Roedd Cynhadledd MediWales Connects 2024 yn ddigwyddiad deinamig a oedd yn tynnu sylw at ddatblygiadau diweddaraf arloesi ym maes gofal iechyd. Roedd y diwrnod yn llawn sgyrsiau a thrafodaethau craff, gan dynnu sylw at yr ymdrechion cydweithredol i wella darpariaeth a chanlyniadau gofal iechyd. Dyma grynodeb o brif bwyntiau’r dydd...
Datblygiadau mewn Oncoleg
Cefais y fraint o gadeirio sesiwn ar atebion arloesol i wella canlyniadau canser yng Nghymru. Yn ystod y sesiwn, fe wnes i drafod pwysigrwydd cydweithio ar draws sectorau a siarad am Raglen Mynd i’r Afael â Chanser Llywodraeth Cymru a gefnogir gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, sy’n ceisio cyflymu canlyniadau canser gwell.
Gallwn edrych ar hyn fel her o ran canlyniadau a gwelliannau, ond mae’n gyfle enfawr i adeiladu ar yr hyn sydd gennym yng Nghymru a sut gallwn ni neidio ymlaen. Mae gweithio mewn partneriaeth yn bwysig dros ben. Bydd hyn yn sicrhau newidiadau cyflym i roi Cymru ar flaen y gad, yn cynnwys gweithdai a sbrintiau i ddod â phobl at ei gilydd – yn enwedig i sicrhau bod hyn i gyd yn cyd-fynd â’r gwaith presennol sy’n digwydd ledled Cymru.
Rhannodd yr Athro Dean Harris, Oncolegydd yn CanSense, eu taith wrth ddatblygu prawf biopsi hylif y colon a'r rhefr. Mae’r prawf gwaed hwn yn cynnig dewis amgen mwy cywir a hygyrch i’r prawf imiwnocemegol ar ysgarthion (FIT), yn enwedig ar gyfer poblogaethau nad ydynt yn cael eu gwasanaethu’n ddigonol. Mae’r prawf yn caniatáu canfod canser y colon a’r rhefr yn gynnar a’i reoli’n well, gyda chynlluniau i ehangu’r cynllun ar gyfer profion canser yr ysgyfaint a chanser y fron.
“Gall y prawf gwaed gynhyrchu canlyniadau mewn 15 munud, a gall meddygon teulu gael y canlyniadau hyn mewn 48 awr. Mae’r platfform wedi cael ei sefydlu dros y 5 mlynedd diwethaf. Profion canser y colon a’r rhefr yw ein prif gynnyrch, ond rydyn ni eisiau ehangu i gynnwys canser yr ysgyfaint a chanser y fron – rhai o’r heriau mwyaf y mae Cymru’n eu hwynebu.” Yr Athro Dean Harris, Cyfarwyddwr Clinigol CanSense.
Mynegodd Dean ei obeithion y bydd y prawf yn cael ei integreiddio i lwybrau gofal y GIG a’i ddefnyddio fel adnodd sgrinio ar gyfer gwahanol fathau o ganser. Mae angen i’r prawf fod yn un y gellir ei gyflwyno ar raddfa fawr, a chynyddu ei gapasiti presennol deg gwaith yn fwy i gwmpasu poblogaeth Cymru, gan bwysleisio bod partneriaethau’n chwarae rhan hollbwysig.
Datblygiad arall ym maes oncoleg yw'r prosiect Prostad a gyflwynwyd gan Dr Savita Shanbhag, gyda'r nod o symleiddio llwybr diagnostig canser y prostad. Drwy ddynodi sesiynau MRI, mae'r prosiect eisoes wedi sicrhau bod yr amser aros o 8 diwrnod am ddiagnosis wedi lleihau'n sylweddol. Yr heriau nesaf i fynd i'r afael â nhw yw cyfathrebu a datblygu’r prosiect ar draws Cymru.
“Mae aros am ganlyniadau yn gyfnod anodd iawn – mae pobl yn gohirio eu bywydau ac mae’n bwysig ein bod yn lleihau’r amser aros hwn” – Savita Shanbhag, Arweinydd Canser Meddygon Teulu, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.
Arloesi Gyda’n Gilydd: Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre/ Canser Felindre
Roedd y sesiwn ‘Arloesi gyda’n Gilydd’ yn taflu goleuni ar bŵer cydweithio wrth ddarparu gofal canser arloesol ar draws de a chanolbarth Cymru. Dan gadeiryddiaeth Jennet Holmes, pwysleisiodd y sesiwn bwysigrwydd ffurfio partneriaethau cryf i ysbrydoli arloesi a gwella canlyniadau gofal iechyd.
Cyflwynodd Catherine Tilke a Jeremy Howitt ‘PORTH’ ar gyfer menter drawsnewidiol sy’n ddefnyddio dronau i wella cadernid cadwyn gyflenwi’r GIG. Mae’r dronau hyn, sy’n gallu esgyn a glanio’n fertigol, eisoes wedi dangos addewid drwy ddanfon diffibrilwyr i ardaloedd anghysbell fel Eryri yn gyflymach na cherbydau traddodiadol.
Cyflwynodd Jenett Holmes a Mick Button y Ganolfan Gydweithredol ar gyfer Dysgu, Ymchwil ac Arloesi (CCfLRI) newydd, adnodd allweddol sydd â'r nod o wella gofal canser drwy gydweithio. Bydd y ganolfan yn ganolbwynt ar gyfer amlygu a hyrwyddo cyfleoedd newydd ym maes gofal canser, gan ddarparu gofod ffisegol a gofod ar-lein i weithwyr gofal iechyd proffesiynol ddod at ei gilydd. Drwy ddod ag ystod eang o randdeiliaid ynghyd, nod y CCfLRI yw gwella ymchwil, datblygu, hyfforddiant arloesi ac addysg, a sicrhau cydnabyddiaeth ranbarthol, genedlaethol a rhyngwladol.
Mae cydweithio yn allweddol. Dangosodd y mentrau hyn ymrwymiad ar y cyd i wella canlyniadau gofal iechyd yng Nghymru, yn cynnwys defnyddio technoleg drôn i symleiddio logisteg feddygol a sefydlu canolfan bwrpasol ar gyfer arloesi.
Arloesi ym maes canser a gweithio mewn partneriaeth: Dull cydweithredol
Daeth arweinwyr y sesiynau a’r rhanddeiliaid at ei gilydd i drafod dulliau arloesol ac ymdrechion cydweithredol sydd â’r nod o wella canlyniadau canser yng Nghymru:
Moondance Cancer Initiative (MCI)
Dan arweiniad yr Athro Jared Torkington, mae MCI wedi buddsoddi £5.5 miliwn mewn prosiectau gofal canser ledled Cymru ers 2020. Yn canolbwyntio i ddechrau ar ganser y colon a'r rhefr, mae MCI bellach yn arwain ymdrechion yn erbyn pob canser. Tynnodd Jared sylw at y posibilrwydd o drechu canser y coluddyn, os caiff ei ganfod yn gynnar, a chyflwynodd Grantiau Keith James gyda’r nod o arloesi cynlluniau ymchwil a thriniaeth canser.
Canolfan Ymchwil Canser Caerdydd (CCRH)
Mae'r tasglu rhwng Prifysgol Caerdydd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, ac Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, yn canolbwyntio ar wella ymchwil canser a chanlyniadau cleifion yng Nghymru. Gyda phartneriaeth strategol â BioNTech wedi’i sicrhau tan 2026, nod CCRH yw cyflwyno brechlynnau canser mRNA ac imiwnotherapïau i gleifion canser yng Nghymru.
Cenhadaeth Canser y Gwyddorau Bywyd
Aeth yr Athro Peter Johnson i'r afael â chanolbwynt gwaith Cenhadaeth Canser y Gwyddorau Bywyd, sef canfod yn gynnar ac imiwnotherapi ar gyfer achosion canser cynyddol. Tynnodd sylw at fentrau allweddol fel y Cynllun Lansio Brechlyn Canser (CVLP) ar gyfer treialon brechlyn mRNA, a threial prawf gwaed Galleri y GIG, sy’n defnyddio DNA ar gyfer diagnosis cynnar o ganser, a disgwylir canlyniadau yn 2026.
Brwydro yn erbyn Anghydraddoldeb Canser yn Ewrop
Bu Julie Fitzsimmins o Sefydliad Canser Ewrop (ECO) yn trafod y gwahaniaethau mewn gofal canser ledled Ewrop. Tynnodd sylw at yr argyfwng gweithlu iechyd sydd ar y gorwel a chronfa gweithlu Sefydliad y Gymuned Canser Ewropeaidd, sy’n ceisio sicrhau rôl fwy gweithredol i Gymru wrth fynd i’r afael â’r heriau hyn.
Mynd i’r Afael â Chanser
Rhoddodd Jason Lintern gipolwg ar fenter Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Mae’r rhaglen yn cael ei gyrru gan gydweithio traws-sectoraidd a thraws-lywodraethol, a’i nod yw cydweddu â strategaethau cynhwysfawr gan gynnwys y cynllun gwella canser, y cynllun trawsnewid adferiad diagnostig, a’r strategaeth ymchwil canser, ac adeiladu arnynt. Mae Fforwm Diwydiant Canser Cymru yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o yrru’r ymdrechion hyn yn eu blaen, gyda’r uchelgais i Gymru gyflawni’r canlyniadau gofal canser gorau yn Ewrop.
Crynodeb
Tynnodd Cynhadledd MediWales Connects 2024 sylw at bŵer cydweithio ac arloesi wrth drawsnewid gofal iechyd. Roedd y sesiynau’n tynnu sylw at y potensial ar gyfer gwelliannau sylweddol mewn canlyniadau iechyd drwy atebion arloesol ac ymdrechion cydweithredol, gan gynnwys trawsnewid y broses o ganfod a gwneud diagnosis cynnar a thriniaethau canser arloesol.
Mae’r ymrwymiad i wella canlyniadau canser a thrawsnewid gofal canser yn neges gyson, sy’n pwysleisio pwysigrwydd cydweithio i gyflawni’r nodau hyn ar gyfer Cymru, a thu hwnt.
Os ydych chi’n sefydliad iechyd a gofal cymdeithasol sy’n awyddus i sbarduno arloesedd yn y rheng flaen, rydyn ni yma i helpu. Cysylltwch â ni i ddarganfod sut gallwn ni gydweithio a chael effaith sylweddol gyda’n gilydd. Cysylltwch â ni yma.