Derbyniodd y prosiect CARI-O (Risg o Osteoporosis sy'n Gysylltiedig â Chanser) gyllid gan Gronfa Sbarduno Arloesedd mewn Canser Menywod, cynllun cydweithredol sy’n cael ei redeg gan yr Academi Gwyddorau Meddygol a Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru. Mae ein blog diweddaraf yn archwilio’r prosiect a sut maen nhw’n defnyddio’r cyllid i ddatblygu atebion arloesol i wella bywydau menywod sydd wedi’u heffeithio gan ganser.

Pan fydd y rhan fwyaf o bobl yn meddwl am iechyd menywod, anaml iawn y daw iechyd yr esgyrn i’r meddwl. Eto i gyd, esgyrn iach yw'r sylfaen ar gyfer byw'n dda ym mhob oedran. Gall triniaethau canser, newidiadau hormonaidd yn ystod y menopos, a rhai mathau o feddyginiaethau hirdymor i gyd wanhau esgyrn, gan gynyddu’r risg o osteoporosis – cyflwr sy’n gallu arwain at boen torri esgyrn a cholli annibyniaeth.
Mae’r prosiect CARI-O yn mynd i'r afael â'r mater hwn sy'n aml yn cael ei anwybyddu. Ein cenhadaeth yw grymuso menywod ledled Cymru i ddeall iechyd eu hesgyrn, cymryd camau ymarferol i'w diogelu, a helpu i gyd-ddatblygu biosynhwyrydd newydd ar gyfer y cartref a allai wneud y broses o fonitro iechyd esgyrn yn haws ac yn fwy hygyrch yn y dyfodol. Drwy weithio ochr yn ochr â menywod i gynllunio a mireinio'r prototeip hwn, rydyn ni’n creu teclyn sydd wedi'i siapio gan brofiadau go iawn ac anghenion go iawn.
Gwrando ar fenywod ledled Cymru
Mae CARI-O yn cael ei arwain gan yr Athro Deya Gonzalez ym Mhrifysgol Abertawe, gan weithio’n agos gyda’r Athro Lavinia Margarit ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, Dr Paul KoFerrigno yn Eclateral Ltd (y cwmni sy’n datblygu’r biosynhwyrydd), cynrychiolwyr cleifion Debbie Shafter ac Isabel Linton o Fair Treatment for Women in Wales (FTWW), ac arbenigwyr technoleg gofal iechyd Dr Matthew Lawrence a Dr Siôn Charles o TRITECH/ARCH.
Drwy ddefnyddio cyllid Cronfa Sbarduno Arloesedd mewn Canser Menywod, dechreuon ni drwy ymgysylltu’n uniongyrchol â menywod, oherwydd bod eu profiadau wrth wraidd y prosiect hwn. Mae dau grŵp ffocws wyneb yn wyneb eisoes wedi’u cynnal, un ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn Ne Cymru gyda menywod sydd wedi’u trin ar gyfer canserau gynaecolegol, a’r llall yn Llandudno yng Ngogledd Cymru gyda menywod sy’n byw gyda sawl cyflwr ac mewn perygl o osteoporosis.
Yn ystod y sesiynau hyn, cafodd y cyfranogwyr gyfle i weld y biosynhwyrydd ar waith ac i adolygu adnoddau addysgol a gynlluniwyd i esbonio’r risg o golli esgyrn a thynnu sylw at newidiadau ataliol o ran ffordd o fyw. Roedd y trafodaethau'n amrywio o ddeiet ac ymarfer corff i
sgil-effeithiau rhai meddyginiaethau. Dywedodd nifer o fenywod eu bod wedi gadael y sesiwn gyda chynghorion ymarferol i ddiogelu iechyd eu hesgyrn, ac mae eu hadborth yn ein helpu i wella'r ffordd rydyn ni’n cyfathrebu’r negeseuon hyn.
Fe wnaethon ni hefyd gydnabod nad pob menyw sy’n gallu teithio i sesiynau wyneb yn wyneb, yn enwedig y rhai sy'n gaeth i'w cartrefi neu'n byw mewn ardaloedd anghysbell. Er mwyn sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed, rydyn ni wrthi’n paratoi dau grŵp ffocws ar-lein, gan roi cyfle i bob menyw ddysgu, rhannu a chymryd rhan.
Yr hyn a rannodd y menywod gyda ni
Roedd y sgyrsiau'n onest ac yn ddeallus, gan roi dealltwriaeth llawer cliriach i ni o anghenion a phrofiadau menywod. Teimlai nifer o gyfranogwyr y gallai gwneud profion yn y cartref fod yn drawsnewidiol. Byddai cadw golwg ar iechyd eu hesgyrn heb orfod gadael y tŷ yn arbed amser, egni a theithiau hir i’r ysbyty, sy'n arbennig o werthfawr i fenywod sy'n byw mewn ardaloedd gwledig.
Daeth hygyrchedd i'r amlwg fel thema bwysig hefyd. Fe wnaeth y menywod nad ydyn nhw’n defnyddio ffonau clyfar neu’n teimlo’n llai hyderus gyda thechnoleg, bwysleisio’r angen am gyfarwyddiadau clir, syml a gwnaethpwyd awgrymiadau hyd yn oed ar gyfer ffyrdd ymarferol o wneud y platfform yn haws i bawb ei ddefnyddio.
Tynnodd rhai cyfranogwyr sylw hefyd at sut gallai’r biosynhwyrydd gefnogi menywod mewn cartrefi gofal, gan ganiatáu monitro rheolaidd a chanfod problemau posib yn gynnar heb yr angen am ymweliadau i’r clinig dro ar ôl tro. Roedd rhai hyd yn oed yn dychmygu sut gellid addasu'r math hwn o blatfform yn y dyfodol i fonitro cyflyrau iechyd eraill, gan ei wneud yn declyn gwerthfawr ar gyfer iechyd cymunedol ehangach.
Roedd hyder ac eglurder yn themâu a gododd dro ar ôl tro drwy gydol y sesiynau. Roedd gweld y biosynhwyrydd ar waith yn rhoi tawelwch meddwl i fenywod y gallent ei ddefnyddio'n annibynnol.
Roedd newidiadau i ffordd o fyw yn elfen bwysig arall o’r drafodaeth. Dysgodd y cyfranogwyr fod diogelu iechyd eu hesgyrn yn mynd y tu hwnt i ymarfer corff rheolaidd ac yn cynnwys rhoi sylw manwl i ddeiet a faint o fitaminau sy’n cael eu cymryd. Mae deiet sy'n llawn calsiwm yn hollbwysig i gynnal cryfder esgyrn, tra bod atchwanegiadau fitamin D yn chwarae rôl hanfodol wrth helpu'r corff i amsugno calsiwm yn effeithiol. Mae hyn yn arbennig o bwysig yn y DU, lle mae golau haul naturiol yn brin yn ystod misoedd tywyllach y gaeaf, gan ei gwneud hi'n anodd cael digon o fitamin D o olau’r haul yn unig.
Fe wnaeth y sgyrsiau hyn am gamau ymarferol ffordd o fyw roi ymdeimlad newydd o rymuso i nifer o fenywod. Drwy ddeall yr effaith uniongyrchol y gall dewisiadau dyddiol fel bwyd, atchwanegiadau a gweithgaredd ei chael ar gryfder esgyrn, roedd cyfranogwyr yn teimlo bod ganddyn nhw fwy o reolaeth dros iechyd eu hesgyrn ac yn fwy parod i wneud newidiadau a allai eu diogelu yn yr hirdymor.
Troi mewnwelediad yn arloesedd
Nid technoleg yn unig yw CARI-O; mae'n ymwneud ag adeiladu llwybr ar gyfer creu effaith yn y byd go iawn.
Mae adborth menywod yn siapio cynllun y biosynhwyrydd a’r ffordd o’i ddefnyddio, tra bod Dr Matthew Lawrence yn cynnal gwerthusiad o ran costau a llwybrau i benderfynu sut gellid integreiddio'r ddyfais i wasanaethau’r GIG. Ochr yn ochr â hynny, mae fy labordy yn gweithio i ddilysu biomarcwyr ychwanegol, sy'n seiliedig ar waed, ar gyfer osteoporosis, gan gryfhau'r sylfaen wyddonol ar gyfer y biosynhwyrydd ac i sicrhau bod ei ddarlleniadau'n gywir ac yn ystyrlon yn glinigol.
Drwy gyfuno mewnwelediad cleifion, ymchwil drylwyr, a chynllunio systemau iechyd, rydyn ni’n defnyddio cyllid sbarduno’rGronfa Sbarduno Arloesedd mewn Canser Menywod i greu map trywydd i fonitro iechyd esgyrn yn y cartref sy’n hygyrch, yn gynhwysol ac yn gynaliadwy.
Ymunwch â’r daith
Cam nesaf CARI-O fydd cwblhau’r grwpiau ffocws ar-lein, mireinio platfform y biosynhwyrydd, a gweithio gyda’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau ym maes gofal iechyd. Bydd ein sesiynau ar-lein yn sicrhau y gall menywod mewn sefyllfaoedd anghysbell neu’r rhai sy’n gaeth i'r tŷ rannu eu profiadau a chael gwybodaeth am osteoporosis a strategaethau atal.
Os hoffech chi ddysgu mwy, ymuno â grŵp ffocws, neu gymryd rhan mewn ymchwil am iechyd menywod yn y dyfodol, byddem wrth ein bodd yn clywed wrthych chi. Cysylltwch â fi yn uniongyrchol ar: d.gonzalez@swansea.ac.uk neu ewch i dudalen grŵp RBGO Prifysgol Abertawe i ddysgu mwy am ein gwaith.
Awdur:
Mae’r Athro Deya Gonzalez yn arwain ymchwil drosi ym maes iechyd menywod a chanser ym Mhrifysgol Abertawe. Mae ei gwaith yn canolbwyntio ar ddulliau arloesi sy'n canolbwyntio ar gleifion, gan gynnwys offer canfod cynnar, technolegau monitro yn y cartref a datblygu therapïau wedi'u targedu ar gyfer canserau gynaecolegol.