni flaenoriaethu ein cymorth lle y mae’r angen mwyaf am resymau iechyd a gofal. Dyma fenter hynod gyffrous a fydd yn gwella bywyd llawer o bobl agored i niwed ledled y wlad ac yn helpu ein GIG yn ystod y cyfnod heriol hwn. Rydym yn falch iawn o helpu gwireddu hyn.